Rag cig dafad morfeydd heli Gŵyr barbeciw gyda asbaragws golosgedig, madarch shitake a chawl llysiau gwyrdd y gwanwyn
gan y pen-cogydd clodwiw, Hywel Griffith
Agorodd Hywel ei fwyty arobryn ‘Beach House’ ym Mae Oxwich yn 2016 – mae Hywel a’i dîm newydd dderbyn seren Michelin chwenychedig am yr ail flwyddyn o’r bron!
(Digon i 4)
Am weld sut maen nhw’n coginio? Gwyliwch y fideo llawn o’r pen-cogydd Hywel yn gwneud y saig flasus hon!
Cynhwysion
2 x rag cig dafad
1 litr o stoc cig oen
100g o fenyn hallt meddal
24 asbaragws
20g o fintys ffres
15g o siwgr brown
50g o olew olewydd
25g o finegr sieri
100g o bys gardd
100g o flodfresych blaguro porffor
100g o datws ‘Pink Fir’ wedi’u deisio
2 glof o arlleg
1 sialotsyn banana mawr
10 madarchen shitake
Y dull coginio
Rwyf wedi dewis cig dafad yma gan nad yw’n gig sy’n cael ei ddefnyddio llawer er bod gennym ddigon ohono yng Nghymru. Pan fyddaf yn siarad â phobl maen nhw o’r farn ei fod yn rhy gryf neu’n gwynto ond dydyn nhw ddim mewn gwirionedd wedi’i flasu. Rwy’n hyderus y bydd y saig hon yn ysgafnhau’r cig dafad ac yn eich synnu, gan gael gwared ar unrhyw gamfarnau sydd gennych.
I goginio pob math o gig coch, gwnewch yn siŵr bod y cig wedi cael amser i ddod i dymheredd yr ystafell – mae peidio â gwneud hyn yn un o’r camsyniadau mwyaf a wneir wrth goginio. Hefyd buddsoddwch mewn mewnchwilydd tymheredd, dydyn nhw ddim yn ddrud iawn heddiw. Yma heddiw ar gyfer y cig dafad, rydym yn mynd i anelu at 48C – bydd hyn golygu bod y cig yn cael ei goginio’n gymedrol a dyma’r ffordd orau o fwyta cig dafad yn fy marn i (yn ogystal â chig oed a hwyaden), oherwydd gallwch doddi’r braster am ychydig yn hirach gan roi cynnyrch gorffenedig gwell i chi.
Cyneuwch eich barbeciw yn gyntaf, gadewch i’r fflamau ddiffodd yn araf – bydd hyn yn cymryd tua 40 munud, gan ddibynnu ar eich glo. Tra bo’ch barbeciw yn cynhesu, gallwch baratoi’r saig. Tewychwch eich stoc cig oen i 1/5 o’i gyfaint gwreiddiol; bydd hwn yn rhoi sylfaen blasus ar gyfer y saig.
Deisiwch eich tatws ‘pink fir’ yn giwbiau bach (tua maint pys) a’u coginio mewn dŵr hallt berw, yna draeniwch nhw a’u gadael i oeri.
Nawr gallwch roi eich cig dafad ar y barbeciw, yr ochr frasterog i lawr yn gyntaf (wrth i chi goginio, oherwydd y braster sydd ar y cig dafad mae’n bosib y bydd y fflamau’n ffaglu- os ydynt, tynnwch y cig oddi ar y barbeciw am eiliad a gadael i’r fflamau leihau – os na wnewch chi hyn bydd y cig yn ddu ar y tu fas a dydy hyn ddim yn ddelfrydol!). Gwnewch yn siŵr eich bod yn troi’r cig dafad yn rheolaidd gan sicrhau ei fod yn coginio’n gyson ar bob ochr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’ch mewnchwiliwr i wirio’r tymheredd mewnol ar ôl y 10 munud cyntaf – rydych yn anelu at 48C yn y man mwyaf trwchus.
Os nad oes gennych farbeciw, gallwch ffrio’r cig mewn padell am oddeutu 10 munud fel bod pob ochr wedi’i brownio, a’i orffen yn y ffwrn ar 160°C am 10 munud arall (neu nes bod tymheredd mewnol y cig yn cyrraedd 48°).
I wneud y dresin, rhowch y finegr mewn padell fach gyda’r siwgr a’i gynhesu nes ei fod yn dechrau codi i’r berwi, yna tynnwch e’ oddi ar y gwres a’i adael i oeri. Torrwch y mintys yn fân gyda chyllell finiog, a’i gymysgu â’r cymysgedd olew olewydd a’r finegr/siwgr, a’i roi o’r neilltu am nawr.
Torrwch y sialotsyn banana’n dafellau mân a gwasgwch y clofau garlleg, yna’u chwysu’n ysgafn mewn 25g o’r menyn.
Nawr, torrwch y rhan brennaidd o’r asbaragws i ffwrdd a’i thaflu, tociwch nhw fel eu bod tua 12cm o hyd, cadwch y darnau rydych wedi’u tocio a’u torri nes eu bod tua ½ cm o drwch – bydd y rhain yn mynd i mewn i’r cawl yn nes ymlaen.
Torrwch y coesyn oddi ar y blodfresych blaguro porffor fel bod gennych glystyrau bach. Erbyn hyn, dylai’r cig dafad fod wedi cyrraedd y tymheredd a ddymunir, felly tynnwch e’ oddi ar y barbeciw a’i adael i orffwys am 5 munud.
Erbyn hyn, dylai’r cig dafad fod wedi cyrraedd y tymheredd a ddymunir, felly tynnwch e’ oddi ar y barbeciw a’i adael i orffwys am 5 munud.
Dylai’r sialóts fod yn dryleu erbyn hyn felly ychwanegwch y stoc cig dafad sydd wedi’i dewychu atyn nhw, a’i godi i’r berwi. Yna ychwanegwch binsiaid da o halen a gollwng y blodfresych ynddo am oddeutu 2 funud.
Tynnwch y coesynnau oddi ar y madarch Shitake a’u sleisio i oddeutu ½ cm o drwch.
Nawr, rhowch eich asbaragws ar y barbeciw a’u golosgi’n gyson am 2 i 3 munud, gwnewch yn siŵr eu bod yn dyner ond heb eu gorgoginio.
Nawr rhowch eich tocion asbaragws, y madarch Shitake a’r pys i mewn i’ch cawl a’i godi i’r berwi, yna’i dynnu oddi ar y gwres yn syth ac ychwanegu’r menyn sydd ar ôl. Wrth i chi gymysgu’r menyn a’r stoc cig dafad sydd wedi’i dewychu, caiff emylsiwn ei greu – blaswch y cawl ac ychwanegwch bupur a halen fel y dymunwch.
Cyn gweini’r bwyd, rhowch y cig dafad yn ôl ar y barbeciw i’w aildwymo, yr ochr â’r asgwrn yn wynebu i lawr – bydd 2 funud yn hen ddigon.
Llwywch y cawl i mewn i’ch powlen, rhowch yr asbaragws mewn clwstwr yn y canol, cerfiwch eich cig dafad ac ychwanegu’r dresin mintys a halen môr, a’i roi ar yr asbaragws. Mwynhewch!
A dyna ni! Diolch arbennig i’r Pen-cogydd Hywel a’r Beach House Oxwich – Dydd Gŵyl Dewi hapus!
Teimlo’n llawn ysbrydoliaeth? Cofiwch gael cip ar ein ryseitiau eraill ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi!
Ryseitiau Dydd Gŵyl Dewi: Cwrs cyntaf
gyda Langland's Brasserie
Ryseitiau Dydd Gŵyl Dewi: Pwdin
gyda The Secret Bar and Kitchen
Ryseitiau Dydd Gŵyl Dewi: Pice ar y Maen
gyda Maddocks
Mwynhewch Ddydd Gwŷl Dewi!