Mae rhamant yn yr awyr ym Mae Abertawe ❤
Wyddech chi fod gennym ein fersiwn ein hun o Ddydd Gŵyl Sain Folant yma yng Nghymru? Ar 25 Ionawr, rydym yn dathlu Dydd Santes Dwynwen oherwydd Santes Dwynwen, tywysoges o'r bedwaredd ganrif a nawddsant cariadon Cymru. Ac wrth gwrs, mae Dydd Gŵyl Sain Folant ar ddod hefyd, felly mae cariad yn sicr yn yr awyr ym Mae Abertawe. Mae gennym lawer o syniadau a fydd yn eich helpu i ddangos eich cariad yn union faint mae'n ei olygu i chi.
Seibiannau Rhamantus
Os yw'n well gennych westy chwaethus yng nghanol y ddinas neu fwthyn clyd arfordirol (neu yng nghefn gwlad!) lle gallwch ddod â'ch ci, gallwch ddod o hyd i'r gwyliau rhamantus perffaith yma.

Noson Mas Rhamantus
Mae cael noson mas rhamantus yn hawdd ym Mae Abertawe. Beth am dreulio noson ramantus yn bwyta cinio rhamantus yng ngolau cannwyll cyn mynd i'r theatr i fwynhau sioe? Neu am rywbeth mwy hamddenol, mwynhewch ddiodydd â golygfa, yna ewch i berfformiad lleol!

Syniadau am Ddiwrnod Rhamantus
Os yw diwrnod rhamantus allan yn fwy addas i chi, cymerwch gip ar ein fideo o lwybrau rhamantus. Darganfyddwch ein traethau hardd a llwybrau cerdded arfordirol gyda digon o siopau coffi (a theisen!) lleol ar y ffordd!
Rhowch anrheg arbennig
Ydy eich anwylyn yn dwlu ar fwyd? Rhowch wystrys ffres ar lan y môr iddo, neu gallwch flasu cwrw, jin a wisgi lleol. Os ydych yn chwilio am anrheg fwy traddodiadol, gallwch ddewis symbol Cymreig o gariad ar ffurf llwy gariad unigryw o Gymru (mae gennym oriel lawn ohonynt yn y Mwmbwls!), neu ewch i farchnadoedd, siopau ac orielau lleol i gael gwaith celf, serameg a gemwaith ag ysbrydoliaeth leol.
