Dewch i ddarganfod Castell Ystumllwynarth Heddiw 🏰
Mae Castell Ystumllwynarth, castell o'r 12fed ganrif, ar agor 11am i 5pm bob dydd. Mae'n llawn hanes a gallwch ddarganfod sut yr oedd pobl yr Oesoedd Canol yn byw ac archwilio rhannau o'r castell sydd wedi cael eu cuddio ers canrifoedd.
Teithiau Tywys o Castell Ystumllwynarth
Bydd Cyfeillion Castell Ystumllwynarth yn cynnal teithiau tywys AM DDIM yn dechrau am 11.30am bob dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sul nes diwedd mis Medi. Bydd y teithiau’n rhoi gwybodaeth i chi am hanes y castell yn ogystal â rhannu cyfrinachau a straeon am y rheini a oedd yn byw yn y castell yn y gorffennol.

Gyda rhestr anhygoel o ddigwyddiadau a phrofiadau y gellir ymgolli ynddynt, bydd Castell Ystumllwynarth yn eich cludo i fyd o hud, hanes a chyffro iasol.
21 Mehefin: Llwybr Tylwyth Teg Hud🧚
Bydd ein tylwyth teg swynol a'n coblynnod gwirion yn arwain y plant (a'u rhieni neu ofalwyr) ar hyd llwybr a fydd yn para 30 munud. Byddant yn mynd drwy'r castell dirgel ac yn sleifio heibio coblynnod drwg cyn mynd allan i'r goedwig hud i chwilio am ein tylwyth teg coll. Mae taliadau mynediad arferol yn berthnasol.

13 a 14 Awst: Theatr Awyr Agored 🎫
Ydych chi'n barod i brofi hud Theatr Awyr Agored?
Bydd Illyria yn dychwelyd i dir Castell Ystumllwynarth gyda pherfformiadau o Pride and Prejudice ar 13 Awst o 7pm a The Wind in the Willows ar 14 Awst o 2pm. Cyflwynir Theatr Awyr Agored i chi gan Cyngor Abertawe.

25 Awst: Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau 👑
Bydd ein digwyddiad mwyaf poblogaidd, Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau, yn dychwelyd i Gastell Ystumllwynarth ddydd Llun 25 Awst. Bydd cymeriadau o'ch hoff raglenni teledu'n ymuno â ni am ddiwrnod o adloniant, gemau, straeon a mwy. Bydd hefyd cyfle i chi a'ch tywysogion a thywysogesau bach gymryd lluniau gyda'r cymeriadau drwy gydol y dydd.

13 Medi: Diwrnod Agored 🏰
Cynhelir diwrnod agored blynyddol Castell Ystumllwynarth ddydd Sadwrn 13 Medi. Gallwch ymgolli ym mywyd yr Oesoedd Canol wrth i chi fwynhau arddangosfeydd sy'n arddangos yr hyn mae pobl wedi dod o hyd iddo gan ddefnyddio datgelydd metel yn Abertawe, arddangosfa o fwyd canoloesol, cyfle i greu eich eicon canoloesol eich hun, rhoi cynnig ar wehyddu, dysgu am wisgoedd y cyfnod, chwarae gemau, clywed straeon a chwrdd â dreigiau!

25 Hydref: Castell Bwganllyd🎃
Digwyddiad Calan Gaeaf sy'n cynnig hwyl, nid ofn. Gyda'n hudlathau yn ein dwylo byddwn yn codi ofn ar y gwrachod drygionus a'r coblynnod drewllyd. Bydd gwrachod sy'n adrodd straeon, dewiniaid doniol, dreigiau, a llawer mwy... ond ni fydd unrhyw beth yn codi ofn arnoch!

31 Hydref: Ochr Dywyll Castell Ystumllwynarth 👻
Mae Digwyddiad Calan Gaeaf Ochr Dywyll Castell Ystumllwynarth yn brofiad hollol unigryw. Mae'r castell yn dywyll ac yn dawel... heblaw am ambell sgrech. Bydd y tywysydd yn adrodd straeon iasoer sydd weithiau'n greulon, weithiau'n bryderus am hanes tywyll Castell Ystumllwynarth... ydych chi'n ddigon dewr i glywed rhagor?
