⭐ Ewch i syllu ar y sêr yng Ngŵyr ⭐
Ystyrir yr awyr dywyll yng Ngŵyr yn un o'r mwyaf clir a syfrdanol yn y DU, gan gynnig amodau perffaith i bobl sy'n hoffi syllu ar y sêr. Does dim llygredd golau uwchben ei thraethau diarffordd a’i thiroedd comin eang gan olygu y gallwch ryfeddu ar yr awyr ar noson glir wrth wrando ar y tonnau'n taro yn y pellter.
Cynhelir Wythnos Awyr Dywyll Cymru eleni rhwng 13 a 22 Chwefror, gan ddathlu'r mannau gorau yng Nghymru i edmygu awyr y nos.
Yn 2025, cydnabuwyd Tirwedd Genedlaethol Gŵyr yn swyddogol fel Cymuned Awyr Dywyll Ryngwladol - yr ardal gyntaf yn ne Cymru i dderbyn y statws llawn bri hwn gan Dark Sky International. Mae'r gydnabyddiaeth yn parhau i dynnu sylw at ymrwymiad Gŵyr i warchod bywyd gwyllt nosol a lleihau llygredd golau.
Ble i weld y sêr
Mae mannau gorau ym mro Gŵyr i wylio'r sêr yn cynnwys Porth Einon, Bae y Tri Chlogwyn a Bae Oxwich, lle mae'r traethau agored, eang yn darparu golygfeydd clir o awyr y nos.
Ar gyfer mannau ffafriol uchel, mae Cefn Bryn a Rhosili yn cynnig safleoedd uwch sy'n ddelfrydol ar gyfer edmygu awyr dywyll yr ardal ar hyd y morlin.
Beth sydd ei angen
Mae ein tudalen Awyr Dywyll yn llawn awgrymiadau da defnyddiol - o ddewis y dortsh iawn i dynnu lluniau o'r Llwybr Llaethog - gan sicrhau eich bod yn gwneud yn fawr o Wythnos Awyr Dywyll Cymru, neu unrhyw antur syllu ar y sêr yn ystod eich ymweliad nesaf â Bae Abertawe.
Gwneud yn fawr o’ch ymweliad
Mwynhewch wystrys ffres ar lan y môr.. blaswch gocos traddodiadol ym Marchnad Abertawe...gwrandewch ar gerddoriaeth fyw yn un o'n bariau lleol.... darganfyddwch ein cestyll hanesyddol neu archwiliwch ran o Lwybr Arfordir Gŵyr sy'n 38 milltir o hyd (sy'n cael ei ganmol yn eang fel un o lwybrau arfordirol mwyaf trawiadol Cymru).
Lleoedd i aros
Gorffennwch eich taith syllu ar y sêr gydag arhosiad ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr. Ymgartrefwch mewn bwthyn gwledig clyd, ymlaciwch mewn fflat arfordirol ffasiynol gyda golygfeydd o'r môr neu mwynhewch foethusrwydd gwesty steilus yng nghanol y ddinas.