O 11-12 Hydref 2025, bydd cyfle i fwynhau penwythnos llawn diwylliant bywiog a fydd yn cynnwys cerddoriaeth, gweithdai, celfyddydau gweledol a pherfformiadau byw. Cynigir y cymysgedd dynamig hwn o raglenni i bawb am ddim. Bydd arddangosfeydd pryfoclyd a gweithdai gafaelgar y gellir cadw lle ynddynt ar gael i blant ac oedolion – bydd rhywbeth at ddant pawb.
 
Dyma'r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch … 

Welsh National Theatre yn cyflwyno noson o straeon a chaneuon Cymreig gyda Michael Sheen a Martyn Joseph
 

  • Theatr Dylan Thomas, Gloucester Place, Abertawe SA1 1TY
  • 11 Hydref - 20:00 - 21:30
  • Ymunwch â Michael Sheen, actor a Chyfarwyddwr Artistig Welsh National Theatre, a Martyn Joseph, canwr a chyfansoddwr caneuon gwerin, am noson o adloniant. Dyma gyfle i gael eich swyno gan ddarlleniadau o waith awduron o Gymru, clywed Martyn yn perfformio ei ganeuon ei hun, a dysgu rhagor am fywydau cyffrous y perfformwyr enwog hyn o Gymru.
  • Bydd modd cadw lle yn y digwyddiad hwn ar-lein o 20:00 ar 1 Hydref 2025

Michael Sheen Martin Joseph

Sgwrs â Russell T Davies OBE: Abertawe Greadigol

  • The Pop Up, 33 Princess Way,Swansea, SA1 5HF
  • 11 Hydref, 18:30 - 19:30
  • Ymunwch â Russell T Davies OBE, ysgrifennwr a chynhyrchydd enwog o Gymru, am sgwrs eang am ei yrfa arloesol ym meysydd teledu, theatr ac adrodd straeon. O ailddiffinio drama ym Mhrydain gydag It's a Sin a Doctor Who, i weithio gyda Michael Sheen ar Our Town – sef perfformiad cyntaf Welsh National Theatre yn Theatr y Grand Abertawe.
  • Bydd modd cadw lle yn y digwyddiad hwn ar-lein o 19:00 ar 1 Hydref 2025

Russell T Davies

Luke Jerram - Helios

  • Eglwys Mystwyr Abertawe,11A St Mary's Square, Abertawe SA1 3LP
  • 11 - 12 Hydref, 10:00 - 22:00
  • Mae Helios yn wahoddiad i archwilio'r haul yn agos drwy gelfwaith newydd enfawr, trawiadol yn Eglwys Mystwyr Abertawe gan Luke Jerram, yr artist byd-enwog o'r DU.
  • Mwy o wybodaeth

Helios

Llwyfan Cerddoriaeth Orchard Street

  • Orchard Street, Abertawe SA1 5AS
  • 11 Hydref, 14:00 - 20:00
  • Bydd Llwyfan Orchard Street yn cyflwyno rhestr wych ac amrywiol o fandiau ac artistiaid o Gymru.
  • Mwy o wybodaeth

Ren Wolfe, Rahh! Sesiwn creu gwisgoedd a gwisgo i fyny ar thema Teigrod a Dreigiau

  • Oriel Gelf Glynn Vivian, Alexandra Road, Abertawe SA1 5DZ
  • 11 - 12 Hydref, 10:30 - 12:30, 13:30 - 15:30
  • Ymunwch â'r artist Ren Wolfe i greu gwisgoedd rhyfeddol a chael cyfle i wisgo i fyny ar set ddychmygol mewn ymateb i'r arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain!
  • Cadwch le nawr

Limbic Cinema - Vessels

  • Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AE
  • 11 - 12 Hydref, 18:30 - 23:00
  • Mae'r cerfluniau monolithig siâp pyramid hyn yn goleuo, yn rhyddhau mwg ac mae ganddynt laserau. Gallwch ddod o hyd iddynt yn y ddinas.
  • Mwy o wybodaeth

Vessels

Mumbles to Sandfields: A Journey in Poetry and Song Guinevere Clarke & Steve Balsamo

  • Urban HQ, Llys Glas, Abertawe SA1 5AJ
  • 11 Hydref, 19:00 - 19:30
  • Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain
  • Mae'r digwyddiad gair llafar hwn yn daith sy'n archwilio lleoliad unigryw Abertawe fel dinas ar yr arfordir. Mae Steve Balsamo, sy'n enwog am berfformio mewn theatrau a sioeau cerdd yn y West End, yn ymuno â'r bardd arobryn Guinevere Clark o gwmni buddiant cymunedol Poetry Into Light i rannu cyfres arbennig o gerddi newydd sy'n llawn straeon o'r môr a'r tir a fydd yn ymdrin â chof, lle a theulu.
  • Mwy o wybodaeth

Guineveve Clarke Steve Balsamo

Arnold Matsena, Mwari

  • St David’s Place, Abertawe SA1 3LG
  • 12 Hydref, 12:00 - 12:15
  • Tapestri byw yw'r ddawns hon – sy'n deillio o ryfeddodau plentyndod, angerdd glasoed a chryfder tawel pan fydd pendantrwydd yn cynyddu.
  • Mwy o wybodaeth

An AI generated teddy and an angel in front of a fire.

Crëwch eich symudyn eich hun gyda'r artistiaid Lowri Ann, Lisa Burkl a Weixin Liu

  • Oriel Mission, Gloucester Place, Abertawe SA1 1TY
  • 11 - 12 Hydref, 10:00 - 11:30, 12:00 - 13:30, 14:30 - 16:00
  • Ymunwch â ni am weithdy llawn hwyl i'r teulu! Gan weithio gyda thri artist gwahanol, cewch gyfle i arbrofi â thechnegau crefft amrywiol (fel gwifr, gwydr a phapur) a chreu eich symudyn pwrpasol eich hun i'w arddangos yn falch yn eich ffenestr neu gartref.
  • Cadwch le nawr

O'r Golwg yng Ngolwg Pawb. Wedi’i ddal drwy’r lens

  • Gorsaf Drenau Abertawe, Y Stryd Fawr, Abertawe SA1 1NU
  • 11 – 12 Hydref, 11:00 - 14:00
  • Mae ‘O'r Golwg yng Ngolwg Pawb’, taith gerdded ffotograffiaeth 3 awr drwy Abertawe a gynhelir gan Saba Humer, ffotograffydd dogfennol cymwysedig, yn cwmpasu tirnodau allweddol a thynnu lluniau o bob lleoliad o onglau unigryw.
  • Cadwch le nawr

Gweithdai Syrcas, Organised Kaos

  • St Mary's Square, Abertawe SA1 3LP
  • 11 Hydref, 10:00 - 12:45, 14:30 - 17:45 | 12 Hydref 10:00 - 12:45, 14:30 - 16:45
  • Cyfle i brofi byd hudol celfyddydau'r syrcas gyda'n gweithdai sgiliau syrcas yn yr awyr ac ar y tir – profiad ymarferol cyffrous i bob oedran a lefel sgiliau!
  • Cadwch le nawr

Dancers