Gall trefnu gwyliau yn ystod y Sulgwyn fod yn anodd gyda thywydd mor anrhagweladwy. Un funud rydych chi'n breuddwydio am hufen iâ blasus ar draeth heulog ym mhenrhyn Gŵyr, ac yna rydych chi'n ceisio dod o hyd i ffyrdd i gadw'r plant yn brysur wrth i'r cymylau llwyd nesáu.
Y newyddion da? Mae gan Fae Abertawe rywbeth i'w wneud yn ystod pob math o dywydd, felly rydym wedi llunio'r canllaw cynhwysfawr hwn i'ch helpu i drefnu gwyliau bythgofiadwy gyda'r teulu, beth bynnag fo'r tywydd.
Yr Awyr Agored
Pan fydd yr haul yn disgleirio, nid oes unrhyw le gwell i fod yn y DU. A'r rhan orau? Nid oes angen talu ffi mynediad i fwynhau byd natur.
Her 19 o Draethau
O fae enwog Rhosili i Oxwich a Caswell, sy'n lleoedd gwych i archwilio pyllau trai, mae gennych 19 o draethau o'r radd flaenaf ar eich stepen drws ac mae nifer ohonynt yn addas i gŵn drwy gydol y flwyddyn.
Llwybrau'r Arfordir
Mae Llwybr Arfordir Cymru ar ei orau rhwng Bae Abertawe a phenrhyn Gŵyr, ac mae'n cynnwys 39 o filltiroedd o draethau euraid, clogwyni dramatig ac amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Ar gyfer coesau bach, rhowch gynnig ar y promenâd gwastad, palmantog rhwng Marina Abertawe a'r Mwmbwls.
Rhowch gynnig ar rywbeth newydd
Ydych chi am fwynhau profiad bythgofiadwy? Y Sulgwyn yw'r amser perffaith ar gyfer gwersi sy'n addas i ddechreuwyr. Beth am syrffio'r tonnau neu fwynhau'r golygfeydd wrth ferlota - mae eich antur yn dechrau yma!
Pethau Gwych Dan Do
Peidiwch â gadael i ychydig o ddiferion glaw ddifetha'ch hanner tymor. Mae Bae Abertawe llawn gweithgareddau dan do sydd yr un mor anturus â'r arfordir.
Anturiaethau Sŵ Drofannol
Dewch i ddarganfod sŵ drofannol dan do lle mae plant o bob oedran yn gallu dod wyneb yn wyneb â chrocodeilod caiman, adar trofannol, swricatiaid a mwy.
Teithio Drwy Amser
Dewch i gwrdd â mymi Eifftaidd o'r enw Hor sy'n rhan o'r casgliad archeoleg enwog a gweld y llongau yn yr amgueddfa hynaf yng Nghymru. Gallwch hefyd fynd drws nesaf i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am brynhawn llawn hanes rhyngweithiol, uwch-dechnoleg am ddim.
Ydych chi'n barod am her?
Oes gennych ragor o egni o hyd? Dyma'r amser i anelu'n uchel! Ewch i un o'n canolfannau dringo dan do lleol (mae croeso i gŵn hefyd mewn rhai ohonynt) i adael iddynt ddringo'n uchel mewn ffordd ddiogel.
Prydau at Ddant Bawb
Rydym yn gwybod bod plentyn bach llwglyd yn gallu bod yn fater brys yn ystod gwyliau. P'un a ydych chi am fwynhau byrbryd cyflym ar lan y môr neu fwynhau pryd o fwyd gyda golygfeydd gwych, mae digon o ddewis ar eich cyfer.
Y ddadl hufen iâ fawr
Wrth i chi ymweld â'r Mwmbwls, mae'n rhaid i chi brofi'r hufen iâ lleol! Dewiswch eich hoff flas ac yna gallwch ei fwynhau wrth edrych dros Fae Abertawe. Mae hyn yn gyfle i greu atgofion melys am gost isel gyda'ch teulu.
Prydau hamddenol ar lan y môr
O gaffis unigryw i dafarndai lleol sy'n gweini cawl cartref a bwytai yng nghanol y ddinas gyda golygfeydd o'r bae a'r marina, mae digon o ddewis ar gael.
Mannau picnic a thrysorau cudd
Gyda 19 o draethau a thros 52 o barciau a gerddi, (Peidiwch â cholli Gerddi Clun yn eu blodau!), bae Abertawe yw'r lle perffaith i fwynhau basged llawn danteithion blasus. Gallwch brynu pice ar y maen a byrbrydau o bopty lleol neu Farchnad Abertawe a dod o hyd i draeth lle gallwch eu mwynhau.
Cartref Oddi Cartref
P'un a ydych chi'n breuddwydio am ddeffro i sŵn y tonnau ym mhenrhyn Gŵyr neu am fod yng nghanol cyffro'r ddinas, mae eich llety perffaith ar gyfer hanner tymor mis Mai yn aros amdanoch.
Gallwch wersylla neu wersylla moethus dan y sêr yn Nhirwedd Genedlaethol Gŵyr, ymgartrefu mewn bwthyn clud ar yr arfordir (mae croeso i gŵn hefyd!), neu ddewis gwesty modern yng nghanol y ddinas sy'n agos at atyniadau sy'n addas i deuluoedd a lleoedd gwych i fwyta, ac mae'r cyfan yn agos at y llwybr pum milltir ar hyd Bae Abertawe. Mae pob math o ymwelwyr, o bobl sy'n dwlu ar fyd natur i bobl sy'n hoffi archwilio'r ddinas, yn gallu dod o hyd i leoedd perffaith i aros yma ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr.
Eich Sulgwyn: Gweithgareddau ar Gyfer Pob Math o Dywydd
Ni ddylai cynllunio gwyliau i'ch teulu deimlo fel gwaith caled. Nawr gallwch wneud trefniadau ar gyfer pob math o dywydd ym mis Mai, p'un a ydych chi'n gosod pabell o dan awyr dywyll penrhyn Gŵyr neu'n ymlacio mewn llety yng nghanol y ddinas ar lan y môr, yr unig beth sydd ar ôl i'w wneud yw cyrraedd, ac mae hynny'n hawdd hefyd!
Trefnwch eich gwyliau neu seibiant byr dros y Sulgwyn heddiw a gwnewch Fae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn #LleHapus newydd i chi.