Digwyddiadau yn Abertawe'r mis Mawrth hw
Wrth i dymor newydd nesáu, mae'r cennin pedr yn dechrau blodeuo, mae'r nosweithiau'n mynd yn oleuach ac mae Abertawe'n paratoi ar gyfer digwyddiadau gwych ar draws y ddinas. Mae llawer o bethau’n digwydd yn yr ychydig fisoedd nesaf, felly rydym wedi llunio arweiniad ar gyfer y mis yma fel y gallwch gynllunio'ch diwrnod mas difyr nesaf, p'un a yw hynny gyda ffrindiau neu’r teulu!
Chwaraeon ac Iechyd - gweithgareddau i bawb!
Mae'r enwebeion ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad â Freedom Leisure wedi cael eu cyhoeddi ac mae'r cyffro'n adeiladu cyn y gwobrau a gynhelir ddydd Iau 30 Mawrth yn Neuadd Brangwyn. Mae'r gwobrau'n anrhydeddu'r bobl a'r clybiau sydd wedi rhoi eu hamser a'u hymroddiad i chwaraeon yn Abertawe, dewch i ddangos eich cefnogaeth o'r bobl hyfryd hyn, bydd tocynnau ar werth cyn bo hir, cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Diwrnod recriwtio Cyfeillion
4 Mawrth, Ostreme Centre Y Mwmbwls 11am-2pm
Ydych chi’n mwynhau cwrdd â phobl newydd? Oes gennych ddiddordeb mewn hanes, archaeoleg ac addysg?
Wedi’i sefydlu ym 1989, mae Cyfeillion Castell Ystumllwynarth yn grŵp gwirfoddol o bobl sy’n rheoli’r castell o ddydd i ddydd yn ystod y tymor agored.
Mae’r castell wedi cael gwaith cadwraeth gwerth miliynau o bunnoedd yn ddiweddar ac mae’r datblygiadau hyn wedi cymryd rhan ym mywyd y castell yn fwy cyffrous nag erioed.
Caiff unrhyw un ymuno fel cyfaill a gwirfoddoli. P’un a ydych chi newydd ymddeol, yn fyfyriwr sy’n chwilio am brofiad gwaith neu’n rhywun sydd ag ychydig oriau’n rhydd – mae llawer o gyfleoedd newydd i gymryd rhan ynddyn nhw yng Nghastell Ystumllwynarth.
Straeon o'r Cromgelloedd
10 Mawrth, Llyfrgell Ganolog Abertawe 1pm-6pm
11 Mawrth, Llyfrgell Ganolog Abertawe 10.30am - 3.30pm
Bydd y digwyddiad galw heibio hwn yn amlygu rhai o drysorau cudd ein casgliadau, gan ddenu cwsmeriaid i fyd y llyfrgelloedd. Bydd llyfrau sydd prin yn cael eu gweld, mapiau hanesyddol, arteffactau llyfrgell a cherfluniau ar gael i'w gweld felly yn sicr mae rhywbeth i bawb. Bydd cyfle i ddysgu am hanes yr eitemau hyn, yn ogystal â:
• Llwybrau hunanarweinedig, realiti rhithwir a digidol.
• Ffilmiau hanes lleol hiraethlon
• Sesiynau rhagflas hanes teulu
• Gweithgareddau celf a chrefft yn seiliedig ar lyfrau i blant.
BBC NOW Tadaaki Otaka yn arwain Britten a Elgar
24 Mawrth, Neuadd Brangwyn, Abertawe 7:30pm
Mae'r Arweinydd Llawryfol poblogaidd, Tadaaki Otaka, yn dychwelyd i Abertawe gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i berfformio ffefrynnau Elgar a Britten, ynghyd â Nocturne for Orchestra swynol Elizabeth Maconchy.
Yn y rhaglen hon sy’n dathlu cerddoriaeth Brydeinig ac yn archwilio cerddoriaeth tri chyfoeswr o’r 20fed ganrif, mae'r feiolinydd rhagorol o'r Iseldiroedd, Simone Lamsma, yn ymuno â'r gerddorfa ar gyfer concerto feiolin hynod boblogaidd Britten.
Prynwch eich tocynnau ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon heddiw!
30 Mawrth, Neuadd Brangwyn 7-9pm
Mae'r enwebeion ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad â Freedom Leisure wedi cael eu cyhoeddi ac mae'r cyffro'n cynyddu cyn y gwobrau a gynhelir nos Iau 30 Mawrth yn Neuadd Brangwyn. Mae'r gwobrau'n anrhydeddu'r bobl a'r clybiau sydd wedi rhoi eu hamser a'u hymroddiad yn hael i chwaraeon yn Abertawe. Dewch i ddangos eich cefnogaeth i'r bobl bendigedig hyn - mae tocynnau ar werth nawr, dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau i ddathlu ein hathletwyr.
Pride Abertawe 2023
29th Ebrill, Lawnt yr Amgueddfa, 11am
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Pride Abertawe, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, yn dychwelyd y gwanwyn hwn.
Cynhelir yr ŵyl, sy'n addo dod â chaneuon poblogaidd i'r ddinas, ar 29 Ebrill. Cynhelir yr orymdaith flynyddol am 11am o Wind Street a dilynir hyn gan ddiwrnod llawn adloniant byw ar Lawnt yr Amgueddfa o 12pm ar Lawnt ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Cofiwch - mae mynediad am ddim felly does dim angen tocyn.
Mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan yn nigwyddiad eleni, felly os hoffech wirfoddoli yn ystod Pride, archebu stondin, ymuno â’r orymdaith Pride neu noddi'r digwyddiad, e-bostiwch info@swanseapride.co.uk
Ras 10k Bae Abertawe Admiral - Ewch amdani!
17 Medi, Bae Abertawe
Mae Ras 10k Bae Abertawe Admiral yn cynnig un o'r llwybrau rhedeg prydferthaf yn y DU! Fyddwch chi'n ymuno â'r cannoedd o redwyr sydd eisoes wedi cofrestru? Peidiwch â phoeni os nad ydych erioed wedi rhedeg 10k o'r blaen, gallwch ofyn i'ch ffrindiau gymryd rhan hefyd! Mae hyd yn oed rasys i blant bach a phlant iau fel y gall y teulu cyfan gymryd rhan!
Byddwch yn derbyn diweddariadau misol dros e-bost ac awgrymiadau a chynlluniau hyfforddi cyn y ras ar 17 Medi!
Mae llawer mwy o bethau i'w mwynhau drwy gydol y gwanwyn felly cadwch lygad am e-bost mis nesaf i ddarganfod ein rhestr o ddigwyddiadau gwych y gallwch eu mwynhau yn Abertawe!