Mae llai nag wythnos i fynd nes y bydd Abertawe’n llawn cyffro chwaraeon wrth i dri digwyddiad enfawr gael eu cynnal yma, sef yr Ŵyl Parachwaraeon, World Triathlon Para Series Swansea Abertawe ac IRONMAN 70.3 Abertawe. Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut gallwch chi gymryd rhan a chefnogi.
Gŵyl Parachwaraeon 10 – 16 Gorffennaf
Yn dilyn ymlaen o lwyddiant wythnos o hyd digwyddiad y llynedd, mae’r Ŵyl Para Chwaraeon yn dychwelyd yn 2023 i adeiladu ar y cyfleoedd cynhwysol lleol a’r cyfleoedd para-chwaraeon cystadleuol a gafodd eu harddangos y llynedd. Tu allan i ddigwyddiadau enfawr traddodiadol, fel y Gemau Paralympaidd, Gemau’r Byddar, Gemau Byd-eang Virtus neu’r Gemau Olympaidd Arbennig, mae’r digwyddiad hwn yn un o fath sy’n cyfuno digwyddiadau para-chwaraeon cystadleuol ar draws nifer o chwaraeon, ochr yn ochr â chyfleoedd cyfranogiad cynhwysol.
Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe 15 Gorffennaf
Ymunwch â ni yn Noc Tywysog Cymru, Abertawe wrth i athletwyr gorau’r bydd ddod ynghyd i gystadlu am y fedal aur ar draws y ddinas.
Yn ogystal â rasio o’r radd flaenaf, bydd hefyd ddigwyddiadau byw, bwyd a diod a phentref y digwyddiad i ddifyrru’r teulu cyfan, a bydd mynediad am ddim i’r digwyddiad!
Bydd y goreuon yn ymuno ag athletwyr addawol yn Uwch-gyfres Para Treiathlon Prydain yn ogystal â chyfle i gyfranogwyr gymryd rhan mewn rasys nofio, beicio a rhedeg a bydd y cyfan yn Noc Tywysog Cymru a Glannau SA1.
Gall gwylwyr fynd i bentref y digwyddiad lle bydd sgrîn fawr, adloniant, bwyd a diod ac awyrgylch gwych!
IRONMAN 70.3 Abertawe 16 Gorffennaf
Cynhelir digwyddiad cyntaf IRONMAN 70.3 Abertawe ddydd Sul 16 Gorffennaf. Mae’r llwybr yn cynnwys nofiad 1.2 milltir yn Noc Tywysog Cymru, ras feicio 56 milltir ym mhenrhyn Gŵyr a rhediad 13.1 milltir ar hyd ehangder Bae Abertawe ac yn ôl.
Dangoswch eich cefnogaeth ar hyd y llwybr, gallwch ddod o hyd i’r mannau gorau i wylwyr yma.