Mae Castell Ystumllwynarth yn eistedd ar ben y bryn yn y Mwmbwls, gyda golygfeydd godidog o Fae Abertawe. Mae'r castell llawn hanes ac wrth i chi archwilio hen waliau'r castell byddwch yn darganfod sut roedd pobl yn byw yn ystod yr oesoedd canol ac yn darganfod rhannau o'r castell sydd wedi cael eu cuddio ers canrifoedd.
Y mis Hydref hwn mae gan gastell Ystumllwynarth restr arbennig o ddigwyddiadau bwganllyd i bobl o bob oedran!
Castell Bwganllyd🎃
Bydd noson Calan Gaeaf yn llawn hwyl yn hytrach na braw yn y Castell Arswydus! Gan ddefnyddio ffyn hud, bydd angen i chi ddychryn y gwrachod drygionus a'r goblins drewllyd cyn mynd i weld dreigiau a'r wrach ddrwg am amser stori. Ni fydd unrhyw beth yn codi ofn arnoch!
Bydd sioeau'n dechrau am 11.15am, 12.15pm, 1.15pm a 3.15pm.
Codir ffïoedd mynediad: £4 am blentyn, £6 am oedolyn, £12 am docyn teulu bach (1 oedolyn a 2 blentyn), £18 am docyn teulu (2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn). Mae mynediad ar gyfer cadeiriau gwthio a phlant bach hyd at 3 oed AM DDIM. Gallwch dalu ffïoedd mynediad wrth y prif gât ar y diwrnod.
Ochr Dywyll Castell Ystumllwynarth 👻
Mae Digwyddiad Calan Gaeaf Ochr Dywyll Castell Ystumllwynarth yn brofiad hollol unigryw. Byddwch ar eich pen eich hun yn y castell gyda dim ond ychydig o bobl eraill a'ch tywysydd a fydd yn adrodd straeon iasoer sydd weithiau'n greulon, weithiau'n bryderus am hanes tywyll Castell Ystumllwynarth... bydd yn dywyll ac yn dawel heblaw am ambell sgrech.
Mae teithiau Ochr Dywyll Castell Ystumllwynarth yn para tua 1.5 awr. Gan ddechrau am 7.30pm, cynhelir y teithiau ar y dyddiadau canlynol - 31 Hydref a 6, 12, 19 a 26 Tachwedd. £12 yr un yw pris tocyn. Rhaid cadw lle.