Pan ddaw tymor yr ŵyl i ben ar ddechrau'r flwyddyn newydd, gall y dyddiau byr a'r tywydd oer fod yn heriol. Felly, y gaeaf yw'r amser perffaith i ganolbwyntio ar eich lles.

P'un a ydych yn chwilio am anturiaethau awyr agored, profiadau diwylliannol neu gyfleoedd i ymlacio, mae popeth y mae ei angen arnoch ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr i fwynhau hoe berffaith yn ystod y gaeaf.

A couple walking across Three cliffs in the winter

Ewch i'r Awyr Agored

Gall gweithgarwch corfforol roi hwb i'ch hwyliau a'ch lefelau egni. Mae awyr iach a bod allan ym myd natur bob amser yn donig. Ewch am dro hir yn Abertawe wledig hyfryd, neu beth am gerdded ar hyd llwybr yr arfordir er mwyn cael ychydig o awyr iach?

Os hoffech gael profiad bythgofiadwy, gallwch gyfuno antur ag ymlacio: mwynhewch sawna lliniarol ar y glannau cyn mentro i'r môr!

People sitting in a sauna hut at Ty Sauna

Ewch ar Eich Beic!

A fyddai’n well gennych deithio ar gefn beic na cherdded? Archwiliwch filltiroedd o lwybrau beicio atyniadol, y mae llawer ohonynt yn rhan o'r Llwybr Celtaidd a'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. P'un a ydych yn feiciwr profiadol neu'n awyddus i fwynhau taith hamddenol, bydd llwybr at eich dant chi. Dim beic? Dim problem – mae’n hawdd llogi beic yn lleol.

Three cyclists, cycling away from the camera, on a bike path surrounded by trees.

Cyfleoedd i Gadw'n Heini Dan Do

Boed law neu hindda, mae digon o hwyl ar gael dan do. Profwch eich cryfder ar wal ddringo, rhowch gynnig ar daflu bwyell neu mentrwch ar gwrs rhwystrau Ninja Warrior i gael chwistrelliad o adrenalin.

Os hoffech wneud rhywbeth mwy hamddenol, ewch i gaffi gemau bwrdd i ddatrys posau, chwerthin ac ymlacio mewn awyrgylch croesawgar.

Man climbing a rock wall at the Climbing Hanger

Ymgollwch Mewn Diwylliant a Chreadigrwydd

Bwydwch eich chwilfrydedd drwy'r arddangosfeydd anhygoel yn ein horielau a'n hamgueddfeydd neu rhowch eich creadigrwydd ar waith mewn gweithdy crefftau, sy'n berffaith ar gyfer dysgu sgiliau newydd a gwneud rhywbeth hardd i'w gadw.
Gyda'r hwyr, gwyliwch sioe hudolus neu mwynhewch gerddoriaeth fyw mewn bar lleol.

Friends painting in Founders & Co during The Paint Along Lady workshop

Cyfleoedd i Feithrin Cyfeillgarwch Wrth Fwyta

Y gaeaf yw'r tymor perffaith i rannu bwyd da â phobl wych – dechreuwch drwy ymlacio mewn siop goffi arfordirol gyda'ch hoff siocled poeth a theisen gartref. Beth am adael i rywun arall goginio wrth i chi fwynhau noson hamddenol? O fwytai sy'n cynnig golygfeydd ysgubol o'r môr, i dafarndai â thanau poeth yng nghefn gwlad, mae digon o fannau croesawgar i flasu prydau lleol, gan gynnwys cocos a bara lawr neu bowlen o gawl cynnes.

A Couple drinking coffee and hot chocolate at the King Arthur

Dewch o Hyd i'ch Lle Perffaith i Ymlacio

Ydych chi'n breuddwydio am olygfeydd arfordirol, atyniadau gwledig neu arhosiad yng nghanol dinas? Mae Bae Abertawe'n cynnig rhywle delfrydol i'ch helpu i ymlacio. O westai ffasiynol i fythynnod clyd, cewch groeso cynnes ble bynnag y byddwch yn dewis aros.
Ydych chi'n dod â'ch anifail anwes? Dewiswch y llety mwyaf addas i gŵn er mwyn mwynhau moethusrwydd gyda'ch gilydd.

A dog by a log burner.

Dewch i Fwynhau Gaeaf Llawn Lles

Pam oedi? Dechreuwch gynllunio hoe i hybu eich lles yn ystod y gaeaf a rhowch gyfle i Fae Abertawe eich hudo!

Hoffem weld uchafbwyntiau eich hoe yn ystod y gaeaf – tagiwch ni yn eich lluniau: @BaeAbertawe #LlesHapus #HoeYnYGaeaf #GaeafLlawnLles

Close up Rhossili Bay