fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae’r haf yn prysur nesáu, ac efallai eich bod yn pendroni dros sut i fwynhau Bae Abertawe eleni. Nawr bod yr haul yn disgleirio’n amlach ac yn gwneud i bawb eisiau gwisgo’u dillad haf, dyma’r amser perffaith i gael cip ar ein harweiniad digwyddiadau’r haf a dechrau nodi cynlluniau yn Abertawe!

Wythnos RETRO y Mwmbwls

Dydd Gwener 2 Mehefin i ddydd Sul 4 Mehefin. Penwythnos o gerddoriaeth y 70au, yr 80au a’r 90au i’r teulu cyfan, wedi’i chyflwyno dros 3 diwrnod ar safle hyfryd Castell Ystumllwynarth.

Gyda ffair a stondinau i blant, bydd yn benwythnos perffaith, llawn hwyl i’r teulu cyfan. Tocynnau o £10 – peidiwch â cholli’r penwythnos gwych hwn!

Darganfod mwy

Yn chwilio am gyngerdd i’w mwynhau yn Abertawe?

Dathlwch gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wrth iddynt ddod â’u tymor presennol i ben neuedd brangwn, gyda chyngerdd arbennig y bydd pawb sy’n hoff o gerddoriaeth yn ei mwynhau! Dan arweiniad Ryan Bancroft arobryn, gyda’r unawdwyr Alice Neary (sielo) a Rebecca Jones (fiola), gallwch glywed cerddoriaeth fywiog gan Mozart, Strauss a’r cyfansoddwr o Gymru, Grace Williams.

Gall ein darllenwyr brynu tocynnau am £7 gan ddefnyddio’r côd NOWYOU. Myfyrwyr a’r rheini dan 26 oed, £5

Darganfod mwy

Digwyddiadau Neuadd Brangwyn

Mae mis Mehefin yn y Brangwyn yn cynnwys rhywbeth i’r rheini sy’n dwlu ar gerddoriaeth, o gerddoriaeth glasurol i roc.

Bydd y mis yn dechrau gyda chyngerdd i gloi’r tymor Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, WHIMSICAL | SPRIGHTLY | FANCIFUL, ar 2 Mehefin ac yn parhau gyda’r datganiad organ amser cinio misol (6 Mehefin) a’r Dawns Amser Te (7 Mehefin).
Yna, cydiwch yn eich clustffonau a byddwch yn barod i ddawnsio drwy’r nos ar 10 Mehefin gyda Disgo Distaw cerddoriaeth y 90au a fydd yn cynnwys caneuon Britney Spears, Oasis ac Eminem.

Bydd dau gôr yn ymuno â ni’r mis hwn gyda Chyngerdd Gala Blynyddol Côr Orffews Treforys a Ffrindiau ar 17 Mehefin, dan ofal yr anghymharol Wynne Evans, a byddwch wrth eich boddau wrth i gôr Valley Rock Voices ddod â’u sain gyfoes i’r neuadd gan berfformio popeth o’r Bee Gees i Stormzy ar 24 Mehefin.

Darganfod mwy

Ddydd Sadwrn 3 Mehefin dewch am bicnic tedi bêrs yng Nghastell Ystumllwynarth.

Dewch â phicnic a’ch tedi bêr arbennig eich hun i fwynhau diwrnod yn y Castell. Os nad oes gennych dedi bêr, peidiwch â phoeni, bydd tedi bêrs gennym y gallwch eu mabwysiadu am y dydd.

Gallwch fanteisio i’r eithaf ar eich ymweliad drwy ymuno â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth ar gyfer un o’u teithiau tywys er mwyn cael cipolwg ar fywyd canoloesol a dysgu straeon o’r gorffennol. Bob dydd Mercher a dydd Gwener, a hefyd ddydd Sul yn ystod gwyliau ysgol, 11.15am a 2.15pm

Darganfod mwy

Gŵyl Tawe 2023

Bydd gŵyl Menter Iaith Abertawe, Gŵyl Tawe, yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn y 10 o Fehefin i leoliad newydd eleni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Bydd yr ŵyl yn cynnwys perfformiadau gan sêr y byd cerddoriaeth Cymraeg gan gynnwys Adwaith, Sage Todz a llawer mwy, yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau i’r holl deulu.

Mae’r ŵyl yn hollol rad ac am ddim, a bydd yn rhedeg rhwng 10:00am a 20:00pm.

 

Darganfod mwy

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’r Mehefin hwn am amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau! Rhowch gynnig ar fod yn greadigol gyda’n gweithgaredd argraffu Creu a Chadw ar y 1 a’r 2.

Dewch i fwynhau cerddoriaeth a diwylliant Cymru yn ystod Gŵyl Tawe ar y 10 neu ymunwch yn ein sesiwn Dewch i Ganu ar y 17. Gallwch rannu pryd o fwyd a wnaed o gynnyrch cartref o dan y sêr yn ystod y noson swper ‘Graft’ ar y 16; ac os ydych chi’n dwlu ar ddarllen, dewch i archwilio’n digwyddiad Cyfnewid Llyfr rhwng y 17 a’r 18.

Mae rhywbeth i bawb Mehefin hwn.

Darganfod mwy

Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2023

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn ôl rhwng 15 a 19 Mehefin gyda rhaglen sy’n llawn perfformwyr enwog a ffefrynnau cyfarwydd.

Peidiwch â cholli cyfres o gyngherddau’r ŵyl:

Hefyd, bydd Gweithdy Jazz i gerddorion ifanc, drwy garedigrwydd Cerdd Abertawe a Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru, a rhaglen llawn cerddoriaeth fyw i gerddwyr mewn lleoliadau yn yr Ardal Forol ac o’i hamgylch.

Darganfod mwy

Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf erioed o Under Milk Wood, drama i leisiau Dylan Thomas, ar y llwyfan yn y Ganolfan Farddoniaeth yn Efrog Newydd ar 14 Mai 1953. I ddathlu 70 o flynyddoedd ers y perfformiad hwn, mae Canolfan Dylan Thomas yn cynnal arddangosfa dros dro sy’n cynnwys gwrthrychau o’r casgliad, sy’n dangos rhai o’r ffyrdd y mae’r ddrama, sydd wedi’i gosod mewn tref ffuglennol yng Nghymru o’r enw Llareggub, wedi cael ei dehongli dros y blynyddoedd.

Ar agor ddydd Mercher i ddydd Sul, 10am tan 4pm, 14 Mai i 28 Ionawr. Llyfr Gwyn Llareggub – Canolfan Dylan Thomas

Darganfod mwy

Abertawe’r Ugeinfed Ganrif

Mae ‘Abertawe’r Ugeinfed Ganrif’, sydd wedi’i hysbrydoli gan archifau ffotograffig na welir yn aml gan bobl a gofnododd y newid o dref gythryblus i ddinas obeithiol, yn cyflwyno casgliad o arteffactau Amgueddfa Abertawe, wedi’u harddangos ochr yn ochr â ffotograffau sy’n cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar ganrif o newid yn y ddinas.

Ar agor nes 2023

Darganfod mwy

Paratowch am hanner tymor gyda’r tîm Chwaraeon ac Iechyd! Dewch i fwynhau gweithgareddau awyr agored i bob oedran gyda theithiau cerdded dan arweiniad hyfforddwr, Zumba a llawer mwy.

Mae llawer o weithgareddau difyr wedi’u cynllunio ar gyfer hanner tymor, gan gynnwys gwersyll treiathlon newydd i blant, beiciau cydbwyso a mwy. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd gyda’r tîm Chwaraeon ac Iechyd y mis Mehefin hwn, ewch i’n gwefan!

Darganfod mwy

Atyniadau Awyr Agored

Ydych chi wedi cael cyfle i ymweld â’n hatyniadau awyr agored eto?

Dyna’r ffordd berffaith o dreulio diwrnod braf.

Gallwch fynd mewn pedalo ar Lyn Cychod Parc Singleton – alarch neu ddraig; pa un fyddwch chi’n ei ddewis? Gallwch chwarae golff gwallgof yn y parc neu chware rownd arall yng Ngerddi Southend.

Neu beth am fynd i Lido Blackpill, sef ein parc dŵr awyr agored gwych sydd am ddim gyda phwll padlo a nodweddion dŵr?

Gallwch hefyd deithio ar Drên Bach Bae Abertawe, sef ffordd gofiadwy o weld y golygfeydd wrth i chi deithio ar hyd y prom.

Pawb ar y trên! Edrychwn ymlaen at eich gweld.

Darganfod mwy

Dim ond mis sydd i fynd tan Sioe Awyr Cymru, digwyddiad am ddim mwyaf Cymru.  Ar 1 a 2 Gorffennaf byddwch yn gallu gweld sgiliau erobateg y Red Arrows (cefnogir gan DS Automobiles yn FRF Motors Abertawe), Tîm Arddangos Typhoon, Tîm Raven, Hediad Coffa Brwydr Prydain, a Thîm Arddangos Parasiwt y Tigers a Hofrennydd Wildcat a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Ochr yn ochr â’r cyffro yn yr awyr, bydd amrywiaeth o arddangosfeydd ar y ddaear i chi a’r teulu i gyd eu mwynhau, fel arddangosfeydd milwrol, ffair bleser, atgynhyrchiadau o awyrennau a cherddoriaeth fyw drwy gydol y penwythnos.
Gallwch nawr hefyd archebu eich lle parcio ymlaen llaw, ac mae amrywiaeth o opsiynau parcio i ddewis ohonynt, gan gynnwys y gwasanaeth Parcio a Theithio.

Ewch i https://www.walesnationalairshow.com/cy/gwybodaeth-i-ymwelwyr/parcio-premiwm/ am ragor o wybodaeth.

Darganfod mwy

Chwaraeon

Bydd Abertawe yn cynnal wythnos arall o chwaraeon o’r radd flaenaf yn haf 2023 gyda Chyfres Para Treiathlon y Byd yn dychwelyd ar 15 Gorffennaf ac IRONMAN 70.3 Abertawe ar 16 Gorffennaf. Bydd yr Ŵyl Parachwaraeon wythnos o hyd hefyd yn dychwelyd rhwng 10 ac 16 Gorffennaf.

Rydym am i bawb fwynhau’r digwyddiadau hyn ac felly, er mwyn hwyluso’r digwyddiad hwn yn ddiogel, bydd nifer o ffyrdd ar gau, dargyfeiriadau traffig a chyfyngiadau parcio yn eu lle ddydd Sadwrn 15 a dydd Sul 16 Gorffennaf ar gyfer digwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe. Gellir gweld yr holl fanylion yma

Rydym yn gobeithio y byddwch yn dod i gefnogi’r athletwyr a phob lwc i’r rheini sy’n cymryd rhan.

Darganfod mwy

Mae’r Theatr Awyr Agored yn dychwelyd i Gastell Ystumllwynarth yr haf hwn, a’i noddwr swyddogol yw holidaycottages.co.uk.

Gallwch ddewis o ddau berfformiad, pa un fyddwch chi’n ei ddewis? …

Mae’r Theatr Awyr Agored yn croesawu Twelfth Night gan Shakespeare, nos Fercher 9 Awst am 7.30pm a heb anghofio Peter Rabbit, on o ffefrynnau’r teulu sy’n berffaith ar gyfer hwyl yn ystod gwyliau’r haf, ddydd Iau 10 Awst am 2pm.

Archebwch eich tocynnau heddiw!

Darganfod mwy

10k Bae Abertawe Admiral – Ewch amdani!

Medal ddisglair, crys T i’w wisgo gyda balchder neu’r teimlad gwych pan rydych chi’n croesi’r llinell derfyn.

Dyma rai yn unig o’r rhesymau pam mae miloedd o bobl yn cymryd rhan yn ras 10k Bae Abertawe Admiral bob blwyddyn.

Gydag e-byst misol yn darparu argymhellion hyfforddi gwych, a digon o wylwyr i’ch cefnogi ar y diwrnod, byddwch yn cael eich cefnogi o’r eiliad rydych chi’n cofrestru.

Felly, p’un a ydych am gael rhywbeth i hyfforddi ar ei gyfer, eisiau rhedeg ar ran eich elusen ddewisol neu’n ceisio curo’ch amser gorau, sicrhewch taw 2023 yw’r flwyddyn rydych chi’n rhoi cynnig ar 10k Bae Abertawe Admiral.

Edrychwn ymlaen at eich cefnogi!

Darganfod mwy