Mae amserlen anhygoel o ddigwyddiadau chwaraeon para yn dod i Abertawe’r haf yma.
Bydd yr Ŵyl Parachwaraeon yn cael ei chydlynu gan Chwaraeon Anabledd Cymru a’i datblygu a’i chyflwyno gan rwydwaith o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Campau Cenedlaethol Cymru a/neu Brydain, Cyngor Abertawe, a chlybiau InSport lleol, gyda’r nod o ddarparu cyfleoedd hygyrch o ansawdd uchel ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion anabl.
Mae’r Wŷl Para Chwaraeon yn cynnwys cymysgedd o digwyddiadau Cymryd Ran a digwyddiadau Gwylio.
Y tu allan i ddigwyddiadau mega traddodiadol, fel y Gemau Paralympaidd, Byddarol, Gemau Byd-eang Virtus neu’r Gemau Olympaidd Arbennig, dyma y digwyddiad cyntaf o’i fath. Daw’r Ŵyl Para Chwaraeon i Abertawe ochr yn ochr â Volvo 2022 World Triathlon Para Series Swansea Abertawe a’r Ironman 70.3 Abertawe, gyda’i gilydd yn creu wythnos lawn cyffro o insport o ansawdd uchel a digwyddiadau para-chwaraeon cystadleuol ar draws y ddinas.
.