Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe – y Rhestr Berfformio ar gyfer 2026
Mae rhaglen fywiog o gerddorion jazz o'r radd flaenaf wedi'i chyhoeddi ar gyfer Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni, a gynhelir rhwng 3 a 6 Medi 2026 mewn lleoliadau ar draws y ddinas.
Mae'r ŵyl, a gyflwynir gan Gyngor Abertawe, yn cynnwys pedwar diwrnod o gerddoriaeth fyw ragorol, gan arddangos cymysgedd cyffrous o artistiaid o fri rhyngwladol a pherfformwyr blaenllaw yn y DU.
Y Gyfres o Gyngherddau ar gyfer 2026
Mae rhestr berfformio eleni'n cynnwys amrywiaeth o berfformiadau rhagorol:
Nicolas Meier
Nos Iau 3 Medi, Theatr y Grand Abertawe
Mae Nicolas Meier, sydd fwyaf adnabyddus am deithio gyda The Jeff Beck Group, yn cyfuno dylanwadau cerddorol traddodiadol o Dwrci a'r Dwyrain Canol â cherddoriaeth fflamenco, tango, a jazz cyfoes i greu ei sain fywiog a mynegiannol ei hun.
Claire Martin & Laurence Cottle ‘Bass to Face’
Nos Wener 4 Medi, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae Claire Martin a Laurence Cottle yn dod ynghyd yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe i gyflwyno eu prosiect cyffrous newydd, 'Bass to Face', gan berfformio caneuon y maen nhw wedi'u hysgrifennu gyda'i gilydd dros y blynyddoedd, a hefyd glasuron gan Monk, Ellington, Strayhorn a Porter. Byddant hefyd yn cynnwys detholiad o alawon The Carpenters a Randy Crawford.
Georgina Jackson’s ‘Sass and Brass’
Nos Wener 4 Medi, Mystwyr Abertawe
Gan ganu yn ei dull melfedaidd adnabyddus a dangos ei phŵer wrth chwarae'r trymped, bydd Georgina, ochr yn ochr â’r Mighty Mini Big Band, yn cyflwyno cymysgedd anhygoel o ganeuon siglo traddodiadol, baledi emosiynol dwys a ffefrynnau eiconig, ynghyd â glamor clasurol Vegas.
Aidan Thorne a Jason Ball
Dydd Sadwrn 5 Medi, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Bydd Aidan Thorne a Jason Ball yn perfformio'u cerddoriaeth, sy'n ail-ddychmygu alawon gwerin Cymru drwy gymysgedd o fyrfyfyrio, jazz a minimaliaeth, i gyd wedi'u gosod mewn byd sain atmosfferig, amgylchynol.
Band Mawr yr Ŵyl & 'Power of Gower'
Dydd Sadwrn 5 Medi, Mystwyr Abertawe
Dan arweiniad Dave Cottle, bydd yr ensemble penigamp hwn yn dod â rhai o'r cerddorion jazz a sesiwn gorau yn ne Cymru a thu hwnt ynghyd i berfformio clasuron band mawr cyffrous gan Thad Jones a Mel Lewis, Gordon Goodwin, Bill Holman, Ted Heath, Count Basie a mwy.
Pedwarawd James Allsopp yn Chwarae Stan Getz
Dydd Sadwrn 5 Medi, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae'r sacsoffonydd arobryn James Allsopp, gyda'i bedwarawd newydd, yn talu teyrnged i un o'r cerddorion a'i hysbrydolodd ar hyd ei oes, yr enwog Stan Getz. Gan ddefnyddio'r gerddoriaeth a ddylanwadodd cymaint arno yn ystod ei lencyndod, mae Allsopp yn dathlu dylanwad anhygoel Getz mewn ffordd newydd a chyfoes.
Christian Garrick’s String Bag
Dydd Sadwrn 5 Medi, Mystwyr Abertawe
Ar gyfer y sioe olaf ar y dydd Sadwrn bydd Christian Garrick yn cyflwyno ei brosiect newydd cyffrous, 'String Bag', sef "band bach newydd sbon gydag offerynnau llinynnol sy'n mentro i dirwedd gerddorol gwahanol i'r arfer".
Band Mawr Llawn Sêr Dixieland y Brodyr Cottle
Dydd Sul 6 Medi, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Ymunwch â'r Brodyr Cottle gyda band llawn sêr am berfformiad arbennig sy'n mynd yn ôl i'w gwreiddiau cerddorol. Dewch i fwynhau taith gerddorol a fydd yn eich cludo i Bourbon Street ac yn rhoi sylw arbennig i rai o fandiau jazz gwych Dixieland a naws hamddenol New Orleans.
Pedwarad Tango Jazz
Dydd Sul 6 Medi, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae'n bleser gennym groesawu'r Tango Jazz Quartet i Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni ar gyfer perfformiad hudolus sy'n cyfuno ysbryd tanllyd tango'r Ariannin â rhyddid a chreadigrwydd cerddoriaeth jazz.
Hejira – Cerddoriaeth Joni Mitchell
Nos Sul 6 Medi, Mystwyr Abertawe
Mae'r band, sydd wedi'i ysbrydoli gan gerddoriaeth jazz Joni Mitchell ar ddiwedd y 70au a’r albymau clasurol Hejira, The Hissing of Summer Lawns, Don Juan’s Reckless Daughter a Mingus, yn ogystal â'r recordiad byw eiconig Shadows and Light, yn dod â'r repertoire cyfoethog hwn yn ôl i'r llwyfan gyda cheinder a dilysrwydd.
Arbed Arian gyda Band Arddwrn ar gyfer yr Ŵyl
Gallwch archebu tocyn ar gyfer pob un o'r 10 sioe y mae angen tocyn ar eu cyfer am £175 yn unig (arbediad o £48 o'i gymharu â thocynnau unigol) gyda'n Band Arddwrn Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe arbennig. Dyma'ch pàs mynediad i holl brofiadau'r Ŵyl Jazz.
Cymerwch Gip ar Ein Rhaglen Grwydro
Gallwch fwynhau dros 30 o sioeau am ddim mewn tafarnau a bariau o amgylch lleoliadau cyngerdd yr ŵyl, a cherddoriaeth fyw fel rhan o fordaith ar fad y Copper Jack.
Cefnogir y rhaglen grwydro gan gerbydau Geely Day’s Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe'n falch o gyflwyno Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe mewn partneriaeth â Chlwb Jazz Abertawe.

