Mae pawb yn dweud ei fod yn anodd prynu rhywbeth i dadau, llystadau, tadau maeth neu ffigurau tadol - dim mwyach! Pa ffordd well o dreulio Sul y Tadau na mwynhau amser arbennig gyda'ch gilydd. Dyma rai syniadau i'ch helpu i gynllunio'r Sul y Tadau delfrydol ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr...

Tad sy’n llawn mynd

Os yw'ch tad yn dwlu ar chwaraeon dŵr, beth am drefnu gwers syrffio cyffrous ar gyfer y ddau ohonoch. Os ydych yn teimlo'n anturus, rhowch gynnig ar badlfyrddio neu gaiacio. Am weithgaredd ychydig mwy hamddenol, ewch i nofio ym Mhwll Cenedlaethol Cymru. Heriwch eich gilydd i ras - er efallai y dylech adael i'ch tad ennill, wedi'r cyfan, mae hi yn Sul y Tadau! Neu wynebwch her wal ddringo, yna gallwch weld pwy sy'n gallu anelu orau drwy daflu bwyell - ffordd ddifyr a chystadleuol i'ch tad arddangos ei sgiliau.

A father and son at the Climbing Hanger Swansea

Dad sy'n wyllt am golff

Trefnwch ambell rownd o golff i'ch tad yng Nghlwb Golff Clun lle gallwch fwynhau golygfeydd 360˚ trawiadol ar draws Bae Abertawe i'r dwyrain a Chefn Bryn yng Ngŵyr i'r gorllewin Ar gyfer her lefel pencampwriaeth, ewch i Glwb Golff Parc Fairwood, unig gwrs statws pencampwriaeth PGA Abertawe. Neu am olygfa arfordirol drawiadol, ewch i gael gêm yng Nghlwb Golff Pennard - y 'maes golff yn yr awyr' lle ceir golygfeydd panoramig o Fae y Tri Chlogwyn.

A man playing golf.

Tad sy'n dwlu ar adrenalin

Mae gan Fae Abertawe ddigonedd i'w gynnig i dadau sy'n dwlu ar fyw bywyd i'r eithaf! Ewch ag ef ar her ym mrigau'r coed i wibio drwy ganopi'r goedwig ar weiren wib, neu profwch ei derfynau gyda sesiwn dringo creigiau gyffrous ar glogwyni geirwon Gŵyr - ond peidiwch ag edrych i lawr! Ar gyfer y wefr fwyaf posib, beth am roi cynnig ar arfordiro? Gall eich tad neidio oddi ar glogwyni, nofio drwy gildraethau cudd a sgrafangu ar hyd yr arfordir dramatig - dyma'r ffordd berffaith i gynyddu'r adrenalin!

Man riding a zipline at go ape

Un cam ar y tro, Dad

Efallai mai mynd am dro (neu fynd ar grwydr!) ar Sul y Tadau yw’r cynllun perffaith! Archwiliwch Lwybr Arfordir Cymru sy'n 39 milltir o hyd, neu ewch i ddarganfod Pen Pyrod a mwynhewch olygfeydd godidog dros fae arobryn Rhosili. Fel arall, ewch am dro ar hyd un o'n llwybrau cerdded hyfryd fel Llwybr Rheilffordd y Mwmbwls - llwybr 5.5 milltir ar hyd Bae Abertawe sy'n dilyn traciau rheilffordd gyntaf Cymru i gludo teithwyr.

Gower Coast Path

Fy nhad, y fforiwr

Trefnwch daith mewn cwch o gwmpas arfordir hardd Gŵyr ar gyfer eich tad. Gallwch ddarganfod y bywyd morol lleol a dysgu am hanes hynod ddiddorol yr ardal o ogofau esgyrn cynhanesyddol i straeon cyffrous am smyglwyr! Ar gyfer yr antur gorau posib yn y gwylltir, cadwch le ar sesiwn gwersyll byw yn y gwyllt i'r teulu yng nghanol Gŵyr. Bydd yn gyfle i feistroli sgiliau fel adeiladu cysgodfa, gwneud tân heb fatsis a dod o hyd i fwyd a dŵr yn y gwyllt. Wrth i Dad wella'i sgiliau gyda bwyell, gall y plant adeiladu cysgodfa gylch a gall Mam fwynhau hoe haeddiannol! Apelio atoch?

A family participating in a bushcraft activity

Tad sy'n hoffi hanes

Ewch â'ch tad ar antur lle gall deithio drwy amser! Archwiliwch neuaddau hynafol, grisiau cudd a graffiti hanesyddol Castell Ystumllwynarth, lle ceir golygfeydd trawiadol dros y Mwmbwls. Dysgwch am orffennol morol a diwydiannol Abertawe yn Amgueddfa Abertawe neu yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau lle daw hanes yn fyw drwy arddangosion hynod ddiddorol. Am ychydig o hanes llenyddol ymwelwch â man geni a chartref teuluol Dylan Thomas i gael cipolwg ar fyd plentyndod y bardd.

A man sitting in a chair reading at the Dylan Thomas Birthplace

Tad sy'n hoff o fwyd

Does dim byd yn well na chinio rhost blasus ar Sul y Tadau. Rhowch bryd blasus gyda'r holl drimins yn drît i'ch tad yn un o dafarndai croesawgar Bae Abertawe Os yw'n well ganddo fwyd môr, trefnwch wledd ar ei gyfer ar yr arfordir lle gall fwynhau'r bwyd môr lleol gorau ynghyd â golygfeydd godidog.

A couple eating food outside

Tad sy'n hoff o gerddoriaeth

Y Sul y Tadau hwn, rhowch rodd cerddoriaeth fyw i'ch tad. Synnwch eich tad drwy roi tocynnau iddo ar gyfer cyngerdd neu berfformiad lleol. P'un a yw'n mwynhau egni sioe roc a rôl, awyrgylch clyd set acwstig neu bŵer cerddorfa lawn, nid fydd yr hyn sydd ar gynnig ym Mae Abertawe'n ei siomi. Cymerwch gip ar ein hadran 'Digwyddiadau' am ysbrydoliaeth a gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu'r tocynnau hynny cyn iddynt ddiflannu!

A live band playing brass instruments

Llwncdestun i Dad!

I dadau sy'n gwerthfawrogi diod o safon, beth am drefnu sesiwn flasu fythgofiadwy ar ei gyfer yn un o fragdai neu ddistyllfeydd Bae Abertawe? O gyrfau crefft blasus ac amrywiol fathau o jin y trwythwyd cynnyrch botanegol ynddynt ac a grëwyd yng Ngŵyr i wisgis arobryn o Gymru, sy'n cael eu distyllu mewn hen waith copr hanesyddol, mae pob lle yn cynnig blas unigryw o ddiodydd gorau'r ardal. Dyma'r ffordd berffaith o gynnig llwncdestun i ddathlu'ch tad!

A man and woman enjoying a whiskey tour in Penderyn, Swansea

Peidiwch â phoeni ynghylch siopa munud olaf am y llyfr, y sanau neu'r cwrw perffaith! Yn lle, archwiliwch ein detholiad o brofiadau fel anrhegion a threuliwch amser gyda Dad ar Sul y Tadau, gan greu atgofion difyr a fydd yn para oes!