Rydym yn chwilio am 10 perfformiwr Cymreig neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n frwd am symudiad a dawns i fod yn gast craidd i ni ar gyfer y digwyddiad untro cyffrous hwn o’r enw OLYMPIC FUSION.
Bydd OLYMPIC FUSION yn dod â phedair cymuned sy’n gysylltiedig â’r ychwanegiadau mwyaf newydd at y Gemau Olympaidd at ei gilydd – sglefrfyrddwyr, syrffwyr, dringwyr a bregddawnswyr. Gan ddefnyddio dylanwadau o amryfal gyfeiriadau, bydd y brodyr Matsena yn rhoi eu hymagwedd amlddisgyblaeth unigryw ar waith i gysylltu’r pedair camp nodedig hyn drwy bŵer rhythm a dawns i greu perfformiad dwys a chyffrous ddydd Sadwrn 5 Hydref 2024.
Mae’r cyfle hwn yn agored i bawb, o bobl broffesiynol i’r rheini sy’n symud gartref ac o unrhyw ddisgyblaeth.
Rydym yn gweithio i fod mor gynhwysol â phosib ac yn hyrwyddo’r Model Cymdeithasol o Anabledd. Rydym yn annog ceisiadau gan bobl â namau a gofynion mynediad penodol. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i geisio chwalu unrhyw rwystrau a all eich atal rhag cymryd rhan yn y prosiect.
Clyweliadau – cânt eu cynnal yn Abertawe (lleoliad i’w gadarnhau) dros 3 sesiwn grŵp tebyg i weithdy ((bydd angen i chi fynychu un gweithdy yn unig)
- Dydd Mercher 3 Gorffennaf, 6.30pm – 8.30pm
- Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf, 11am – 1pm
- Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf, 2pm – 4pm
Ymarferion – dydd Llun 23 Medi i ddydd Gwener 4 Hydref – mae’r amserlen union i’w chadarnhau ond byddwch yn gweithio hyd at 40 awr yr wythnos.
Dyddiad y digwyddiad – 5 Hydref
Ffi am ymarferion a berfformiadau – £620 yr wythnos
Treuliau – Os nad ydych yn byw yn Abertawe neu’n agos i Abertawe yna gallwn ystyried darparu llety neu gyfrannu at gostau cymudo ar gyfer yr ymarferion a’r digwyddiad (yn anffodus, ni allwn gynnig unrhyw gymorth ariannol ar gyfer y clyweliadau).
I ymgeisio
Anfonwch fideo byr ohonoch yn symud a/neu CV i Olympic_fusion@deryncoch.com
Nid oes angen profiad proffesiynol blaenorol er mwyn gwneud cais.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Gwener 21 Mehefin am 1pm
Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd i’r clyweliadau erbyn 5pm ddydd Mawrth 25 Mehefin.
Ni fyddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr aflwyddiannus