Os ydych yn trefnu seibiant ond nid ydych am adael eich anifail anwes ar ôl, Bae Abertawe yw'r cyrchfan perffaith i chi!

Mae'r rhanbarth syfrdanol hwn yn hafan i bobl sy'n dwlu ar gŵn, gan gynnig popeth o draethau gwyntog a llwybrau arfordirol golygfaol, i goetiroedd heddychlon a throeon ymlaciol ar lan yr afon. P'un a ydych yn chwilio am benwythnos hamddenol neu seibiant llawn cyffro, mae Bae Abertawe yn cynnig cymysgedd o anturiaethau awyr agored, llety croesawgar a digon o leoliadau sy'n croesawu cŵn, gan sicrhau bod eich anifail anwes yn rhan o’r profiad. Dyma rai syniadau gwych i'ch helpu chi a'ch ci i wneud y gorau o'ch seibiant dros yr hydref.
 

A lady with a dog

Troeon Arfordirol a Phawennau Tywodlyd

Gan fod yr hydref wedi cyrraedd, mae holl draethau hardd Bae Abertawe ar agor i gŵn unwaith eto (1 Hydref i 30 Ebrill). Gadewch i'ch cyfaill blewog redeg yn rhydd ar y tywod euraidd, sblasio yn y môr a rhedeg ar ôl broc môr.

Dechreuwch drwy fynd am dro ar hyd promenâd Bae Abertawe - llwybr gwastad 5 milltir o hyd o Farina Abertawe i'r Mwmbwls, gyda golygfeydd godidog a digon o gaffis sy'n addas i gŵn ar hyd y ffordd.

Yn y Mwmbwls, mwynhewch hud y pentref glan môr Fictoraidd hwn, sy'n llawn bwtigau, orielau a lleoedd gwych i fwyta. Mae llawer yn croesawu cŵn, ac mae'r naws arfordirol hamddenol yn golygu bod yr ardal yn boblogaidd iawn ymysg pobl sy'n dwlu ar gŵn.

I weld rhagor o harddwch arfordirol, dilynwch Lwybr Arfordir Gŵyr o Fae Bracelet i Fae Caswell. Mae'r llwybr tair milltir hwn yn cynnig golygfeydd dramatig ac mae'n berffaith ar gyfer tro machlud haul gyda'ch anifail anwes.

Ydych chi'n chwilio am rywbeth mwy gwyllt? Ewch i Fae Rhosili, un o draethau sy'n addas i gŵn gorau'r DU - lle mae tair milltir o dywod euraidd a chlogwyni aruchel yn cynnig y lle chwarae perffaith i gŵn.Neu, beth am archwilio llwybrau tawel Cwm Iorwg a thywod anghysbell, gwyntog Twyni Whiteford?

Two women walking with a dog down Rhossili Downs

Gerddi, Coetiroedd a Llwybrau Cudd

A oes well gennych goed neu lanw? Mae gan Fae Abertawe ddigonedd o fannau gwyrdd lle mae croeso i gŵn a lle mae natur ar ei gorau.

Gerddi Clun - trysor botanegol sy'n cynnwys planhigion prin, llwybrau coetir, pont Japaneaidd a ffoleddau cudd.

Parc Singleton - 250 erw o lawntiau agored a choed aeddfed, perffaith ar gyfer tro hamddenol neu gêm gyda phêl

Coed Cwm Penllergare - coetir hanesyddol gyda llwybrau tawel, rhaeadrau a llyn golygfaol - y lleoliad perffaith ar gyfer anturiaethau mwdlyd gyda'r ci!

Cronfa Ddŵr Lliw - wedi'i hamgylchynu gan fryniau tonnog a choetir tawel, yn wych ar gyfer troeon cylchol a gweld bywyd gwyllt.

Walking with a dog through Clyne Gardens

Atyniadau a Gweithgareddau sy'n Croesawu Cŵn

Mae Bae Abertawe yn cynnig mwy na throeon golygfaol - mae digonedd o atyniadau a gweithgareddau sy'n croesawu cŵn hefyd.

Castell Ystumllwynarth - croesewir cŵn ar dennyn ar dir a'r tu mewn i'r castell hanesyddol ar ben bryn o'r 12fed ganrif.  

Pier y Mwmbwls -  Mae'r pier Fictoraidd swynol hwn yn cael ei adfer ar hyn o bryd ac ni ellir ei archwilio'n llawn, ond mae'n berffaith fel rhywle i fynd am hufen iâ ac i gael mynediad i'r traeth

Marchnad Abertawe -  Mae Marchnad Dan Do fwyaf Cymru yn croesawu cŵn sy'n ymddwyn yn dda i archwilio cynnyrch lleol, crefftau a danteithion blasus

Siopau ac Orielau -  Mae llawer o sefydliadau annibynnol, fel Gower Gallery yn croesawu cŵn (yn aml gyda thrît!) – wrth i chi bori drwy gelf leol

Digwyddiadau a Marchnadoedd - mae gwyliau bwyd awyr agored, marchnadoedd crefftau a sioeau tymhorol yn aml yn caniatáu cŵn

Dynamic Rock – mae croeso i gŵn yn y caffi ac yn yr ardal ddringo dan do

Ewch i'r dudalen Digwyddiadau i ddarganfod hyd yn oed mwy o bethau sy'n addas i gŵn

Dog at Oystermouth Castle

Lleoedd i Fwyta ac Yfed sy'n Addas i Gŵn

Does dim byd gwell na dod o hyd i le clyd i ymlacio ar ôl bod am dro hir, a does dim diffyg caffis, tafarndai a bwytai sy’n addas i gŵn ym Mae Abertawe.

Bae Abertawe:

  • Albert Hall - neuadd fwyd dan do fywiog sy'n croesawu cŵn, sy'n cynnig powlenni dŵr, trîts gan fasnachwyr bwyd, toesenni i gŵn a diod hufennog arbennig am ddim
  • Founders & Co – lleoliad hamddenol dan do sy'n cynnwys stondinau bwyd arbennig, bar steilus, siop sy'n gwerthu nwyddau ddoe a chroeso cynnes i gŵn
  • The Secret Bar & Kitchen –mae'r bwyty hwn ger prom Bae Abertawe, ac mae croeso i gŵn y tu mewn a'r tu allan, gydag ardal eistedd wedi'i gwresogi, diodydd hufennog arbennig a thrîts ar gynnig.
  • Urban HQ - caffi menter gymdeithasol sydd ag ardal awyr agored fawr i gŵn, a gallant eistedd y tu mewn hefyd!

Y Mwmbwls:

  • The Oyster House- mae croeso i gŵn yn ystafell wydr y bwyty glan môr chwaethus hwn
  • Verdi's - siop hufen iâ boblogaidd ar y prom, mae croeso i gŵn y tu allan.


Gŵyr:

  • Cwm Ivy Café & Crafts - lle croesawgar a chlyd sy'n adnabyddus am ei deisennau cartref a'i hufen iâ i gŵn
  • Kings Head Inn - mae croeso i gŵn yn y bar, lle gallwch ddod o hyd i drîts ac awyrgylch hamddenol
  • Langland's Brasserie - dewch i fwynhau golygfeydd o'r môr wrth i'ch ci ymlacio wrth eich ymyl yn yr ardal eistedd awyr agored
  • The View Rhossili - mae croeso i gŵn dan do, ac mae bwydlen arbennig sy'n cynnwys selsig i gŵn a thrîts blasus
  • Three Cliffs Coffee Shop - ardal eistedd dan do sy'n addas i gŵn a lle gwych i stopio i archwilio'r baeau cyfagos

 

Abertawe Wledig

  • Penllergaer Coffee Shop - ardal eistedd dan do sy'n addas i gŵn mewn caffi coetir a chanolfan ymwelwyr, ynghyd â thrîts a hufen iâ i gŵn

Mae llawer o dafarndai gwledig hefyd yn croesawu cŵn, yn enwedig y rhai ger llwybrau cerdded poblogaidd. Cymerwch gip ar y rhestr lawn o leoedd sy'n addas i  gŵn yma

Dog at Langland Brasserie

Lleoedd Arbennig i Aros sy'n Addas i Gŵn 

Mae gan Fae Abertawe ystod eang o opsiynau sy'n addas i gŵn.

Bae Abertawe:

  • Albert Hall Apartments – gwesty steilus yn y ddinas sy'n croesawu cŵn, gyda neuadd fwyd sy'n addas i gŵn
  • Mercure Hotel - gwesty cyfforddus gydag ystafelloedd gwely sy'n addas i gŵn, ac mae'r llyn gerllaw yn berffaith ar gyfer teithiau cerdded gyda'ch ci

Y Mwmbwls:

  • Clyne Farm Cottages - bythynnod hunanarlwyo ar fferm ar goetir diarffordd, sy'n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd a chŵn. Darperir pecyn wedi'i bersonoli i'ch ci sy'n cynnwys trîts a thegan
  • The Oyster House – gwesty bwtîc ag ystafelloedd gwely sy'n addas i gŵn. Darperir basged sy'n llawn trîts blasus, gwely/blanced a phowlen i'r ci.

Gŵyr:

  • Kings Head Inn - ystafelloedd sy'n addas i gŵn, tafarn sy'n croesawu anifeiliaid, basgedi i gŵn a hyd yn oed bwydlen i gŵn sy'n gweini hufen iâ arbennig
  • Hael Farm Cottages - bythynnod hunanarlwyo, ger llwybrau arfordirol, traethau a chefn gwlad
  • Pitton Cross Farm- ffermdy a sguboriau hunanarlwyo arfordirol sy'n cynnwys ardal ddiogel i gŵn a llwybr ystwythder. Darperir basged llawn pethau i'ch cŵn
  • Three Cliffs Bay Holiday Park - parc gwyliau sy'n addas i gŵn sy'n cynnig cyfleusterau glampio a gwersylla, ardal ddiogel i fynd â chŵn am dro, cawodydd twym i gŵn a nwyddau i gŵn

Abertawe Wledig:

Brynawel Farm - gwesty gwely a brecwast cefn gwlad, gyda gardd fawr wedi'i hamgáu, tapiau golchi cŵn yn yr awyr agored, ystafell frecwast sy'n addas i gŵn, gorchuddion ar gyfer y gwelyau a lle yn yr oergell ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes

Gallwch hefyd ddod o hyd i ddigon o fythynnod hunanarlwyo a llety gwely a brecwast eraill sy'n croesawu cŵn. Mae llawer yn cynnig gerddi wedi'u hamgáu, llwybrau cerdded cyfagos a phecynnau croeso. Cymerwch gip ar ein rhestr lawn o lety sy'n addas i gŵn  

Dogs at Clyne Farm

Awgrymiadau ar Gyfer Ymweld â'r Ardal Gyda'ch Ci

Gwiriwch gyfyngiadau'r traeth: Mae ein holl draethau yn croesawu cŵn yn yr hydref a'r gaeaf, ond mae gan rai traethau reolau tymhorol (1 Mai i 30 Medi). Gwiriwch arwyddion neu edrychwch ar-lein cyn i chi fynd

Paciwch yr hanfodion: Dŵr, bagiau gwastraff cŵn, tywel ar gyfer pawennau mwdlyd a thennyn

Parchwch fywyd gwyllt lleol: Mae penrhyn Gŵyr yn gartref i anifeiliaid sy'n pori a chynefinoedd gwarchodedig, felly cadwch eich ci ar dennyn a dilynwch y côd cerdded cŵn

Cynlluniwch ymlaen llaw: Er bod llawer o leoedd yn addas i gŵn, ffoniwch ymlaen llaw i gadarnhau, yn enwedig ar gyfer llety a lleoliadau dan do.

Ydych chi'n barod i archwilio? Paciwch eich tennyn a'ch trîts, mae antur yn aros amdanoch!

Hoffem weld beth rydych chi'n ei wneud gyda'ch cŵn! Tagiwch ni yn eich lluniau: @croesobaeabertawe #LleHapus #addasigwn #dwluargwn

 

couple sitting on stone bench with their dog looking out over park