Clwb Jazz Abertawe yn The Garage, Uplands
Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe’n cyflwyno HOOP, band o safon fyd-eang â saith aelod sy’n atgoffaol o’r cyfnod uniad jazz ffync/roc.
Tom Walsh – Trwmped
Nichol Thomson – Trombôn
Paul Booth – Sacsoffon Tenor a Chlarinét bas
Chris Allard – Gitâr
Ross Stanley – Allweddellau
Laurence Cottle – Bas trydan
Ian Thomas – Drymiau
Mae Paul Booth wedi curadu prosiect newydd, ‘Secret Sessions’, sy’n gyfrwng ar gyfer cerddoriaeth newydd sy’n cael ei chreu, ei chwarae a’i recordio yn y pen draw drwy ddod ag artistiaid a chyfeillion o’r un meddylfryd at ei gilydd.
Mae’n gweithio fel hyn… Mae Paul yn dethol cerddorion hynod ddawnus yn ofalus sydd yn eu tro yn dod i’r stiwdio recordio, gan wybod offeryniaeth y gerddoriaeth yn unig ond heb wybod pwy arall fydd yn chwarae gyda nhw. Mae’r canlyniad yn gymysgedd o gerddoriaeth ddigymell, gyffrous a gwerth chweil.
‘Hoop’ yw’r ail greadigaeth yn y gyfres ‘Secret Sessions’ a recordiwyd yn 2019 gyda chyfansoddiadau gan Tom Walsh, Nichol Thomson, Chris Allard a Paul Booth.
Cyflwynir Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â Chlwb Jazz Abertawe.
Archebwch docyn VIP i gael gostyngiad oddi ar holl ddigwyddiadau Gŵyl Jazz Abertawe; £90 ar gyfer y chwe chyngerdd, arbediad o £37, yn ogystal â seddi blaenoriaeth! Mae tocynnau VIP ar gael drwy swyddfa docynnau Theatr y Grand Abertawe, ffoniwch 01792 475715 neu galwch heibio. 5% ffïoedd archebu.
Bydd gwerthiannau dros y ffôn ac ar-lein yn cau am 12pm ar ddiwrnod pob sioe, bydd tocynnau ar gael o hyd wrth y drws os na werthwyd pob tocyn eisoes.