fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Tro hamddenol a gweddol hawdd, gyda darnau hir ohono’n draeth tywodlyd. Mae’r daith gerdded hamddenol hon, gan ddibynnu ar ba lwybr rydych chi’n ei ddilyn, yn gymharol hawdd, gyda darnau hir ohoni’n draeth tywodlyd. Mae hefyd yn cynnig yr opsiwn i chi gerdded ar hyd y creigiau, os hoffech wneud hynny. Gellir mwynhau golygfeydd godidog o Fae y Tri Chlogwyn o sawl lleoliad.

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Graddio’r Daith Gerdded: Hawdd.
Math o lwybr: Cylchol
Yn addas ar gyfer: Pawb.
Natur y tir: Mae’r daith gerdded yn cynnwys llethrau tywodlyd, cerrig camu, llethrau glaswelltog, grisiau cerrig naturiol, rhannau lle bydd angen sgramblo yn y twyni a llwybrau arfordirol creigiog.
Dechrau: Y lôn pentre ger Eglwys Penmaen, gyferbyn â’r safle bws.
Gorffen: Y lôn pentre ger Eglwys Penmaen.
Pellter y daith: 2.5 milltir /4km.
Amser cyfartalog: 2 – 3 awr.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cludiant cyhoeddus: Oes
Mannau parcio ceir: ar ochr orllewinol y pentref – cyfeirnod map AO 5278886 a chyfeirnod map 526885. Mae maes parcio bach arall ar gael yn bellach i fyny’r lôn o’r eglwys, cyfeirnod map AO 526885.
Lluniaeth: Dewch â’ch lluniaeth eich hun
Toiledau: Does dim toiledau cyhoeddus ar y daith gerdded hon.
Byddwch yn barod: esgidiau a dillad addas.
Gwybodaeth am Ddiogelwch: Gwiriwch amseroedd llanw cyn dechrau.

Manylion y daith gerdded

  1. Penmaen hyd at groesfan y nant. Wynebwch am y dwyrain a chroeswch y brif ffordd tuag at lôn North Hills (heb ei marcio). Ewch ar hyd y lôn gan basio pum bwthyn/byngalo ar y dde a throwch i’r dde ar y troad cyntaf (mae arwydd â’r gair “Beach” ar yr ochr bellaf). Ewch i lawr y rhiw heibio arwydd “Notthill” yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y chwith, yna cerddwch heibio rhagor o fythynnod wrth i’r ffordd wyro i’r chwith a throi’n fwy garw. Ewch heibio gât fach ar y dde (“Residents only – Stonesfield”) yna byddwch yn cyrraedd llwybr clir sy’n mynd i lawr tua’r dde. Ar y pwynt hwn, dylech allu gweld golygfeydd bendigedig dros y baeau a’r twyni. Bydd eich llwybr o’r pwynt hwn yn dibynnu ar y llanw – argymhellir eich bod yn gwirio hyn cyn dechrau. Os yw’r llanw’n mynd allan ac nid yw’n troi am awr, gallwch gerdded yn syth i lawr y llwybr serth o’r prif llwybr – cyfeirnod map AO 534884. Mae’r llwybr hwn yn mynd heibio cabanau Stonesfield, gan droi’n raddol i’r chwith ar ran lanwol uchaf nant Penmaen. Yma byddwch yn dod ar draws arwydd rhybudd amlwg, ‘Bathing in this area can be dangerous’. O’r pwynt hwn gallwch gerdded ar hyd ochr ddeheuol y nant i’r traeth, neu fynd dros y llwybr wedi’i ffensio sydd wedi’i farcio ‘National Trust Three Cliffs’ – i lawr llethr tywodlyd bach ac i’r traeth. Os yw’r llanw’n codi’n gyflym neu eisoes i mewn, yna bydd yn rhaid i chi ddefnyddio’r llwybr amgen dros y cerrig camu – cyfeirnod map AO cyf 538883. Mae’r llwybr yn parhau’n raddol i lawr yr allt ar drac garw nes cyrraedd y glandir llanwol. Mae tro byr iawn ar hyd yr ymyl yn dod â chi at y cerrig camu (mae trac yn parhau yma ar hyd ymyl ogleddol a gorllewinol Pennard Pill sy’n cyrraedd Parkmill yn y pen draw. Gall hwn fod yn fwdlyd mewn mannau, a bydd angen dargyfeirio drwy goetir trwchus pan fo’r llanw’n uchel. Unwaith y byddwch chi wedi croesi’r cerrig camu gallwch nawr groesi dros y penrhyn graeanog ac ar hyd ochr ogleddol a dwyreiniol Pennard Pill i gopaon y Tri Chlogwyn.
  2. Croesi’r nant i Fae y Tri Chlogwyn – tro ar hyd y traethUnwaith y byddwch ar y traeth, gallwch ddewis pa lwybr i’w ddilyn. Os yw’r llanw’n isel gallwch gerdded yr holl ffordd ar hyd y traeth i Fae Oxwich. Gallwch gerdded yn syth ymlaen tuag at gopaon y Tri Chlogwyn, ond cofiwch, bydd rhaid i chi groesi nant Pennard sy’n llifo’n gyflym ar ryw bwynt. Nid yw hyn fel arfer yn broblem os ydych yn gwisgo esgidiau dwrglos neu esgidiau glaw – neu gallwch fynd yn droednoeth. Cofiwch hefyd fod angen i chi fod yn wyliadwrus o’r llanw – peidiwch â cheisio croesi pan fo’r llanw’n codi.
  3. Dychwelyd i Benmaen. I ddychwelyd i Benmaen, gallwch gerdded drwy’r porth bwaog naturiol rhwng dau gopa dwyreiniol Bae y Tri Chlogwyn a dychwelyd ar hyd ochr ddwyreiniol nant Pennard hyd at y cerrig camu. Gall hyn fod yn wlyb ac yn llithrig, felly paratowch ymlaen llaw. Mae’n bosib cyrraedd y twyni o’r afon, ond gall fod yn anodd. Mae’r clogwyni’n dwyllodrus ac yn frau felly byddwch yn ofalus os ydych yn penderfynu dilyn y llwybr hwn. Mae llwybr arall hefyd ar gael sy’n mynd i fyny dros ben y twyni. Mae sgrialfa eithaf anodd i fyny sil ar y graig, i’r dwyrain o’r uchaf o dri chopa Bae y Tri Chlogwyn. Mae’r llwybr hwn yn eich arwain at waelod y man cychwyn ar gyfer dringo’r copa, cyfeirnod map AO 539878. Opsiwn arall, sy’n haws ond ychydig yn fwy diflas yw dringo o gyfeiriad cilfach traeth Pobbles. Dechreuwch gerdded i fyny tuag at y clwb golff yna ewch i’r chwith ar unrhyw un o’r llwybrau cerdded amlwg. Ceisiwch ddod o hyd i’r llwybr delltog ‘swyddogol’ os gallwch chi – mae’n dechrau ger cyfeirnod map AO 541878. O unrhyw ran uchaf y twyni gallwch wedyn ddilyn un o’r llwybrau niferus yn ôl i’r cerrig camu, neu gallwch gadw ar y llwybr delltog hyd at Gastell Pennard ac ymlaen i Parkmill. O’r cerrig camu ewch yn ôl i fyny’r trac graean, heibio cabanau Stonesfield a Notthill i Eglwys Penmaen.

 

Uchafbwyntiau

  • Golygfeydd godidog dros y baeau a’r twyni, Castell Pennard ac adfeilion eglwys hynafol. Golygfa o arfordir Dyfnaint a golygfa wych o Fae y Tri Chlogwyn.

Daw’r wybodaeth uchod o:Gower Coastal Walks gan Dr Gordon Avery.

Rhagor o wybodaeth

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe

# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad

Rhagor o ddolenni
i www.baytrans.org.uk
i www.traveline-cymru.org.uk

Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: