Bydd y DJ a’r cynhyrchydd cerddoriaeth sydd ar frig y siartiau yn perfformio fel prif artist mewn sioe awyr agored enfawr ym Mharc Singleton, Abertawe, yn ystod haf 2027.

Mae Hannah Laing, un o enwau mwyaf blaenllaw cerddoriaeth ddawns, wedi’i chyhoeddi fel yr artist diweddaraf i berfformio yn Abertawe fel rhan o gyfres gyngherddau gyntaf Singleton Live.

Bydd y DJ, cynhyrchydd cerddoriaeth a sylfaenydd label recordiau doof, yn dod â’i chyfuniad unigryw o techno, trance a cherddoriaeth ddawns galed i Barc Singleton ar 21 Awst, fel rhan o’r rhaglen newydd fawr o gyngherddau awyr agored fydd yn cael eu cynnal yn y ddinas yn ystod haf 2027.

Yn adnabyddus am gyfuno egni nerthol y clybiau â sain ewfforig, bachiadau cerddorol trawiadol a riffiau lleisiol y gellir eu hadnabod ar unwaith, mae Hannah yn un o’r enwau mwyaf cyffrous a mwyaf poblogaidd ym myd cerddoriaeth ddawns gyfoes.

Daeth ei sengl lwyddiannus gyntaf Good Love yn boblogaidd yn y 10 uchaf yn siartiau’r DU ac mae wedi cael dros 137 miliwn o ffrydiau, tra bod ei cherddoriaeth bellach wedi cael ei ffrydio fwy na 500 miliwn o weithiau ar draws llwyfannau digidol. Mae wedi denu cynulleidfa o dros ddwy filiwn o wrandawyr misol ar Spotify ac wedi gwerthu mwy na 150,000 o docynnau ar gyfer ei chyngherddau unigol fel prif artist yn ystod 2024 a 2025.

O ddechrau ei gyrfa fel DJ preswyl yn yr Alban tra'n gweithio fel nyrs ddeintyddol, i berfformio yn rhai o glybiau a gwyliau cerdd mwyaf blaenllaw'r byd, mae taith Hannah wedi bod yn rhyfeddol. Mae ei pherfformiadau’n cynnwys ymddangosiadau yn Creamfields, The Warehouse Project, fabric, CRSSD, Hideout a Beyond The Valley, yn ogystal â pherfformiadau mewn lleoliadau enwog yn Ibiza, gan gynnwys Amnesia a Hï Ibiza.

Gwnaeth hanes fel yr artist benywaidd cyntaf i sicrhau cyfnod preswyl yn Hï Ibiza ac mae wedi parhau i dyfu ei phroffil yn rhyngwladol, tra'n parhau i fod yn gysylltiedig â'r sîn ddawns yn yr Alban a fu’n ddylanwad ar ei steil cerddorol.

Hannah hefyd yw’r egni y tu ôl i doof, y label recordio, y gyfres o ddigwyddiadau a’r gymuned gerddoriaeth ddawns a lansiodd yn 2024. Mae recordiau’r label wedi cyrraedd brig y siartiau ar Beatport sawl gwaith, tra bod ei ddigwyddiadau byw wedi gwerthu allan mewn lleoliadau ledled y DU.

Hannah Laing

Dywedodd y Cynghorydd Rob Steward, Arweinydd Cyngor Abertawe:

"Mae Hannah Laing yn ychwanegiad gwych i Singleton Live a bydd yn dod ag egni a chynulleidfa hollol wahanol i Barc Singleton.

"Yn dilyn Simply Red, bydd y penwythnos yn dangos dwy ochr wahanol iawn i gerddoriaeth fyw, ac yn denu cymysgedd eang o gefnogwyr cerddoriaeth i Abertawe. Mae'n gyhoeddiad cyffrous arall ar gyfer yr hyn sy'n argoeli i fod yn flwyddyn wych o gerddoriaeth fyw yn Abertawe."

Ychwanegodd Nick Saunders, sylfaenydd DEPOT Live:

"Mae Hannah Laing yn un o'r artistiaid mwyaf cyffrous ym myd cerddoriaeth ddawns ar hyn o bryd; mae hi wedi adeiladu dilyniant anhygoel trwy ei cherddoriaeth, ei sioeau byw a'r gymuned doof gyfan. Mae ei setiau yn egnïol, yn ewfforig ac yn berffaith ar gyfer torf awyr agored enfawr - rydyn ni'n falch iawn o ddod â hi i Singleton Live."

Bydd tocynnau ar gael i'r cyhoedd am 10am ddydd Iau 26 Tachwedd, tra bydd tanysgrifwyr cylchlythyr Croeso Bae Abertawe yn gallu manteisio ar gyfle unigryw i brynu tocynnau cynnar, gan ddechrau am 10am ddydd Mercher 25 Tachwedd. I brynu tocynnau cynnar gall cefnogwyr gofrestru yn https://www.croesobaeabertawe.com/gwybodaeth-i-ymwelwyr/cofrestru-ar-gyfer-yr-e-gylchlythyr/ a dewis 'Newyddion Digwyddiad' fel un o'u dewisiadau tanysgrifio.

Cyflwynir Singleton Live gan DEPOT Live, Full Fat 360 a Cuffe & Taylor mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe. I gael y newyddion diweddaraf, ewch i https://www.croesobaeabertawe.com/singletonlive/