fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Pride Abertawe – Dydd Sadwrn 18 Mai 2024

Bydd Gorymdaith Pride Abertawe eleni’n cael ei chynnal ddydd Sadwrn 18 Mai.

Bydd yr orymdaith yn gadael Wind St am tua 11:00 ac yn gorffen am tua 12:00 yn Neuadd y Ddinas.

Bydd Rotwnda Neuadd y Ddinas yn cynnal llwyfan Pride, stondinau, bariau, arlwyo ac adloniant tan 19:00. Cynhelir gweithgareddau ychwanegol y tu mewn i Neuadd Brangwyn

Er mwyn cynnal yr orymdaith a’r digwyddiad yn ddiogel, bydd angen cau nifer o ffyrdd. Ni fydd y ffyrdd ar gau am gyfnod hir, er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar bobl sy’n byw neu’n gweithio yn yr ardaloedd dan sylw neu’n ymweld â nhw.  Caiff y rhan fwyaf o ffyrdd eu cau yn eu tro rhwng tua 11:00 a 12:30. Bydd Wind Street ar gau rhwng 07:00 a 12:30. Cynhelir mynediad i gerbydau brys ar bob adeg.

Bydd llwybr dynodedig yr orymdaith fel a ganlyn:- Wind Street, Caer Street, Sgwâr y Santes Fair, Stryd Rhydychen, Dilwyn Street, St Helen’s Road a St Helen’s Crescent.

Cyfyngir ar barcio ar y priffyrdd uchod ar fore Sadwrn 18 Mai er mwyn rhoi llwybr clir ar gyfer yr orymdaith.  Gellir symud cerbydau sy’n achosi rhwystr diangen.

Rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra posib. Os bydd angen gwybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â ni trwy’r opsiynau a restrir isod yn ystod oriau swyddfa arferol.

Diolch i chi ymlaen llaw am eich cydweithrediad a’ch cymorth yn ystod y digwyddiad prysur hwn.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yn www.swanseapride.co.uk


Treiathlon Abertawe – 26 Mai 2024

Bydd Treiathlon Abertawe’n dychwelyd ddydd Sul, 26 Mai a bydd nifer o ffyrdd ar gau er mwyn cynnal y digwyddiad. Rhagor o wybodaeth ar wefan Treiathlon Abertawe


Parc Singleton – Digwyddiadau

Er mwyn atal parcio anystyriol ac felly, gobeithio, leihau’r anghyfleustra i breswylwyr, bydd nifer o ffyrdd ar gau a bydd conau “Dim parcio” yn cael eu gosod ar hyd sawl ffordd breswyl o gwmpas y parc ar ddiwrnod pob digwyddiad. Hoffem eich sicrhau y cedwir mynediad i gerbydau argyfwng bob amser.

Yn ystod y cyfnodau adeiladu a thynnu i lawr, yn ogystal ag yn ystod y digwyddiadau eu hunain, bydd Parc Singleton yn aros ar agor fel arfer, fodd bynnag, bydd mynediad i rai ardaloedd wedi’i gyfyngu ac mae’n bosib y bydd defnyddwyr y parc yn profi cynnydd sylweddol mewn traffig cerbydol. Dilynwch yr arwyddion cyfeiriol a diogelwch fel y bo’n briodol. Fel dewis arall efallai bydd yn fwy cyfleus i breswylwyr ymweld â pharc gwahanol yn yr ardal leol.

Parc Singleton – Digwyddiadau a Gynlluniwyd ar gyfer y Dyfodol

Digwyddiad Lle O Dyddiad y digwyddiad Tan Mwy o wybodaeth
Circus Vegas Cae Lacrosse 12 Ebrill 24 17-28 Ebrill24 2 Mai 24 https://circusvegasuk.com/locations/swansea/

Caiff y rhestr hon ei diweddaru wrth i ddigwyddiadau a gweithgareddau newydd gael eu hychwanegu at y calendr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.croesobaeabertawe.com/joio/


Gwybodaeth am Gyngherddau Mawr

Sŵn

Rydym yn gwerthfawrogi bod gan bawb lefelau goddefiant gwahanol o ran cerddoriaeth mewn digwyddiadau. Gellwch fod yn hollol sicr ein bod bob tro’n rheoli lefelau sain y gerddoriaeth yn y cyngherddau hyn yn ofalus. Bydd swyddogion o Dîm Llygredd Sŵn y cyngor yn bresennol yn y rhan fwyaf o’r cyngherddau mawr a byddant yn gweithio’n agos gyda hyrwyddwyr y gyngerdd i sicrhau bod lefelau sain yn aros o fewn y cyfyngiadau y cytunwyd arnynt gynt.

Cynhelir gwiriadau sain cyfyngedig cyn pob cyngerdd (heb fod yn hwyrach na 21:00).

Bydd cyrffyw sŵn ar waith o 23:00 ar ddiwrnod pob digwyddiad.

Bydd hefyd linell gymorth sŵn ddynodedig ar gael drwy gydol y sioe – ffoniwch 07587 931212.

Sbwriel ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Ar gyfer cyngherddau mawr, bydd timau o Wasanaeth Glanhau’r cyngor wrth law i fynd i’r afael ag unrhyw ardaloedd sy’n broblem o ran sbwriel.

Cynhelir gwaith glanhau trylwyr ar ôl pob cyngerdd.


Cysylltwch â ni

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch ni yn special.events@abertawe.gov.uk. (Caiff y cyfeiriad hwn ei fonitro yn ystod oriau swyddfa arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn ystod cyngherddau mawr yn y parc).

Dylid cyfeirio cwestiynau mewn perthynas â gwerthiant tocynnau ac argaeledd at hyrwyddwr perthnasol y gyngerdd. Nid yw staff y cyngor yn gallu cael gafael ar docynnau nac ateb cwestiynau mewn perthynas â thocynnau.

Ar gyfer cyngherddau mwy yn y parc. Bydd Swyddogion Trwyddedu o Gyngor Abertawe’n bresennol i fonitro lefelau sain ac i sicrhau y bodlonir amodau trwyddedu. Bydd ein Llinell Gyswllt i Breswylwyr a Busnesau’n gweithredu – 01792 635428 (2pm i 10pm ar ddiwrnod pob digwyddiad).