Dewch i ymuno â Studts Funfairs & Events (y tîm y tu ôl i Wledd y Gaeaf ar y Glannau) o ddydd Gwener 14 Awst am bythefnos llawn hwyl a chyffro, reidiau diderfyn, hwyl i'r teulu ac atgofion bythgofiadwy.

 

 

P'un a ydych yn mwynhau reidiau cyffrous, neu’n chwilio am reidiau i'r teulu cyfan neu atyniadau i ymwelwyr iau, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.

Ymysg yr uchafbwyntiau y mae:  

  • Reidiau cyffrous - dewch i brofi eich dewrder ar reidiau fel Moondancer, Sizzler a Freak Out
  • Reidiau traddodiadol – rhowch gynnig ar y ceir clatsio, y rheilffordd droellog a'r olwyn fawr
  • Hwyl y ffair - dewch i archwilio'r tŷ hwyl neu rhowch gynnig ar y stondinau gemau ffair 
Studts Mega Value Wristband Fair

Pryd: Dydd Gwener 14 - dydd Llun 31 Awst

Ble: Cae Lacrosse Parc Singleton (Mynedfa trwy Brynmill Lane)

Bandiau Arddwrn Hwyl Ddiderfyn:  

  • £12 y person - gallwch fynd ar gynifer o reidiau ag y mynnwch yn ystod eich sesiwn ddewisol
  • Y rheini na fyddant yn mynd ar reidiau:   £3 y person

Sesiynau: 

  • Sesiwn 1: 12.00pm – 4.00pm
  • Sesiwn 2: 4.00pm – 8.00pm

Dewch â'r teulu cyfan, mwynhewch awyrgylch yr haf, prynwch fand arddwrn a manteisiwch i'r eithaf ar oriau o hwyl ddiderfyn am un pris gwych!

PRYNU TOCYNNAU A RHAGOR O WYBODAETH

Mega Value Wristband Fair rides