Croquette caws gafr Pant-Ysgawn a mêl blodau gwyllt o Gymru gyda pesto garlleg gwyllt o Langland 

  

Pen-cogydd Emili0 Fragiacomo 

  

Wedi’i baratoi gan Emilio Fragiacomo, Pen-cogydd-berchennog Langland’s Brasserie, bwyty arobryn sy’n cynnig bwyd gwych, cynnyrch lleol ac un o’r golygfeydd gorau o fwyty yn y DU. 

  

Ar gyfer 6 i 8 croquette bach. 

 

Am weld sut maen nhw’n coginio? Gwyliwch y fideo llawn o’r  pen-cogydd Emilio yn gwneud y saig flasus hon! 

  

Cynhwysion ar gyfer y croquettes 

  

175g o gaws gafr Pant-Ysgawn 

100-120g o datws canllyd 

3 ŵy 

50g o flawd gwyn ar gyfer y cytew caenu 

150g o friwsion bara Panko neu rywbeth tebyg 

250ml o olew niwtral ar gyfer ffrio (olew llysiau, blodau haul, had rêp) 

1 llwy fwrdd o fêl blodau gwyllt o Gymru 

Cynhwysion ar gyfer y pesto garlleg gwyllt 

  

10g neu lond llaw o arlleg gwyllt. (Yr amser gorau i chwilio am y planhigyn amlddefnydd ac egr hwn yw’r gwanwyn, a gallwch ddod o hyd iddo ar hyd arfordir Cymru) neu 1 clof mawr neu 2 glof bach o arlleg 

10g neu lond llaw o bersli dail gwastad 

50g o gnau pinwydd 

50ml o olew olewydd 

Halen fel y dymunir 

1 llwy fwrdd o sudd lemwn 

25g o gaws Parmesan wedi’i gratio 

Y dull coginio 

  

Ar gyfer y pesto garlleg gwyllt: 

  

Dechreuwch gyda llond llaw o arlleg gwyllt a phersli a’u torri’n fân mewn prosesydd bwyd, gan grafu’r darnau i lawr o’r ochrau i sicrhau tewdra llyfn. 

Ychwanegwch 50ml o olew olewydd yn araf. 

Ychwanegwch 50g o gnau pinwydd a’u prosesu nes eu bod yn llyfn. 

Rhowch y cymysgedd mewn powlen, ychwanegwch lwy fwrdd o sudd lemwn a 25g o’r parmesan wedi’i gratio a chymaint o halen ag y dymunwch. 

Yn ddelfrydol, dylid paratoi’r pesto ddiwrnod ymlaen llaw. 

Ar gyfer y croquettes: 

  

Berwch y tatws nes eu bod yn feddal a’u draenio mewn colandr. Defnyddiwch stwnsiwr tatws neu fforc tra bydd y tatws yn dal yn dwym. 

Gadewch i’r tatws stwnsh oeri’n llwyr cyn ei gymysgu. 

Cymysgwch y caws gafr a’r tatws stwnsh nes i chi gael past llyfn. 

Oerwch y past am 10 munud yn yr oergell cyn ei siapio. 

Gwnewch siapau silindrau bach tua maint eich bys bach. 

Chwisgwch y ddau ŵy mewn powlen. 

Paratowch ddwy bowlen arall; un gyda’r blawd a’r llall gyda’r briwsion bara. 

Dechreuwch trwy gaenu’r croquettes â’r blawd, yna’r wyau, yna’r briwsion bara. Rhowch nhw yn yr wyau yna’r briwsion bara unwaith eto os hoffech gael cytew caenu mwy crensiog. 

Ffriwch nhw’n ofalus dros wres canolig, a’u troi’n ofalus nes bod y ddwy ochr yn frown euraidd. 

Tynnwch nhw allan o’r badell a’u sychu ar dywel papur. 

Arllwyswch ychydig o fêl drostynt pan fyddant yn dal yn dwym. 

I gael y canlyniadau gorau, gallwch eu pobi am 3 munud ychwanegol ar 200 gradd selsiws. 

Gweinwch y croquettes pan fyddant yn dwym gyda llwy fwrdd o’r pesto. 

  

A dyna ni! Diolch arbennig i’r Pen-cogydd Emilio a Langland’s Brasserie – Dydd Gŵyl Dewi hapus! 

  

Teimlo’n llawn ysbrydoliaeth? Cofiwch gael cip ar ein ryseitiau eraill ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi! 

  

Ryseitiau Dydd Gŵyl Dewi: Prif gwrs 

gyda'r Beach House, Oxwich 

Ryseitiau Dydd Gŵyl Dewi: Pwdin 

gyda The Secret Bar and Kitchen 

Ryseitiau Dydd Gŵyl Dewi: Pice ar y Maen 

gyda Maddocks 

Mwynhewch Ddydd Gwŷl Dewi!