Bydd Abertawe'n croesawu rhai o bara-athletwyr gorau'r byd a chefnogwyr ffitrwydd eithaf pan fydd Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe ac IRONMAN 70.3 Abertawe yn cael eu cynnal y mis Awst hwn.
I sicrhau eich bod yn barod am benwythnos llawn llwyddiannau chwaraeon o'r radd flaenaf, gadewch i ni ddarganfod ychydig mwy am y ddau ddigwyddiad...
- Mae 6 chategori mewn paradreiathlon (PTVI, PTWC, PTS2, PTS3, PTS4, PTS5).
- Mae digwyddiad dosbarthu fel rhan o Gyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe - dyma'r broses sy'n gwerthuso namau a gallu athletwr - rhoddir categori iddynt sy'n eu galluogi i gystadlu gydag athletwyr â gallu tebyg.
- Dim ond yn ddiweddar y mae Paratri wedi ymddangos yn y Gemau Paralympaidd, roedd yn rhan o gemau Rio 2016 a Tokyo 2020 a'r newyddion gwych yw ei fod wedi'i ddethol ar gyfer Paris 2024.
-
Cynrychiolir 30 o wledydd yng Nghyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe, a bydd dros 120 o baratreiathletwyr gorau'r byd yno!
-
Cadwch lygad am y beiciwr Olympaidd, George Peasgood a'r nofwraig Claire Cashmore yng Nghyfres Para Treiathlon y Byd.