Archwilio harddwch naturiol eithriadol Tirwedd Genedlaethol Gŵyr, pentref arfordirol hardd y Mwmbwls a dinas fywiog Abertawe lle mae amgueddfeydd, orielau, cerddoriaeth a sioeau byw, marchnad dan do fwyaf Cymru, parc dŵr dan do a hyd yn oed sŵ!
Mae'r ardal yn berffaith ar gyfer gwyliau i'r teulu, seibiannau rhamantus ac encilfannau lles. P'un a ydych eisiau mynd ar antur neu am gael eiliad o lonyddwch, gwnewch Fae Abertawe'n lle hapus i chi yr hydref hwn.
Natur a Lles
Mae Bae Abertawe'n gartref i 19 o faeau a thraethau, coetiroedd gwyrddlas â llwybrau cerdded y sgydau gwych, llwybrau arfordirol syfrdanol a hyd yn oed sawnau ar y traeth!
Wrth i'r hydref gyrraedd, dewch i ddarganfod ein mannau awyr agored hyfryd ac archwilio'n parciau a'n gerddi wrth iddynt ddod yn fyw â lliwiau'r hydref. Tafliad carreg i ffwrdd o ganol y ddinas yn unig mae parc mwyaf Abertawe - Parc Singleton - sy'n gartref i Erddi Botaneg gwych, sy'n cynnig profiad tawelach yn ystod yr hydref gyda blodau sy'n blodeuo'n hwyr yn y flwyddyn a glaswelltiroedd addurnol. Ac mae Gerddi Clun gerllaw yn berffaith ar gyfer tro bach hydrefol... cadwch lygad am Dŵr y Llyngesydd a'r Bont Japaneaidd!
Os hoffech fynd am dro ysgafn mewn lleoliad deiliog, gallwch ymweld â Pharc Cwmdoncyn, a fu'n un o hoff gyrchfannau Dylan Thomas, mynd i fwydo'r hwyaid ym Mharc Brynmill cyfagos, neu ymweld ag un o'n trysorau cudd - Coed Cwm Penllergare, lle gallwch archwilio coetiroedd hardd. Cadwch lygad am wiwerod, robiniaid cochion a chrehyrod, a'r rhaeadr a'r llyn llonydd a fydd yn adlewyrchu lliwiau cyfoethog y tymor.
Gwyliwch yr arbenigwr bywyd gwyllt a'r cyflwynydd teledu Iolo Williams yn y fideos hyn a grëwyd yn arbennig - tri 'Saffari'r Hydref' sy'n arddangos natur a bywyd gwyllt ym Mae Abertawe, gogledd Gŵyr a de Gŵyr.
Dewch â'ch Ci Hefyd
Mae Bae Abertawe'n gyrchfan gwyliau gwych i'r rhai hynny a chanddynt gŵn. Gallwch gerdded ar hyd milltiroedd o arfordir atyniadol, sy'n berffaith ar gyfer mynd am dro hir gyda'ch ci. O dywod euraidd ein traethau arobryn i'r promenâd 5 milltir o hyd rhwng Abertawe a'r Mwmbwls, mae digonedd o le i gŵn redeg, chwarae ac archwilio. Ac yn ystod yr hydref mae ein holl draethau yn croesawu cŵn.
Gwyliwch ein fideo am wyliau sy'n addas i gŵn a chymerwch gip ar ein tudalen addas i gŵn sy'n arddangos lleoedd i fwyta, llety a phethau i'w gwneud. Bae Abertawe yw'r lle perffaith ar gyfer anifeiliaid anwes a'u perchnogion fel ei gilydd.
O Gaffis Croesawgar i Fwyd Arfordirol
P'un a ydych yn yfed siocled poeth blasus (gyda malws melys wrth gwrs!) ger y tân mewn caffi croesawgar neu'n mwynhau pryd o fwyd sydd wedi cael cydnabyddiaeth Michelin sy'n defnyddio cynhwysion lleol ffres, wrth edrych dros y môr, mae rhywbeth at ddant pawb. A heb anghofio ein hamrywiaeth o siopau hufen iâ - rydym yn mwynhau hufen iâ drwy gydol y flwyddyn ym Mae Abertawe!
Digwyddiadau'r Hydref Hwn
Os ydych yn hoff o gerddoriaeth, celf neu ddigwyddiadau bywiog, dewch i Fae Abertawe'r hydref hwn! Dewch i gael eich ysbrydoli ym Mhenwythnos Celfyddydau Abertawe, dathliad deuddydd o greadigrwydd, diwylliant a chymuned yng nghanol dinas Abertawe.
Mae amrywiaeth eang o ddigwyddiadau gwych hefyd, o gyngherddau a sioeau yn Arena Abertawe, Theatr y Grand Abertawe a Neuadd Brangwyn, i gerddoriaeth fyw mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas sy'n arddangos y bobl leol fwyaf talentog. Heb anghofio am yr amrywiaeth eang o arddangosfeydd yn ein hamgueddfeydd a'n horielau.
Wrth i'r hydref barhau, bydd y cyffro'n cynyddu ar gyfer Calan Gaeaf! Canol dinas Abertawe yw'r lle i fod ddydd Sadwrn 25 Hydref ar gyfer digwyddiad Ysbrydion yn y Ddinas, strafagansa Calan Gaeaf sy'n addas i deuluoedd lle bydd cymeriadau'n crwydro, colur theatraidd, gemau hunllefus a gorymdaith bwmpenni fywiog. Mae Calan Gaeaf yng Nghastell Ystumllwynarth yn brofiad gwefreiddiol. Gall teuluoedd fwynhau y Castell Arswydus, sy'n berffaith ar gyfer pobl iau sy'n chwilio am hwyl heb ofn, a gall y rhai hynny sy'n ysu am ias ddarganfod Ochr Dywyll Castell Ystumllwynarth, lle bydd cyfle i ymwelwyr dewr archwilio straeon arswydus am orffennol y castell.
Gweld y rhestr lawn o ddigwyddiadau'r hydref
Lleoedd i aros yn ystod yr Hydref
Os ydych yn chwilio am rywle i aros, mae digonedd o ddewis ar gael! Gallwch ddeffro i olygfeydd gwych o'r môr o fflat ar yr arfordir, cwtsho lan mewn bwthyn clyd yng nghefn gwlad hardd neu fwynhau cysur gwesty moethus yng nghanol y ddinas.