Mae Abertawe'n gartref i gasgliad gwych o leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad gan gynnwys Elysium, Hippos, Sin City, The Bunkhouse a Thŷ Tawe. Mae'r lleoliadau hyn yn llawer mwy nag ystafelloedd perfformio; pwerdai diwylliannol yw'r rhain sydd wedi llunio hunaniaeth Abertawe, wedi meithrin cenedlaethau o ddoniau ac wedi darparu lleoliadau hanfodol ar gyfer annog creadigrwydd, gwrthddiwylliant a chymuned. Ymhell cyn i artistiaid gyrraedd llwyfannau mwy, dyma ble maen nhw'n tyfu, yn arbrofi ac yn dod o hyd i'w llais.
Ar adeg pan fo'r lleoliadau hyn yn wynebu pwysau cynyddol, mae eu dyfodol yn dibynnu ar bobl yn camu drwy'r drws. Hoffem eich gwahodd i ailddarganfod y lleoedd sy'n cadw ysbryd cerddorol Abertawe yn fyw a'u profi'n uniongyrchol.
Oriel Elysium
Mae Oriel Elysium wedi esblygu o fod yn brosiect bach a arweinir gan artistiaid i fod yn ddarparwr stiwdios mwyaf i artistiaid yng Nghymru, yn oriel brysur ac yn gonglfaen i ecosystem cerddoriaeth fyw Abertawe. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ei chynnig cerddoriaeth wedi ehangu'n gyflym, ac mae bellach yn cynnwys popeth o bync i jazz arbrofol, cerddoriaeth y byd, cerddoriaeth werin a mwy, yn ogystal â nosweithiau rheolaidd fel clwb comedi Rogues' Gallery a sesiynau meic agored Barddoniaeth a Gair Llafar Talisman.
Mae Oriel Elysium yn dechrau ar bennod newydd gyffrous. Mae'r sefydliad wedi cymryd drosodd hen siop adrannol JT Morgan, sef tirnod lleol eiconig, ac mae'r gwaith adnewyddu ar y gweill i symud yr oriel yno ym mis Mehefin. Mae stiwdios artistiaid eisoes ar agor ar y safle newydd, a bydd y lleoliad presennol ar y Stryd Fawr yn dod yn ganolfan gerddoriaeth a pherfformio bwrpasol a fydd yn cynnwys mannau perfformio ac ystafelloedd ymarfer mwy.
Hippos
Wrth ymyl gorsaf drenau Abertawe, mae Hippos wedi dod yn ganolbwynt pwysig ym mywyd nos amgen y ddinas. Dyma leoliad ar gyfer cerddoriaeth egni uchel lle mae artistiaid dylanwadol yn gwrthdaro â diwylliant tanddaearol y ddinas. Y tu mewn i'r lleoliad, gallwch fwynhau perfformiadau bach, setiau DJ cerddoriaeth electronig ac awyrgylch sy’n seiliedig ar sain a’r gymuned. Y tu allan i'r lleoliad, mae'r ardd gwrw enwog, ynghyd â'i wal graffiti esblygol, sy’n gefndir i sesiynau haf chwedlonol Hippos.
Mae Hippos yn cynnal perfformiadau cerddorol rheolaidd sy'n dod ag awyrgylch gwyliau cerddoriaeth i'r Stryd Fawr, gan hyrwyddo artistiaid sy'n dod i'r amlwg wrth groesawu enwau fel Roni Size, Mandidextrous, Aries, a mwy. Mae'r momentwm yn parhau yno; mae'r nosweithiau sydd ar ddod yn cynnwys artistiaid enwog, gyda digon o bethau annisgwyl ar y gorwel.
Sin City
Mae Sin City yng nghanol Abertawe, ac mae'n un o leoliadau a chlybiau nos cerddoriaeth fyw annibynnol mwyaf Cymru, gyda hanes balch sy'n dyddio'n ôl i 2007. Dros y blynyddoedd, mae wedi croesawu enwau cyfarwydd mawr wrth guradu rhai o nosweithiau mwyaf bythgofiadwy'r ddinas, gan ddenu miloedd o ymwelwyr ar draws dwy ystafell a theras awyr agored mawr.
P'un a ydych yn mynd i'r lleoliad am y tro cyntaf i weld sioe artist sy'n dod i'r amlwg yn y DU, neu'n ymweld â'r lleoliad yn rheolaidd wythnos ar ôl wythnos, mae Sin City yn lleoliad sydd bob tro'n addo noson o safon, gan barhau i lunio tirwedd cerddoriaeth fyw Abertawe.
The Bunkhouse
Gellir dod o hyd i The Bunkhouse ar strydoedd cefn Abertawe. Dyma leoliad a adeiladwyd i roi rhywle i fandiau ddechrau arni – lleoliad sy'n caniatáu iddynt wneud camgymeriadau, gwella a dal ati. Ers i’r lleoliad agor yn 2018, mae wedi cynnal perfformiadau wythnosol, gan groesawu artistiaid lleol, bandiau ac artistiaid sydd ar daith am y tro cyntaf ac artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol sy'n teithio drwy Abertawe yn arbennig. Mae rhai nosweithiau’n brysur ac eraill yn dawel, ond mae'r genhadaeth yn parhau; cadw cerddoriaeth wreiddiol yn fyw mewn dinas sy'n llawn talent, hyd yn oed os nad yw'r isadeiledd bob amser ar gael.
Y tu hwnt i'r llwyfan, mae The Bunkhouse yn buddsoddi'n helaeth yn y genhedlaeth nesaf drwy weithdai, hyfforddiant a sesiynau sgiliau sy'n rhoi llwybrau i bobl ifanc i gerddoriaeth heb orfod dibynnu ar gysylltiadau, arian parod neu adleoli.
Tŷ Tawe
Tŷ Tawe yw canolfan Gymraeg, celfyddydau a chymunedol Abertawe – lle croesawgar sy'n cyfuno diwylliant, creadigrwydd a chysylltiad. Mae'r lleoliad yn cynnwys ystafell ddigwyddiadau amlbwrpas, siop lyfrau, caffi, swyddfeydd a mannau cyfarfod, ac mae'r cyfan yn cael ei gynnal gan Fenter Iaith Abertawe, menter Gymraeg y ddinas.
Drwy raglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol ledled Abertawe, mae'n gweithio i greu cyfleoedd i bawb fwynhau ac ymgysylltu â'r iaith a'r diwylliant gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn rhan fywiog o hunaniaeth y ddinas.
Rhagor o Wybodaeth
Music Venue Trust
Gan arwain y mudiad cenedlaethol a rhyngwladol i gynnal ac ehangu'r sector lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad, mae'r Music Venue Trust yn gwarchod, yn diogelu ac yn gwella lleoliadau ledled y DU.
Digwyddiadau
Gallwch ddarganfod digwyddiadau gwych sy'n cael eu cynnal ar draws Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr.