Gwerthwyd pob lle ar gyfer ras 2025, felly sicrhewch eich lle ar linell gychwyn ras ddydd Sul 20 Medi 10k Bae Abertawe 2026 nawr.
Cynhelir ras 10k Bae Abertawe ar hyd bae eiconig, hyfryd Abertawe. P'un a ydych yn chwilio am eich amser personol gorau neu'n ymuno â ni am y tro cyntaf, peidiwch â cholli eich cyfle!
Gwybodaeth 10K
Mae ar agor i bobl o bob gallu 15+ oed. Mae'r cwrs yn boblogaidd gyda rhedwyr profiadol a thro cyntaf oherwydd bod y cwrs gwastad a chyflym yn gyflwyniad perffaith i redeg ffordd ac yn berffaith ar gyfer gwella ar eich amser gorau. Mae hyn i gyd, ar y cyd ag awyrgylch teulu gwych, yn golygu bod y ras wedi ennill gwobr y Ras 10k Orau yng Nghymru yng Ngwobrau Rhedeg y DU 2019.
Gwybodaeth Ras 1K
Mae'r ras 1k yn gyflwyniad perffaith i redeg i'r rhai bach - amgylchedd hwyl heb bwysau, a phellter sy'n gyraeddadwy a phleserus. Gyda dau gategori oedran mae'r gystadleuaeth yn fwy teg ac agored. Ras 1 yw 7 oed ac iau a ras 2 yw 8 i 11 oed.
Gwybodaeth Ras 3K
Nid yw byth yn rhy gynnar i annog eich plant i roi cynnig ar redeg. Mae hon yn ras wych ar gyfer rhedwyr iau yn y grŵp oedran 9-14 oed, am bellter o 3k.
Gwybodaeth Ras Mewn Cadair Olwyn
Wedi'i pleidleisio'n un o rasys gorau'r DU, ein nod yw bod yn hygyrch i bawb, gan gynnig amrywiaeth o rasys fel gall pawb gymryd rhan ar y dydd!
Gwybodaeth Ras y Masgotiaid
Ni fyddai 10k Bae Abertawe yr un peth heb ras y masgotiaid! Gwnewch yn siŵr bod eich masgot chi'n cofrestru i gymryd rhan yn y ras 100m. Rhoddir £100 i'r enillydd i'w roi i'w elusen ddewisedig ac mae'r ras yn adloniant gwych i wylwyr.