fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Theatr Dylan Thomas, yr Ardal Forol

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe’n cyflwyno ‘Big Band Evolution’ gan Fand Mawr Llawn Sêr Laurence Cottle gydag 16 o gerddorion jazz a sesiwn gorau’r DU.

Bydd y band, sy’n cael ei arwain gan y chwaraewr bas, y cyfansoddwr, y trefnydd a’r arweinydd band, Laurence Cottle o Abertawe, yn archwilio esblygiad y Band Mawr dros y blynyddoedd, gan chwarae rhai o’r alawon gwych o ddyddiau cynnar y bandiau mawr hyd at Buddy Rich, Bob Brookmeyer, Jaco Pastorius a rhai o gyfansoddiadau gwych Laurence ei hun.

Mae’r disgrifiad ‘band llawn sêr’ yn sicr yn addas ar gyfer sioe heno!

Mae’r cerddorion yn y band wedi teithio, perfformio a recordio gydag enwau mawr y byd cerddoriaeth gan gynnwys: The Eagles, Mike Oldfield, Eric Clapton, Steely Dan, Mark Knopfler, Carlos Santana, Van Morrison, The Allman Brothers Band, Mick Jagger, BB King, Bonnie Raitt, Chaka Khan, Kylie Mingoue, Jamiroquai, Gregory Porter, Barry Manilow, Warren Haynes, Chrissie Hynde, Level 42, Marti Pellow, Derek Trucks, Eddie Henderson, Tom Jones, Sting, Black Sabbath, Dave Wekl, Geoffrey Keezer, Brand New Heavies, NYJO, Buddy Rich Big Band, The BBC Big Band, Cerddorfa John Wilson a Ronnie Scotts Jazz Orchestra, a llawer mwy!

Cyflwynir Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â Chlwb Jazz Abertawe.

Archebwch docyn VIP i gael gostyngiad oddi ar holl ddigwyddiadau Gŵyl Jazz Abertawe; £90 ar gyfer y chwe chyngerdd, arbediad o £37, yn ogystal â seddi blaenoriaeth! Mae tocynnau VIP ar gael drwy swyddfa docynnau Theatr y Grand Abertawe, ffoniwch 01792 475715 neu galwch heibio. 5% ffïoedd archebu.

Bydd gwerthiannau dros y ffôn ac ar-lein yn cau am 12pm ar ddiwrnod pob sioe, bydd tocynnau ar gael o hyd wrth y drws os na werthwyd pob tocyn eisoes.

Dyddiad
16 MEH 2023
Lleoliad
Dylan Thomas Theatre
Price
33.60