fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Theatr Dylan Thomas, yr Ardal Forol

Mae Gŵl Jazz Ryngwladol Abertawe’n cyflwyno The Coalminers

Mae’r band 7 aelod gwych hwn o Lundain sy’n ymroddedig i ‘Swamp soul’ sef math o gerddoriaeth yr enaid yn dod â rhythm ac enaid New Orleans yn fyw!

Maent yn perfformio caneuon sy’n amrywio o steil Professor Longhair i Allen Toussaint, anthemau gorymdeithiau Mardi Gras a chlasuron roc a rôl Fats Domino, a ffync The Meters a Dr John. Mae eu henw’n deillio o’r gân Toussaint/Dorsey, ‘Working in a Coalmine’.

Mae’r band yn cynnwys y canwr gwych Tommy Hare, sydd wedi bod yn boblogaidd ymhlith cefnogwyr blws y DU dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Sumudu wedi gweithio gydag enwogion fel Rod Stewart, Jamie Cullum ac yn fwyaf diweddar mae’r canwr-gyfansoddwr Van Morrison wedi’i helpu i ddod yn flaenllaw ym myd cantorion benywaidd y DU.

Mae gweddill y band yr un mor rhagorol. Mae Pat Levett, drymiwr ac arweinydd y band, wedi chwarae gyda Tim Minchin, Tom Jones, Amy Winehouse, Zigaboo Modeliste (The Meters) a Ronnie Scott’s All Stars. Mae Arthur Lea, canwr a phianydd, wedi gweithio gyda Bootleg Brass a Soweto Kinch ar CV eang ac eclectig. Mae’r sacsoffonydd, Ben Somers, wedi perfformio gyda Dr John, Seal a Taylor Swift. Mae’r gitarydd, Rob Updegraff, wedi bod yn perfformio ac yn recordio gydag Alani, artist Sony, yn ddiweddar a gallwch ei glywed ar albwm diweddaraf Jamie Cullum ar y cyd â Gregory Porter a Laura Mvula. Mae’r chwaraewr bas, Spencer Brown, wedi perfformio gydag Andy Sheppard, Alan Barnes, Rebecca Ferguson a’r perfformiwr indi, Carl Barat.

Cyflwynir Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe gan Gyngor Abertawe ar y cyd â Chlwb Jazz Abertawe.

Archebwch docyn VIP i gael gostyngiad oddi ar holl ddigwyddiadau Gŵyl Jazz Abertawe; £90 ar gyfer y chwe chyngerdd, arbediad o £37, yn ogystal â seddi blaenoriaeth! Mae tocynnau VIP ar gael drwy swyddfa docynnau Theatr y Grand Abertawe, ffoniwch 01792 475715 neu galwch heibio. 5% ffïoedd archebu.

Bydd gwerthiannau dros y ffôn ac ar-lein yn cau am 12pm ar ddiwrnod pob sioe, bydd tocynnau ar gael o hyd wrth y drws os na werthwyd pob tocyn eisoes.

Dyddiad
17 MEH 2023
Lleoliad
Dylan Thomas Theatre
Price
21.00