Mae'r haf wedi cyrraedd Bae Abertawe. Mae'n amser i fwynhau diwrnodau ar y traeth, troeon gyda ffrindiau, picniciau yn y parc a hufen iâ! Mae digon i'w wneud dan do ac yn yr awyr agored, darllenwch ymlaen i glywed am uchafbwyntiau'r mis hwn!

Teithio ar fysus am ddim yn dychwelyd ar gyfer yr haf!

Eleni, bydd y cynnig bysus am ddim ar gael bob dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 19 Gorffennaf a 31 Awst. Gall pawb elwa o'r cynnig ar yr amod bod eu taith yn dechrau ac yn dod i ben yn Abertawe, tan 7pm.

Jo Joio by a Bus

Yr Haf yn ein Lleoliadau Diwylliannol

Gyda mis o wyliau'r ysgol i'w lenwi, ewch i'n lleoliadau diwylliannol i fwynhau gweithdai, ffilmiau, gweithgareddau hunanarweiniedig, llwybrau, arddangosfeydd a mwy - a'r cyfan am ddim!

Cwblhewch Sialens Ddarllen yr Haf eleni, ewch i archwilio llwybr Antur Amgueddfa Grimwood yng Nghanolfan Dylan Thomas neu ewch ar daith am ddim i deuluoedd o gwmpas Oriel Gelf Glynn Vivian. Gallwch weld rhestr lawn o weithgareddau ar ein gwefan.

Crafts

Theatr Awyr Agored - 13 a 14 Awst

Bydd y theatr awyr agored yn dychwelyd i diroedd delfrydol Castell Ystumllwynarth yn ystod yr haf. Bydd y castell hanesyddol yn cynnig cefndir i berfformiadau anhygoel o ddau glasur bytholwyrdd: Pride and Prejudice ddydd Mercher 13 Awst a The Wind in the Willows ddydd Iau 14 Awst. 

Outdoor Theatre

Amplitude - 16 a 17 Awst

Ychydig dros wythnos sydd i fynd nes bod Amplitude yn dychwelyd i Abertawe! Ymunwch â ni am ddeuddydd o gerddoriaeth fyw AM DDIM yn amffitheatr y ddinas. Mae gennym restr o berfformwyr gwych ar y gweill, gan gynnwys Disco Panther, Kizzy Crawford a Who's Molly. Ewch draw i fwynhau prynhawn o gerddoriaeth wych, bwyd a diod. Bydd y gerddoriaeth yn parhau gyda'r hwyr yn Elysium nos Sadwrn. 

Amplitude

Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau - 25 Awst

Mae Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau yn dychwelyd i Gastell Ystumllwynarth ym mis Awst! Bydd eich hoff gymeriadau yn y castell am ddiwrnod difyr llawn adloniant, gemau, straeon a mwy ddydd Llun 25 Awst rhwng 11.00am a 4.00pm. Mae tâl mynediad arferol yn berthnasol. 

Amplitude

Atyniadau Awyr Agored

Rhowch gynnig ar Drên Bach Bae Abertawe! Mwynhewch daith hamddenol ar hyd promenâd Abertawe, gan fynd a dod fel y mynnwch! Mae’r trên ar gael saith niwrnod yr wythnos, mae’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae hyd yn oed yn croesawu cŵn ufudd ar dennyn! 

Ydych chi wedi gweld y pedalos ungyrn neu deinosoriaid Llyn Cychod Singleton eto? 

Bydd teuluoedd cystadleuol yn hoffi rhoi cynnig ar golff gwallgof ym Mharc Singleton neu golff bach ar y cwrs yng Ngerddi Southend, ac mae pawb yn dwlu ar sblasio yn Lido Blackpill yn yr heulwen!

Blackpill Lido

Digwyddiadau sydd ar ddod 

Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 4 - 7 Medi

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni, a gynhelir yng nghanol Ardal Forol y ddinas, yn addo dathliad bythgofiadwy arall o gerddoriaeth wych. Mae tocynnau ar gael nawr!

P'un a ydych wedi bod yn frwd dros jazz ers blynyddoedd neu'n newydd-ddyfodiad iddo, mae rhywbeth i bawb yn y digwyddiad deinamig hwn sy'n addas i deuluoedd, lle bydd y ddinas yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan gyffrous llawn creadigrwydd a rhythm.

Ewch ar-lein i weld y rhestr lawn o berfformwyr ac i archebu tocynnau, yna paratowch i ymgolli yn yr awyrgylch cyffrous a rhythm y gerddoriaeth.

Trumpeters

Ras 10k Bae Abertawe Admiral

Mae'r dyddiad cau i gofrestru ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral yn prysur agosáu. Gallwch gofrestru hyd at 31 Awst i gadw'ch lle yn y ras ar 14 Medi. Mae rasys 10k, 3k ac 1k ar gael, felly mae rhywbeth i'r teulu cyfan.

Beth am gofrestru ar gyfer ras ar lwybr gwastad, cyflym ar hyd bae syfrdanol Abertawe? Gyda golygfeydd arfordirol godidog a chefnogaeth anhygoel gan y dorf, mae'n brofiad anhygoel i unrhyw un sy'n cymryd rhan!

Trumpeters