Ymunwch â ni yn Noc Tywysog Cymru, Abertawe wrth i athletwyr gorau’r bydd ddod ynghyd i gystadlu am y fedal aur ar draws y ddinas.
Yn ogystal â rasio o’r radd flaenaf, bydd hefyd ddigwyddiadau byw, bwyd a diod a phentref y digwyddiad i ddifyrru’r teulu cyfan, a bydd mynediad am ddim i’r digwyddiad!
Mae tywydd garw wedi ein orfodi i wneud newidiadau i fformat y rasys elitaidd a’r rasys ‘Paratri Super Series’ Prydeinig yng Nghyfres Para Triathlon y Byd Abertawe 2023 ar ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf 2023. Fellu, mae disgyblaeth y beic wedi’i chanslo a bydd y digwyddiad yn nawr yn ei gynnal fel acwathlon.
Bydd y cwrsiau nofio a rhedeg yn digwydd ar draws llwybrau gwahanol i’r rhai wreiddiol ac mae’r rhain ar gael yma.
Bydd y goreuon yn ymuno ag athletwyr addawol yn Uwch-gyfres Para Treiathlon Prydain yn ogystal â chyfle i gyfranogwyr gymryd rhan mewn rasys nofio, beicio a rhedeg a bydd y cyfan yn Noc Tywysog Cymru a Glannau SA1.
Cyflwynir y digwyddiad gan dîm Treiathlon Prydain mewn cydweithrediad â UK Sport, Treiathlon y Byd, Treiathlon Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.
.