fbpx
Wythnos RETRO y Mwmbwls - Castell Ystumllwynarth
2 - 4 Mehefin

Bydd Abertawe yn cynnal wythnos arall o chwaraeon o’r radd flaenaf yn haf 2023 gyda Chyfres Para Treiathlon y Byd 2023 yn dychwelyd ar 15 Gorffennaf ac Ironman 70.3 Abertawe ar 16 Gorffennaf! Bydd yr Ŵyl Parachwaraeon wythnos o hyd hefyd yn dychwelyd ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r miloedd o athletwyr, cefnogwyr a gwylwyr yn ôl!

Rhwng 10 a 16 Gorffennaf cynhelir Gŵyl Parachwaraeon wythnos o hyd, sy’n cynnwys digwyddiadau Cymryd Rhan a Gwirfoddoli a fydd yn rhoi’r cyfle i bobl gymryd rhan, yn ogystal â digwyddiadau gwych i wylwyr a fydd yn cynnig y cyfle i weld paradreiathletwyr o’r radd flaenaf yn cystadlu.

Ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf, bydd rhai o baradreiathletwyr gorau’r byd yn cyrraedd Abertawe i gystadlu am y fedal aur ar draws y ddinas yng Nghyfres Para Treiathlon y Byd 2023.

A daw’r wythnos i ben gydag uchafbwynt ddydd Sul 16 Gorffennaf gydag Ironman 70.3 Abertawe, lle bydd miloedd o gystadleuwyr yn mynd ar hyd cwrs newydd Abertawe gan arddangos ein dinas, ein bae a phenrhyn Gŵyr anhygoel. O gystadleuwyr proffesiynol sy’n cystadlu i ennill lle mewn prif ddigwyddiadau, i gystadleuwyr cyffredin sy’n herio’u hunain i gwblhau’r ras ddygnwch anhygoel hon, bydd miloedd o wylwyr, teulu a ffrindiau yno i’w cefnogi ar hyd y cwrs!

Cymerwch gip ar bob un o’r digwyddiadau isod i weld beth sydd ar ddod fel rhan o haf mawr o chwaraeon yn Abertawe!