Mae Gŵyl Tawe, gŵyl gelfyddydol iaith Gymraeg Abertawe, yn dychwelyd gyda rhaglen eang newydd ar draws canol y ddinas ar benwythnos y 5ed a'r 6ed o Fehefin 2026.

Ar nos Wener y 5ed o Fehefin bydd gig agoriadol newydd yn lleoliad The Bunkhouse gyda The Joy Formidable. Mae'r Joy Formidable yn dychwelyd i Abertawe gyda'u sioe electrig gyntaf ers dwy flynedd wrth i ddrymiwr newydd, Dafydd Cartwright, ymuno â’r band. Mae'r sioeau eraill ar y gorwel yn cynnwys y Royal Albert Hall gyda’r Manic Street Preachers, a chefnogi The Cure yn eu sioe yng Nghaerdydd ym mis Mehefin.

Yn ymuno â The Joy Formidable yn The Bunkhouse bydd sŵn mawr ac alawon cain Breichiau Hir, yr arloesol Pat Morgan o Datblygu, a pync neo-rave minimalaidd Crinc.

Gwyl Tawe 2026

Ar ddydd Sadwrn y 6ed o Fehefin, bydd Gŵyl Tawe yn dychwelyd i safle Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gyda diwrnod o adloniant yn rhedeg o 10yb hyd at 9yh.

Yn cloi’r diwrnod bydd y cyfansoddwr a chynhyrchydd Gwenno, cyn enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ac enwebai ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Mercury.

Cyn Gwenno, mwynhewch alawon Melin Melyn a fydd yn neidio rhwng roc syrffio, canu gwlad, prog-roc a seicedelia yng ngardd yr amgueddfa. Draw ar lwyfan y Taliesin yn Ystafell Cefnfor yr amgueddfa, profwch riffiau gitâr bachog a chyfuniad perffaith o synau roc slacker a post-pync gan Mellt.

Mae gwesteion arbennig Carwyn Ellis & Rio 18 yn dod â’u sŵn bywiog, byd-eang i Abertawe mewn sioe sy’n cyfuno tropicalia disglair ac offeryniaeth gyfoethog i greu awyrgylch gynnes sy’n teimlo’n glasurol ac yn hynod gyfoes. Hefyd yn ymddangos ar draws y lein-yp ar y dydd Sadwrn bydd Candelas, Cerys Hafana, Mwsog, Griff Lynch, a Coron Moron, gyda mwy o enwau i'w cyhoeddi.

A crowd watching a band at Gwyl Tawe

Cyflwynir Gŵyl Tawe 2026 gan Menter Iaith Abertawe mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, gyda chefnogaeth gan Gyngor Abertawe, The Bunkhouse Abertawe, a Chanolfan y Celfyddydau Taliesin, a chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Ariannwyd elfennau o’r marchnata ar gyfer y digwyddiad hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Funded by UK Government logo Dec 24