Yma yn Bluebell Coffee & Kitchen rydym wrth ein bodd yn dod â theulu a ffrindiau ynghyd i gael pryd da o fwyd! Rydym yn gweini brecwast, brecinio, cinio a the prynhawn yma 7 niwrnod yr wythnos ac rydym hefyd yn cynnal partïon a digwyddiadau yn ein lleoliad.

Gan fod ein teulu'n hanu o wlad Groeg, rydym yn mwynhau prydau hawdd a blasus y gall pawb fod yn rhan ohonynt. Rydym yn coginio ein bara a'n bara fflat ein hunain ac rydym yn hoffi rhannu pa mor hawdd ydyw i wneud y math hwn o fara!

Rydym wedi creu rysáit hawdd i chi i gyd ei mwynhau dros y Nadolig! Mae’n rhywbeth ychydig yn wahanol, mae'n flasus iawn ac yn bwysicaf oll, mae'n hwyl!

Gallwch weld popeth rydym yn ei gynnig yma yn: www.bluebellcoffee.co.uk

Instagram: @bluebellcoffeeuk Facebook: @bluebellcoffeeuk

Threads:  @bluebellcoffeeuk

 

Bara Fflat a Bwyd Dros Ben y Nadolig, gyda Thalpiau Tatws Lemwn a Garlleg

Rysáit Bara Fflat Hawdd   Cynhwysion

  • 300g o flawd plaen (blawd at bob pwrpas)
  • ½ llwy de o halen
  • 3½ llwy fwrdd / 50g o fenyn di-halen (fg - gellir defnyddio menyn heb gynnyrch llaeth yn lle)
  • 185ml o laeth (fg - gellir defnyddio menyn heb gynnyrch llaeth yn lle)

 

  • Ar eich stôf, cyfunwch y menyn a'r llaeth a'u cynhesu nes bod y menyn yn toddi.
  • Cyfunwch y blawd, yr halen, y menyn a'r llaeth mewn powlen
  • Ysgeintiwch eich arwyneb gwaith gydag ychydig o flawd yna dechreuwch dylino'r cymysgedd. Ni fydd angen ei dylino llawer. Os yw'r toes yn ludiog gallwch ychwanegu ychydig mwy o flawd.
  • Lapiwch y toes mewn cling ffilm a gadewch iddo orffwys ar dymheredd ystafell am ryw 30 munud.
  • Ysgeintiwch eich arwyneb gwaith â blawd, torrwch y toes yn 4 darn a'u rholio'n beli, yna rholiwch bob pelen allan nes ei fod tua 20cm o hyd a 2 i 3mm o drwch.
  • Heb ddefnyddio olew, cynheswch eich padell.
  • Rhowch un darn o fara fflat yn y badell a'i goginio am oddeutu 2 funud - dylai chwyddo cryn dipyn. Unwaith y mae darnau o'r gwaelod yn troi'n euraid, trowch e drosodd a choginio'r ochr arall am 45 eiliad i 1 funud nes ei fod yn euraid ac yn chwyddo eto.
  • Cydiwch mewn lliain sychu llestri glân a lapiwch y bara fflat ynddo i'w gadw'n llaith ac yn blygadwy.
  • Os hoffech iddo edrych yn foethus, gallwch doddi ychydig o fenyn neu fenyn heb gynnyrch llaeth gyda garlleg wedi'i dorri'n fân/oregano/persli/darnau chilli ynddo a'i frwsio ar y bara fflat.

 

SAWS TOMATO HAWDD

  • 2 gwpanaid o 'passata' tomato
  • 1 llwy fwrdd o bast tomato
  • 2 ewin garlleg wedi'u torri'n fân
  • 1 llwy de o halen
  • ½ llwy de o siwgr 
  • 1 llwy de o oregano
  • 2 lwy de o olew olewydd

Rhowch olew olewydd yn y badell a'i gynhesu ar wres isel. Ychwanegwch y garlleg a'i goginio'n ysgafn yna ychwanegwch y cynhwysion eraill. Ychwanegwch halen fel y dymunir. Rhowch y badell o'r neilltu i oeri.

Mae gennych bopeth sydd ei angen yn awr i baratoi'r bara fflat, a gallwch roi unrhyw beth yr hoffech ar ei ben. Rhowch y saws tomato ar eich bara fflat yna ychwanegwch eich topins Gallwch ddefnyddio topins feganaidd hefyd fel llysiau dros ben, darnau o dorth cnau rhost a chaws feganaidd!

Ein topins ni:

- twrci, cigoedd wedi'u halltu, caws Manchego wedi'i gratio, basil ffres ac olew olewydd i'w ysgeintio dros y cyfan

- caws Brie, saws llugaeron gyda chaws Cheddar wedi'i gratio, dail berwr ffres ac olew olewydd i'w ysgeintio dros y cyfan

Unwaith rydych chi wedi rhoi eich topins ar y bara fflat, gallwch eu rhoi yn y ffwrn am 10 munud ar dymheredd o 180ºC (gellir coginio'r talpiau tatws ar yr un pryd)

 

Talpiau lemwn a garlleg

  • Torrwch eich tatws dros ben yn dalpiau.
  • Rhwch nhw mewn powlen fawr.
  • Torrwch 2 ewin garlleg yn fân.
  • Gwasgwch un lemwn cyfan
  • 4 llwy fwrdd o olew had rêp (gallwch ddefnyddio olew olewydd os hoffech)
  • Cymysgwch y sudd lemwn, y garlleg a'r olew mewn powlen fach.
  • Arllwyswch hwn dros y talpiau tatws a'u cymysgu'n ysgafn gyda'ch dwylo nes eu bod wedi'u gorchuddio.
  • Rhowch y talpiau tatws ar hambwrdd pobi wedi'i leinio â phapur gwrthsaim, ysgeintiwch ychydig o sudd lemwn, garlleg ac olew drostyn nhw a'u coginio yn y ffwrn neu mewn ffrïwr aer am 8 munud ar 180ºC.

Eisteddwch i lawr a'u mwynhau gyda'r teulu cyfan! Oddi wrth bawb yn Bluebell Coffee & Kitchen, Nadolig Llawen i chi i gyd a gobeithio y gwelwn ni chi yn y flwyddyn Newydd! Ar gyfer ymholiadau, ffoniwch 01792 207891 neu e-bostiwch hello@bluebellcoffee.co.uk