fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae’r haf wedi cyrraedd Bae Abertawe ac mae’n sicr o fod yn haf llawn hwyl. Mae gennym galendr llawn digwyddiadau ar eich cyfer, gyda digwyddiadau, diwylliant, chwaraeon a cherddoriaeth!

Gyda diwrnodau hwy, tywydd braf a gwyliau ysgol ar y gorwel, sicrhewch eich bod chi’n mynd allan i fwynhau ein parciau, ein traethau a’n hatyniadau awyr agored hyfryd hefyd. Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar y gweill y mis Gorffennaf hwn, a lawrlwythwch ein llyfryn Joio’r Haf i weld rhagor o ddigwyddiadau.

Mae’n sicr o fod yn haf i’w Joio! 

Sioe Awyr Cymru

Bydd Gorffennaf yn dechrau gyda Sioe Awyr Cymru, y digwyddiad AM DDIM mwyaf yng Nghymru, ar 1 a 2 Gorffennaf.  Bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosiadau awyr gan y Red Arrows, a gefnogir gan DS Automobiles yn FRF Swansea, y Typhoon a fydd yn perfformio ar y cyd â Hediad Coffa Brwydr Prydain fel rhan o ehediad newydd i goffáu 80 mlynedd ers cyrch y ‘Dambusters’, Tîm Raven, a Tîm Arddangos Parasiwt y Tigers.

Bydd digonedd i’ch difyrru ar y ddaear hefyd, gydag arddangosfeydd rhyngweithiol ar y ddaear fel atgynhyrchiadau o’r Typhoon, Spitfire a’r Flying Flea, efelychydd Red Arrows, llwyfannau adloniant, ffair, arddangosfeydd milwrol, stondinau masnach a llawer, llawer mwy.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am sut i archebu lle parcio gyda’r gwasanaeth Parcio a Theithio, ewch i www.sioeawyrcymru.com

Chwaraeon haf yn Abertawe

Bydd Abertawe’n cynnal wythnos arall o chwaraeon o’r radd flaenaf yn haf 2023, gyda Chyfres Para Treiathlon y Byd yn dychwelyd ar 15 Gorffennaf ac IRONMAN 70.3 Abertawe ar 16 Gorffennaf. Bydd yr Ŵyl wythnos o hyd yn dychwelyd rhwng 10 a 16 Gorffennaf.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn dod i gefnogi’r athletwyr a hefyd, helô fawr i’r rheini sy’n cymryd rhan! Pob lwc!

Gweithio gyda Chyngor Abertawe a phartneriaid eraill, mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn dod ag wyth digwyddiad mawr i Abertawe – sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio’r Ŵyl Parachwaraeon aml-chwaraeon ac aml-leoliad wythnos o hyd.

Bydd yr ŵyl yn dechrau gyda Thwrnamaint Para Golff Agored Cymru ddydd Llun 10 Gorffennaf ac yn parhau gyda digwyddiad cyfres Insport (11 Gorffennaf), Pencampwriaethau Tîm Boccia y DU (12/13 Gorffennaf), Gêm Ryngwladol Pêl-droed Byddar Cymru v Yr Alban (14 Gorffennaf), Pencampwriaethau Para Cleddyfaeth Prydain a Thwrnamaint Para Saethu Targed Agored (14/15 Gorffennaf), cystadleuaeth Rygbi Cadair Olwyn Agored Cymru (15 Gorffennaf) a Chyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe.

I gael gwybodaeth am lle gallwch wylio, sut i wirfoddoli ac ym mha ffordd y gallwch gymryd rhan, ewch i www.parasportfestival.co.uk

Doc Tywysog Cymru a Glannau SA1 Abertawe fydd yn cael yr holl sylw ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf, wrth i’r ddinas gynnal Cyfres Para Treiathlon y Byd. Bydd dros 100 o baradreiathletwyr gorau’r byd yn cystadlu am bwyntiau ennill lle hanfodol cyn y Gemau Paralympaidd ym Mharis y flwyddyn nesaf. Yn ogystal â rasio o’r radd flaenaf, bydd adloniant byw, bwyd a diod a phentref y digwyddiad i ddiddanu’r teulu, gyda mynediad am ddim i’r digwyddiad!

Rhagor o wybodaeth yma.

IRONMAN 70.3 Abertawe – Ras sy’n cynnig cymaint mewn cynifer o ffyrdd; un sy’n cyfuno harddwch naturiol eithriadol a hanes cyfoethog gyda chwrs cyffrous a chefnogaeth nodedig gan y Cymry.

Mae’n lleoliad sy’n cynnwys ehangder glannau godidog Bae Abertawe hyd at bentref glan môr bywiog y Mwmbwls, yna cewch feicio i Benrhyn Gŵyr.

Gallwch gael lle o hyd yn y ras hon y llenwyd POB LLE ar ei chyfer trwy becynnau profiad athletwr uwch Nirvana. Ceir rhagor o wybodaeth yma.

Digwyddiadau Neuadd Brangwyn

Mae’r Brangwyn yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ym mis Gorffennaf.  Gan ddechrau gyda’r Ddawns Amser Te fisol ar 5 Gorffennaf, gyda’r dawnswyr proffesiynol Phillip a Gaynor Evans, cynhwysir teisen fel rhan o’r pris.  Ymunwch â ni ar gyfer un o brofiadau siopa crefftau mwyaf cyfannol, ysbrydol a seicig Cymru gyda marchnad hudol Gypsywishes ar 8 Gorffennaf.

Ar 15 Gorffennaf, dewch i gefnogi Côr Meibion hynaf Cymru, Côr Meibion Dyfnant, wrth iddynt groesawu Shân Cothi a Trystan Llyr Griffiths fel eu hartistiaid gwadd ar gyfer eu Cyngerdd Blynyddol y Noddwyr, uchafbwynt blwyddyn y côr.

Ydych chi’n hoffi pori drwy hen ddillad? Yna peidiwch â cholli’r cyfle i fynd i ddigwyddiad sêl cilo dillad ddoe Worth the Weight ar 22 Gorffennaf.  Gyda 9 tunnell o stoc i chi chwilota drwyddi, wedi’i rannu’n sawl categori; denim, chwaraeon, dillad i fenywod, dillad i ddynion, dillad ar gyfer yr awyr agored ac ategolion, dyma’r sêl berffaith i’r rheini sy’n dwlu ar ffasiwn.

Castell Ystumllwynarth

Ydych chi’n barod am ddiwrnod o antur a darganfod? Ymunwch â ni yng Nghastell Ystumllwynarth ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf am Ddiwrnod Hwyl Archaeoleg! Cewch archwilio hanes y castell, dysgu am offer a thechnegau archaeoleg a hyd yn oed cymryd rhan mewn ffug-gloddiad.

Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf, 11am – 4pm, bydd y castell ar agor tan 5.00pm. Tâl mynediad arferol yn berthnasol.

Theatr Awyr Agored

Mae’r Theatr Awyr Agored yn dychwelyd i Gastell Ystumllwynarth yr haf hwn, a’i noddwr swyddogol yw holidaycottages.co.uk.

Gallwch ddewis o ddau berfformiad, pa un fyddwch chi’n ei ddewis? …

Mae’r Theatr Awyr Agored yn croesawu Twelfth Night gan Shakespeare, nos Fercher 9 Awst am 7.30pm a heb anghofio Peter Rabbit, on o ffefrynnau’r teulu sy’n berffaith ar gyfer hwyl yn ystod gwyliau’r haf, ddydd Iau 10 Awst am 2pm.

Archebwch eich tocynnau heddiw!

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fis Gorffennaf i fwynhau amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog!

Mwynhewch berfformiadau dawns disglair yn ein Diwrnodau Dawns ar 8 a 9 Gorffennaf neu canwch yn llon yn ein sesiwn Dewch i Ganu nesaf ar 15 Gorffennaf. Dewch lawr i’r Amgueddfa ar 19 Gorffennaf ac rydych chi’n siŵr am syrpreis mawr… gyda’n Picnic Tedi Bêr bendigedig.

Ac os nad oes digon o oriau yn y dydd i chi fwynhau ymweliad â’r amgueddfa, byddwn yn ymestyn ein horiau agor tan 7:30yh bob dydd Iau o 20 Gorffennaf am 8 wythnos lle gallwch roi cynnig ar argraffu neu argraffu â llaw neu fwynhau tamaid ysgafn yn y caffi.

Mae rhywbeth at ddant pawb. Darganfyddwch fwy ar ein gwefan.

Joio amgueddfeydd ac orielau Abertawe…

Ewch i weld yr arddangosfa Abertawe’r Ugeinfed Ganrif yn Amgueddfa Abertawe. Mae’n rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar sut mae’r ddinas wedi newid a thyfu yn ystod y can mlynedd diwethaf. Cewch weld lluniau, arteffactau a straeon anhygoel am wahanol gyfnodau ac agweddau ar fywyd Abertawe – mae rhywbeth i bawb yn yr arddangosfa hon! Ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10am – 5pm.

Os ydych chi’n dwlu ar Dylan Thomas a’i eiriau hudol, peidiwch â cholli’r arddangosfa Llyfr Gwyn Llareggub yng Nghanolfan Dylan Thomas. Mae’r arddangosfa, sy’n dathlu 70 o flynyddoedd ers y perfformiad cyntaf o Under Milk Wood, drama radio enwog Dylan a ddaeth â thref ffuglennol Llareggub yn fyw, yn dangos rhai o’r ffyrdd y mae’r ddrama wedi cael ei dehongli dros y blynyddoedd. Ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, 10am – 4.30pm.

Os ydych yn dwlu ar drioleg His Dark Materials Philip Pullman, fyddwch chi ddim am golli’r arddangosfa Creu Bydoedd yng Nghymru yn y Glynn Vivian. Gallwch fod yn greadigol yn eu gweithdai rheolaidd gan gynnwys Clwb Celf Dydd Sadwrn, Clwb i Oedolion ar y penwythnos a Bywluniadu. Tynnwch lun ohonoch eich hun fel anifail a gallech ennill pecyn celf. A chadwch ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf yn rhydd pan fydd ‘Gwaith Patch: Dathliad o waith gan grwpiau dysgu yn y gymuned y Glynn Vivian’ yn agor ochr yn ochr â gweithdai a gweithgareddau. Ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10am – 4.30pm.

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth difyr ac addysgol i’w wneud ym mis Gorffennaf, beth am gael cip ar rai o’r digwyddiadau sydd ar ddod yn Llyfrgelloedd Abertawe? Gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o weithgareddau i bob oedran a diddordeb, fel gwau a chrosio, sgyrsiau hanes lleol, gweithdai gemwaith neu sesiynau adeiladu LEGO, ac wrth gwrs gallwch fenthyca llyfr da i’w fwynhau! Am ragor o wybodaeth ac i gadw’ch lle, ewch i www.abertawe.gov.uk/llyfrgelloedd neu ffoniwch eich llyfrgell leol.

Atyniadau Awyr Agored

Mae’r haul yn tywynnu ac mae gwyliau’r haf ar ddod. Pa ffordd well o dreulio diwrnod braf nag yn ein hatyniadau awyr agored gwych?

Gallwch fynd ar bedalo ar Lyn Cychod Parc Singleton – alarch neu ddraig, eich dewis chi yw e’! Gallwch chwarae golff gwallgof yn y parc neu chware rownd arall yng Ngerddi Southend. Neu beth am fynd i Lido Blackpill, sef ein parc dŵr awyr agored gwych sydd am ddim gyda phwll padlo a nodweddion dŵr?

Gallwch hefyd deithio ar Drên Bach Bae Abertawe, sef ffordd gofiadwy o weld y golygfeydd wrth i chi deithio ar hyd y prom. Mae’n bryd creu atgofion – edrychwn ymlaen at eich gweld chi’n fuan!

Tîm Chwaraeon ac Iechyd

Byddwch yn actif gyda’r tîm Chwaraeon ac Iechyd. Dyma’r amser perffaith i fod yn actif. Ni waeth faint rydych chi’n ei wneud, mae gweithgarwch corfforol yn dda i’ch corff a’ch meddwl. Mae gennym amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal dros yr haf ar gyfer pob oedran. I ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi ewch i’n gwedudalen neu dilynwch ni i gael diweddariadau rheolaidd ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Cadwch le yma. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan.

Ym mis Gorffennaf, bydd Abertawe’n croesawu timau o 9 o wledydd Ewrop i gystadlu ym mhencampwriaeth adran B dan 18 oed Hoci Ewrop ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe. Bydd Cymru’n cystadlu yn y categorïau i ddynion a menywod a bydd digon o ddiddordeb lleol wrth i chwaraewyr Clwb Hoci Abertawe ymddangos yn y ddau dîm. Mae tocynnau ac amserlen y twrnamaint ar gael yn y ddolen hon.

10k Bae Abertawe Admiral – Ewch amdani!

Medal ddisglair, crys T i’w wisgo gyda balchder neu’r teimlad gwych pan rydych chi’n croesi’r llinell derfyn.

Dyma rai yn unig o’r rhesymau pam mae miloedd o bobl yn cymryd rhan yn ras 10k Bae Abertawe Admiral bob blwyddyn.

Gydag e-byst misol yn darparu argymhellion hyfforddi gwych, a digon o wylwyr i’ch cefnogi ar y diwrnod, byddwch yn cael eich cefnogi o’r eiliad rydych chi’n cofrestru.

Felly, p’un a ydych am gael rhywbeth i hyfforddi ar ei gyfer, eisiau rhedeg ar ran eich elusen ddewisol neu’n ceisio curo’ch amser gorau, sicrhewch taw 2023 yw’r flwyddyn rydych chi’n rhoi cynnig ar 10k Bae Abertawe Admiral.

Edrychwn ymlaen at eich cefnogi!