Ym mis Gorffennaf, caiff dwy ffilm haf fythgofiadwy eu dangos yn Abertawe yn ystod penwythnos penigamp o dan y sêr. Dechreuwch eich penwythnos gyda chlasur go iawn o'r 1980au, sef Dirty Dancing, nos Sadwrn 26 Gorffennaf. Yna, nos Sul 27 Gorffennaf, byddwn yn dathlu 50 mlynedd ers rhyddhau Jaws drwy ddangos y ffilm honno, sy’n siŵr o dynnu dŵr o’ch dannedd.
Bydd y nosweithiau hyn yn brofiad sinematig perffaith i bawb o bob oedran sy'n dwlu ar ffilmiau. P'un a ydych yn gwylio'r ffilmiau hyn am y tro cyntaf neu'r canfed tro, byddwch yn mynd yn syth o foethusrwydd y Cae Lacrosse, Parc Singleton, yn Abertawe i ganol y cyffro.
Prynwch eich tocynnau heddiw a pharatowch am benwythnos llawn ffilmiau gwych!
Dirty Dancing
Bydd sinema awyr agored Abertawe ar y Cae Lacrosse, Parc Singleton yn dangos Dirty Dancing nos Sadwrn 26 Gorffennaf.
Gwybodaeth am y ffilm: Mae Dirty Dancing, ffilm sydd wedi'i gosod ym 1963, yn adrodd stori serch Frances 'Baby' Houseman (Jennifer Grey) a Johnny Castle (Patrick Swayze). Mae ‘Baby’ yn cwrdd â'r hyfforddwr dawnsio Johnny mewn parti dawnsio cyfrinachol ar gyfer staff cyrchfan, gan gychwyn eu stori serch. Yna mae'r stori'n eu dilyn drwy gydol tymor y gwyliau wrth iddynt geisio cuddio eu perthynas rhag y bobl o'u cwmpas cyn i'r brif sioe dalent gael ei chynnal ar ddiwedd y tymor. Mae'r sioe dalent yn cynnwys yr olygfa ddawnsio eiconig rhwng ‘Baby’ a Johnny i gyfeiliant y gân ‘I've had the time of my life’.
Graddfa: 12A

Jaws
Bydd sinema awyr agored Abertawe ar y Cae Lacrosse, Parc Singleton yn dangos Jaws nos Sul 27 Gorffennaf.
Gwybodaeth am y ffilm: Mae'r ffilm Jaws gan Steven Spielberg, sy’n seiliedig ar y llyfr o'r un enw a gyhoeddwyd ym 1974, yn dathlu ei hanner canmlwyddiant yn 2025.
Felly, mae'n hen bryd i ni wylio'r clasur bytholwyrdd hwn eto. Mae'r ffilm yn dilyn Martin Brody (Roy Scheider), heddwas sy'n cael help eigionegwr, Matt Hooper (Richard Dreyffus), a heliwr siarcod proffesiynol, Quint (Robert Shaw), i hela siarc mawr gwyn sydd wedi bod yn erlid pobl ar y traeth yn Amity Island, tref glan môr yn New England.
Graddfa: 12A
