P'un a yw eich adduned Blwyddyn Newydd yn nod ffitrwydd, yn fwriad i gefnogi mwy o gerddoriaeth ar lawr gwlad, neu ymgolli'n llwyr mewn diwylliant lleol, mae gan Fae Abertawe rywbeth i chi ei fwynhau ym mis Ionawr...
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer y rasys iau yn 10k Bae Abertawe 2026!
Pa ffordd well o gychwyn 2026 na thrwy anelu am 10k Bae Abertawe? Mae’r digwyddiad yn dychwelyd ddydd Sul 20 Medi 2026.
Llenwyd pob lle ar gyfer digwyddiad y llynedd, felly peidiwch â cholli'ch cyfle i gymryd rhan. Gallwch gofrestru nawr, ac mae cynnig cynnar ar gael am gyfnod cyfyngedig - y cymhelliant perffaith i sicrhau eich lle cyn pawb arall.
- Pryd: Dydd Sul 20 Medi
- Ble: Canol Dinas Abertawe
Wythnos Lleoliadau Annibynnol yn Nhŷ Tawe
Dathlwch Wythnos Lleoliadau Annibynnol gyda dau berfformiad gwerin cyffrous yng Nghanolfan Gymraeg, y Celfyddydau a Chymunedol Abertawe, sef Tŷ Tawe.
- Pryd: Dydd Gwener 30 Ionawr a dydd Sadwrn 31 Ionawr
- Ble: Tŷ Tawe
Ddydd Gwener 30 Ionawr, ymunwch â'r cerddor o Gaerdydd, cyn-enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn a'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, The Gentle Good. Ac yntau'n adnabyddus am ei alawon hudolus, ei arddull gitâr gain a'i drefniannau acwstig hardd, mae ei albwm newydd Elan yn bortread seicedelig o Gwm Elan ym Mhowys, sy'n archwilio hanes a gwleidyddiaeth y dirwedd. Cefnogir The Gentle Good gan Bethan Nia.
Gorffennwch y mis ar uchafbwynt, gan ddathlu rhyddhau albwm cydweithredol hir-ddisgwyliedig y ddwy gantores-gyfansoddwraig o Ogledd Cymru, Eve Goodman a SERA, sef Natur ddydd Sadwrn 31 Ionawr, emyn cariad i elfen gylchol menywod a natur. Mae'r albwm yn daith gyfoethog ac amrywiol o ganeuon bachog, ergydiol am ludded llwyr a bywyd modern (Anian), i fendithion Celtaidd teimladwy wedi'u gwreiddio ym myd natur a'r elfennau (Bendith). Cefnogir Eve Goodman a SERA gan y ddeuawd Chwaer.
Mwynhewch noson fythgofiadwy o gerddoriaeth yn Neuadd Brangwyn
Ddydd Sadwrn 17 Ionawr, bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cyflwyno Clash of the Titans gyda choncerto telynegol Brahms i'r feiolin a Symffoni Rhif 1 fawreddog Mahler. Mwynhewch alawon hudolus a pherfformiadau syfrdanol gan yr arweinydd Ryan Bancroft a'r feiolinydd clodwiw Johan Dalene yn un o leoliadau mwyaf eiconig Abertawe.
- Pryd: Dydd Sadwrn 17 Ionawr
- Ble: Neuadd Brangwyn
Peidiwch â cholli'r perfformiad gwefreiddiol, hyfryd a hudolus hwn gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Profwch hanes byw – ymunwch â Gwasael Gŵyr
Profwch draddodiad hudolus canol gaeaf yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr ym mis Ionawr, pan fydd yr atyniad poblogaidd yn cyflwyno Gwasael Gŵyr.
Ymunwch yn y dathliadau treftadaeth leol i fendithio'r berllan am flwyddyn ffrwythlon i ddod gyda gorymdeithiau wedi'u goleuo â ffaglau, cerddoriaeth werin, dawnsio Morys, y Fari Lwyd hanesyddol, ac, wrth gwrs, ganu gwasael.
- Pryd: Dydd Sadwrn 10 a Dydd Sul 11 Ionawr
- Ble: Canolfan Treftadaeth Gŵyr
Mae cymysgedd bywiog o lên gwerin a miri yn eich disgwyl yng nghanol Gŵyr.
Edrych ymlaen at Croeso
Bydd Croeso, dathliad Abertawe o bopeth Cymreig, yn dychwelyd i ganol y ddinas ar benwythnos Dydd Gŵyl Dewi! Bydd yr ŵyl eleni, mewn cydweithrediad â Shirgar, yn cynnig y gorau o ddiwylliant lleol Cymru, gan gynnwys:
- Bwyd a diod stryd artisan
- Arddangosiadau coginio
- Cerddoriaeth fyw
- Gweithdai a mwy!
Pryd: Dydd Sadwrn 28 Chwefror a Dydd Sul 1 Mawrth
Ble: Canol y Ddinas