Rydym ar ddiwedd tymor cyffrous o gyngherddau gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (CGG y BBC), y mae fy ngwraig a minnau wedi’u mwynhau’n fawr, yn Neuadd Brangwyn Abertawe.

Fy enw i yw Ian, ac rwyf wedi dod i werthfawrogi cerddoriaeth glasurol yn hwyrach mewn bywyd, ar ôl brawychu fy athro cerdd yn yr ysgol pan gyflwynais fy llyfr ymarferion gwag iddo ar ddiwedd y drydedd flwyddyn yn yr ysgol gyfun. Roedd fy ngwraig Emma ar y llaw arall wedi astudio cerddoriaeth yn y brifysgol. Gyda’n gilydd, rydym wedi bod yn mynd i gyngherddau CGG y BBC yn y Brangwyn ers rhai blynyddoedd, ond y tymor hwn fe benderfynom geisio’u gweld nhw i gyd.

Rydym wir yn hoffi’r Brangwyn. Er ei mawredd o’r 1930au, gyda’i phensaernïaeth drawiadol a Phaneli Ymerodraeth Brydeinig Syr Frank Brangwyn, mae’n lle sydd rhywsut yn llwyddo i deimlo’n hamddenol ac yn groesawgar. Efallai mai’r stiwardiaid cymwynasgar sydd ar ddyletswydd sy’n gyfrifol am hyn? Does dim angen i chi wisgo lan a gallwch fwynhau diod fach yn ystod yr egwyl.

BBC NOW musicians playing violins

Shostakovich

Er ein huchelgais mawrfrydig i fynd i bob cyngerdd yn nhymor CGG y BBC eleni, bu’n rhaid i ni golli 13eg Symffoni Shostakovich ym mis Chwefror. Yn ffodus i ni, caiff cyngherddau CGG y BBC eu recordio a’u darlledu’n aml ar Radio 3 y BBC. Wrth wrando drwy’r cyfleuster dal i fyny ar BBC Sounds, roedd ei galarnad bwerus i’r rheini a laddwyd yn Babi Yar, wedi’i chyfleu gan leisiau gwrywaidd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, wedi creu cryn argraff arnom. Fel sy’n digwydd yn aml gyda cherddoriaeth glasurol, nid yw’r cyfan yn ddramatig, a cheir cyffyrddiad o hiwmor yn yr ail symudiad pan fydd  Shostakovich yn canmol pŵer comedi dan bwysau gwleidyddol. Mae 13eg Symffoni Shostakovich yn gampwaith.

Strafagansa Dydd Gŵyl Dewi

Nesaf roedd y Strafagansa Dydd Gŵyl Dewi a ddechreuodd ddathliadau gŵyl flynyddol Croeso yn y ddinas. Rwy’n falch o ddweud y llwyddom i fynd i’r gyngerdd hon. Perfformiodd y gerddorfa Holiday Overture gan William Mathias, darn cymharol fyr gan y cyfansoddwr o Gymru. Mae’n chwareus ac roeddem yn arbennig o hoff o’r defnydd o’r adran daro i gynhyrchu rhythmau Lladin…Viva!

Roedd yn rhaid i gyngerdd Dydd Gŵyl Dewi i ddathlu cyfansoddwyr o Gymru gynnwys gwaith Syr Karl Jenkins, ac ar ôl hoe fer i baratoi, gwanwyd y distawrwydd yn y neuadd gan sain sacsoffon Jess Gillam yn canu ei Strafagansa wrth iddi wneud ei ffordd drwy’r gynulleidfa i’r llwyfan.

Rachmaninov 2

Roedd Emma yn edrych ymlaen yn arbennig at gyngerdd mis Mawrth a oedd yn cynnwys 2il symffoni Rachmaninov – un o’i ffefrynnau! Er bod llawr o elfennau soffistigedig i’r cyfansoddiad hwn, yr awyrgylch  rhamantus pêr y mae’n ei gyfleu y mae hi wir yn ei hoffi, a chwaraeodd CGG y BBC y darn yn hyfryd yn yr ail hanner.

Cyn yr egwyl, cawsom glywed ‘Elegy for Strings’ gan Grace Williams, un o gyfansoddwyr proffesiynol cyntaf Cymru o’r 20fed ganrif i gael cryn gydnabyddiaeth genedlaethol, a Choncerto i’r Feiolin Carl Neilsen.

A female musician playing a harp.

Enigma Variations

Ym mis Ebrill perfformiwyd ‘Enigma Variations’ Elgar gan CGG y BBC a’i ‘Nimrod’ adnabyddus Fodd bynnag, i ni, cafwyd hud gwirioneddol y gyngerdd yn yr hanner cyntaf gydag un o gyfansoddiadau eraill Grace Williams sef ‘Sea Sketches,’ a wnaeth i mi deimlo fel pe bawn wedi bod yn hwylio’r moroedd mawr ac wedi cael fy ngolchi i’r lan ar draeth hardd. Ganwyd Williams yn y Bari ac ysgrifennodd y darn pan oedd yn byw yn Llundain, roedd hi’n amlwg yn teimlo hiraeth mawr am ei chartref.

Fe wnaethom fwynhau’r Concerto i Delyn gan William Mathias, a gyflwynodd dirwedd gerddorol Cymru mewn ffordd wahanol. Roedd Emma’n arbennig o hoff o’r ffordd yr oedd y delyn, a chwaraewyd yn wych gan Catrin Finch, yn ymgomio â’r selesta.

A male musician and conductor congratulating each other.

Bartok

Dychwelodd CGG y BBC i’r Brangwyn ym mis Mai ar gyfer Concerto i’r Gerddorfa gan Bartok. Wrth wrando ar y concerto, mae elfennau o gerddoriaeth werin i’w clywed yn glir. Mae wir yn arddangos cwmpas y gerddorfa, ac roeddwn i’n meddwl y gallwn glywed rhythmau Lladinaidd, sydd, rwy’n tybio’n adlewyrchu diddordeb y cyfansoddwr mewn astudio cerddoriaeth o ddiwylliannau gwahanol. Fe’i harweiniwyd gan yr arweinydd arobryn, Giancarlo Guerrero, yr oedd ei siglo dawnsio ar y podiwm wedi gwneud i ni chwerthin.

Roedd y gyngerdd hefyd yn cynnwys y perfformiad cyntaf yn y DU o ‘The Observatory’ gan Caroline Shaw, darn a ysbrydolwyd gan y bydysawd a’r awydd dynol i’w archwilio a’i ddeall, yn ogystal â Choncerto i’r Piano yn G fwyaf gan Ravel gyda’r pianydd enwog, Sergio Tiempo. Roeddwn i’n dwlu ar rythmau jazz y concerto, a oedd yn adleisio Gershwin, cyfansoddwr yr oedd Ravel yn ei edmygu, ac roedd Sergio Tiempo yn canu’r piano’n wych.

Cloi’r tymor

Daw popeth da i ben yn y pendraw, ac felly hefyd y tymor hwn o gyngherddau CGG y BBC. Rydym wedi cael y pleser o glywed cerddoriaeth fendigedig gan gerddorion o’r radd flaenaf. Mae cyngerdd cloi’r tymor i ddod o hyd gyda’r Concerto i’r Sielo yn B leiaf gan Dvořák; ‘Blue Cathedral’ gan Jennifer Higdon, a ‘Negro Folk Symphony’ gan William Levi Dawson. 

Y tu hwnt i hynny, bydd CGG y BBC yn Neuadd Albert Llundain ar gyfer Proms y BBC cyn iddynt gael hoe haeddiannol a dechrau paratoi ar gyfer y tymor nesaf.

“If music be the food of love, play on…” Shakespeare