Toesenni Teisen Gaws wedi’u coginio gan Calum Pickard, Prif Gogydd The Secret Beach Bar & Kitchen
Cynhwysion – Digon i 4 person
Cytew Toesenni
2 ŵy
200g o flawd codi
284ml o laeth enwyn
5g o soda pobi
5g o bowdr codi
50g o siwgr mân
Am weld sut maen nhw’n coginio? Gwyliwch y fideo llawn o’r pen-cogydd Calum yn gwneud y saig flasus hon!
Teisen Gaws
200g o gaws hufen meddal
200g o gaws mascarpone
50g o siwgr mân
100ml o hufen dwbl
50ml o wirodlyn hufen Cymreig
Garnais
Mintys ffres
Ceirios Kirsch
Pice ar y maen
Surop gwirodlyn hufen (50ml o wirodlyn, 50g o siwgr – tewychwch y cymysgedd mewn sosban fach nes ei fod yn ludiog)
25g o siwgr mân
Y dull coginio
Toesenni
Cymysgwch yr wyau, y llaeth enwyn a’r siwgr. Ychwanegwch y blawd, y powdr codi a’r soda pobi a chymysgwch y cyfan nes ei fod wedi’i gyfuno’n dda. Ni ddylai’r cytew fod yn rhy denau felly os yw’n rhy wlyb, ychwanegwch ragor o flawd.
Teisen Gaws
Chwisgiwch y caws hufen, y caws mascarpone, y siwgr a’r gwirodlyn hufen nes bod y cymysgedd yn llyfn.
Ffrio’r Toesenni
Defnyddiwch beiriant ffrio neu llenwch hanner sosban gydag olew llysiau a’i gynhesu i 180c
Tynnwch y sosban oddi ar y gwres pan fydd yn cyrraedd y tymheredd hwnnw, a gollyngwch y cytew i mewn iddo
Gan ddefnyddio llwy fwrdd, gosodwch bum llwy fwrdd o gytew i mewn i’r olew cynnes, sicrhewch eich bod yn eu troi’n gyson fel eu bod yn coginio’n drylwyr a bod ganddynt liw cyson
Tynnwch y toesenni o’r olew a’u rhoi ar ddarn o bapur cegin i sychu unrhyw olew gormodol
Rholiwch y toesenni yn y garnais siwgr i’w gorffen
Gweini
Taenwch lwyaid hael o’r cymysgedd teisen gaws ar eich plât
Gosodwch eich toesenni ar y plât
Defnyddiwch y ceirios kirsch, y pice ar y maen wedi’u briwsioni, y mintys ffres, y surop gwirodlyn hufen ac ychydig o siwgr mân fel garnais.
A dyna ni! Diolch arbennig i’r Pen-cogydd Calum a The Secret Bar and Kitchen – Dydd Gŵyl Dewi hapus!
Teimlo’n llawn ysbrydoliaeth? Cofiwch gael cip ar ein ryseitiau eraill ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi!
Ryseitiau Dydd Gŵyl Dewi: Cwrs cyntaf
gyda Langland's Brasserie
Ryseitiau Dydd Gŵyl Dewi: Prif gwrs
gyda'r Beach House, Oxwich
Ryseitiau Dydd Gŵyl Dewi: Pice ar y Maen
gyda Maddocks
Mwynhewch Ddydd Gwŷl Dewi!