Mae tair gŵyl anhygoel yn dod i Abertawe'r penwythnos hwn. Byddwch yn barod am sioeau teyrnged bythgofiadwy, hud ffair bleser a mwynhad di-baid!

Gŵyl Canu Gwlad Campfire - 20 Mehefin

AI generated person in a cowboy had watching a concert.

Gwisgwch eich esgidiau cowboi, casglwch eich ffrindiau ynghyd, a dewch i Ŵyl Canu Gwlad Campfire am ddiwrnod llawn canu gwlad bythgofiadwy, bwyd blasus a hwyl hen ffasiwn ym Mharc Singleton. Bydd sêr newydd lleol a sioeau teyrnged gwych yn perfformio ar y llwyfan ddydd Gwener 20 Mehefin rhwng 3pm a 10pm. 

Archebwch eich tocynnau ar gyfer Gŵyl Canu Gwlad Campfire nawr!
 

Gŵyl Beatmasters - 21 Mehefin

Beatmasters Festival

Ewch yn ôl mewn amser wrth i'r 90au ddychwelyd i Abertawe. Cynhelir Gŵyl Beatmasters ym Mharc Singleton ddydd Sadwrn 21 Mehefin rhwng 12pm a 10pm. Drwy gydol y dydd bydd cerddoriaeth fyw gan Wideboys, Billie Clements, Lisa Lashes, Jesse Bloch a llawer mwy. Byddwch yn barod i ailddarganfod oes aur ffasiwn, caneuon ac adloniant di-baid.

Archebwch eich tocynnau ar gyfer Gŵyl Beatmasters yma!

Gŵyl We Love It - 22 Mehefin

We Love It Festival

Gallwch orffen eich penwythnos gyda chaneuon pop a roc enwog yng Ngŵyl We Love It! Ddydd Sul 22 Mehefin, rhwng 12pm a 10pm, bydd Parc Singleton yn dod yn fyw gyda sioeau teyrnged a fydd yn dathlu eiconau cerddorol o bob cyfnod. P'un a ydych wedi bod yn gefnogwr erioed neu'n cyflwyno cenhedlaeth newydd i ganeuon diamser, mae gan y digwyddiad addas i deuluoedd hwn rywbeth i bawb.

Archebwch eich tocynnau ar gyfer Gŵyl We Love It heddiw!