Mae jazz yn dychwelyd i Abertawe rhwng 4 a 7 Medi pan fydd Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, sy’n cynnwys rhai o ddoniau gorau'r DU ac o bedwar ban byd, yn cyrraedd y ddinas.
Trefnir yr ŵyl gan Gyngor Abertawe ac unwaith eto bydd yn llenwi'r ddinas â jazz o'r radd flaenaf, gan ddathlu cerddoriaeth, diwylliant a chymuned.
Bydd yr ŵyl yn dechrau nos Iau 4 Medi gyda sioe arbennig gan Pete Long, Simon Spillett a'r Jazz Scurriers yn Cu Mumbles.
O ddydd Gwener tan ddydd Sul, bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n cyflwyno rhaglen ddeinamig, gan gynnwys artistiaid uchel eu bri fel pedwarawd Paul Booth; Triple H Horns gyda Mo Pleasure, Kedma Macias a Wayne Hernandez; London Django Collective; a band mawr Power of Gower.
Mae Mo Pleasure yn enwog am fod yn feistr ar sawl offeryn a bu'n gyfarwyddwr cerddorol Earth, Wind & Fire gynt, yn ogystal â chydweithio ag eiconau fel Ray Charles, Michael Jackson a Roberta Flack.
Bydd triawd Joe Webb ymhlith y perfformwyr eraill, ar ôl ennill bri mawr am gyd-blethu hen elfennau â rhai newydd, gan gyfareddu cynulleidfaoedd bob amser. Cafodd Joe Webb ei eni a'i fagu yng Nghastell-nedd cyn symud i Lundain yn 2013 lle mae wedi sefydlu ei hun ymhlith sêr roc byd jazz, gan gyfuno ceinder jazz traddodiadol ag ysbryd beiddgar cerddoriaeth Brydeinig boblogaidd y 90au ac ansawdd cyfoethog ei wreiddiau Cymreig.
Bydd yr ŵyl yn gorffen gyda sioe deyrnged nodedig, The Wonder of Stevie, gan ddathlu cerddoriaeth Stevie Wonder.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, Robert Francis-Davies, "Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe'n enghraifft berffaith o'r ffordd y mae diwylliant a chreadigrwydd yn parhau i ffynnu yn ein dinas. Mae'n dod â phobl leol dalentog a sêr rhyngwladol ynghyd, gan sbarduno'r glannau a chanol y ddinas drwy ysbryd cyffrous jazz.
"Rydym yn falch o gefnogi digwyddiadau fel hyn sy'n difyrru pobl yn ogystal â chyfrannu at fri cynyddol Abertawe fel cyrchfan diwylliannol."
Ymysg uchafbwyntiau'r rhaglen yn 2025 yw dychweliad y mordeithiau jazz ar y Copper Jack: dyma gyfle unigryw i glywed jazz byw ar fad eiconig Abertawe wrth iddo hwylio ar hyd afon Tawe. Mae'r perfformiadau hyn yn cynnig ffordd wirioneddol unigryw o fwynhau'r gerddoriaeth mewn awyrgylch cartrefol.
Mae'r rhaglen grwydro'n dychwelyd hefyd, gan gyflwyno mwy na 30 o sioeau am ddim mewn lleoliadau, tafarndai a chaffis yng nghanol y ddinas. Mae'r rhan gymunedol hon o'r ŵyl yn cyflwyno jazz i'r strydoedd, gan ddangos perfformwyr sydd wrthi'n ennill eu plwyf a ffefrynnau lleol mewn fformat hygyrch a chroesawgar.
Drwy gyflwyno cymysgedd o sioeau blaenllaw y mae angen tocyn ar eu cyfer, perfformiadau cymunedol am ddim a phrofiadau unigryw fel y mordeithiau jazz, mae'r ŵyl yn cynnig rhywbeth at ddant pawb, o hen lawiau i newydd-ddyfodiaid chwilfrydig i fyd jazz.
Arbed arian gyda thocyn VIP
Gallwch fwynhau pob un o'r 11 o sioeau y mae angen tocynnau ar eu cyfer am *£165 yn unig gyda'n cynnig amleitem arbennig.
Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01792 475715 i brynu tocyn VIP heddiw!
Mae pob tocyn yn destun ffi archebu o 5%.
Long & Spillet Jazz Scurriers
4 Medi, 8pm - CU, y Mwmbwls
Mae adran rythmig benigamp yn ymuno â’r sacsoffonyddion gwych Simon Spillett a Peter Long i dalu teyrnged i The Jazz Couriers.
Pedwarawd Paul Booth
5 Medi, 6.15pm - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe
Mae'r sacsoffonydd adnabyddus Paul Booth yn ymuno â'i bedwarawd bendigedig am noson fythgofiadwy o gerddoriaeth jazz ddwys, soffistigedig a bywiog.
Triple H Horns yn cynnwys Mo Pleasure, Kedma Macias a Wayne Hernandez
5 Medi, 8.30pm - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe
Bydd Mo Pleasure, Kedma Macias a Wayne Hernandez yn ymuno â Triple H Horns, sydd wedi perfformio gydag enwogion fel Chaka Khan, am noson o gerddoriaeth gyda sain y cyrn yn flaenllaw.
London Django Collective
6 Medi, 12.45pm - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe
Dewch i ddathlu etifeddiaeth Django Reinhardt wrth i London Django Collective ddod â'i gerddoriaeth jazz ddiamser yn fyw gyda dawn ac arbenigedd.
Five Way Split
6 Medi, 3.30pm - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe
Dewch i wrando ar Five Way Split, band newydd blaenllaw sy'n cynnwys rhai o'r cerddorion bebop cyfoes gorau, yn fyw yng ngŵyl eleni.
Triawd Jo Webb
6 Medi, 6.15pm - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe
Profwch gerddoriaeth anhygoel sy'n herio genres wrth i'r pianydd o Gastell-nedd Joe Webb, sy'n perfformio'n rheolaidd yn Ronnie Scott's, ddod â'i driawd talentog i lwyfan yr ŵyl.
Spice Fusion
6 Medi, 8.30pm - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe
Ymunwch â Simon Niblock ac Elliot Henshaw wrth iddynt ddod â'u prosiect dynamig, Spice Fusion, i Abertawe - cyfuniad bywiog o gerddoriaeth jazz a ffync.
Will Barnes Quartet
7 Medi, 1.30pm - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe
Mae Will Barnes Quartet, grŵp clos o berfformwyr jazz profiadol, yn perfformio cerddoriaeth swing hamddenol gyda digonedd o egni.
Band Mawr yr Ŵyl Power of Gower'
7 Medi, 4pm - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe
Mae Dave Cottle yn arwain rhai o gerddorion jazz gorau de Cymru fel rhan o set band mawr egnïol a fydd yn cynnwys caneuon swing a Sarah Meek yn canu.
Tango Jazz Quartet
7 Medi, 6:15pm - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe
Ymunwch â Tango Jazz Quartet am berfformiad arbennig sy'n cyfuno cerddoriaeth danbaid tango'r Ariannin â cherddoriaeth soniarus jazz.
Wonder of Stevie
7 Medi, 8:30pm - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe
Dewch i ddathlu cerddoriaeth ddiamser Stevie Wonder gyda The Wonder of Stevie, teyrnged lawen i un o eiconau gorau'r byd cerddoriaeth, yn cynnwys Noel McCala a Derek Nash.
Mordaith ar fad Copper Jack
Ewch ar fad Copper Jack am fordaith hamddenol ar yr afon Tawe gyda cherddoriaeth jazz fyw, bar llawn a lluniaeth.
5 Medi, 2.30pm: Deuawd Ellie Jones
Rhaglen Grwydro
-
4pm: Sarah Meek gyda Thriawd Dave Cottle - Morgans (Neuadd Ddawns)
-
4.30pm: Deuawd Chris Keys a Luke Williams – Queen's Hotel
-
4.30pm: Band Stringfellows Ray 'Taff' Williams - The Pump House
-
5pm: Calathia – The Swigg
-
5.30pm: Jack Mac’s Funk Pack - The River House
-
8pm: The Buzzcuts – The Swigg
-
10:15pm: Sesiwn jazz gyda'r hwyr dan arweiniad Dave Cottle - The Swigg
-
12pm: Bridgend Big Band - Parc yr Amgueddfa
-
2pm: The Funk Cartel - The River House
-
2pm: Band Stringfellows Ray 'Taff' Williams - Yr Amffitheatr
-
3pm: Triawd Geoff Eales - Altitude 28
-
3pm: The Albino Frog – The Cross Keys
-
3.30pm: Swing Americanaidd Donnie Joe - Queen's Hotel
-
4pm: Band Mawr Treforys - Parc yr Amgueddfa
-
4pm: Georgia Furlong gyda Thriawd Richard West - Morgans (The Georgian)
-
4.30pm: Triawd Organau 3Play John-paul Gard - The Swigg
-
5pm: Afternoon in Paris – The Pump House
-
5.30pm: The Royal Scam – Yr Amffitheatr
-
6pm: Chris Keys a deuawd Half Moon - Altitude 28
-
8pm: Li Harding gyda Band Gary Phillips – The Swigg
-
8pm: The Buzzcuts – The River House
-
10.15pm: Sesiwn jazz gyda'r hwyr dan arweiniad Dave Cottle - The Swigg
-
12pm: Band Mawr Constellation - Parc yr Amgueddfa
-
1.30pm: Band Chris Keys – The River House
-
2pm: Band Mawr Siglo Section - Yr Amffitheatr
-
2.30pm: Swing Americanaidd Donnie Joe - The Swigg
-
3pm: Band Keith Little - Altitude 28
-
3pm: Trunk of Funk – The Cross Keys
-
3.30pm: Sarah & The Creepy Uncles - Queen's Hotel
-
4pm: Ichtis ac Agnes (Gwersi dawnsio jazz) – Parc yr Amgueddfa
-
4pm: Ellie Jones a Thriawd Gary Phillips - Morgans (The Georgian)
-
4pm: Band Stringfellows Ray 'Taff' Williams - The Pump House
-
4.30pm: The Buzzcuts – The Pump House
-
4.30pm: Triawd Organ Charlie Herbert – Wind Street Sports Bar
-
5.30pm: Pedwarawd Ed Jones – The Swigg
-
5.30pm: Albino Frogs - Yr Amffitheatr