fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2023
15 - 19 Mehefin

Grace Williams Concert Overture
Mozart Symffoni Rhif 39
R. Strauss Don Quixote

Ryan Bancroft arweinydd, Alice Neary soddgrwth, Rebecca Jones fiola.

Mae’r gyfansoddwraig o Gymru, Grace Williams, a gafodd ei geni yn y Barri wrth ei bodd yn cyfansoddi ar gyfer cerddorfa, ac mae ei darn Agorawd Cyngerdd, a glywn heno dan arweiniad y Prif Arweinydd Ryan Bancroft, yn dangos ei dawn cymharol gynnar yn y genre hwn. Clywn hyn ochr yn ochr ag un o symffonïau olaf Mozart, ei 39ain symffoni, sy’n llawn dirgelwch. Nid yw’n nodweddiadol o arddull arferol Mozart, mae ei agoriad araf a mawreddog yn arwain at allegro egnïol; alaw droellog sy’n perthyn i’r Minuet egnïol, gyda’i alawon bythgofiadwy a’i nodweddion cyfareddol, cyn neidio i’r diweddglo un thema direidus.

Roedd Strauss yn aml yn defnyddio stori i ysgogi ei ddychymyg cerddorol, ac mae Don Quixote, gyda’i ffantasïau’n llawn o’r straeon a ddarllenodd; y cyfareddau, y cweryla, y brwydrau, yr heriau, y cariad a’r stormydd, yn rhoi mwy na digon i gnoi cil arno. Alice Neary fydd yr unawdydd soddgrwth yn chwarae rhan Don Quixote, a Rebecca Williams fydd yr unawdydd fiola yn chwarae rhan ei was, Sancho. Mae Strauss yn sôn am lawer o anturiaethau Don yn y gerdd symffonig 10 symudiad eithaf lloerig hon.

Dyddiad
02 MEH 2023
Lleoliad
Brangwyn