fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

‘Mae’r Parchedig Eli Jenkins yn inc o glust i glust yn ei barlwr barddoni claear, yn cynnwys y gwir a dim ond y gwir yn ei Draethawd – Poblogaeth, Prif Ddiwydiant, Planhigion, Anifeiliaid, Hanes, Daearyddiaeth, Dail a Diliau tref ei grefydda: Llyfr Gwyn Llaregyb.’

Ar 14 Mai 1953, camodd Dylan Thomas a chast y cynhyrchiad llwyfan llawn cyntaf o Dan y Wenallt i lwyfan y Poetry Center yn Efrog Newydd, dan arweiniad Dylan i ‘ddwlu ar y geiriau’. Rydym yn dathlu 70 mlynedd ers y perfformiad hwn gydag arddangosfa yn cynnwys gwrthrychau o’n casgliad sy’n darlunio rhai o’r ffyrdd y cafodd ei waith ei ddehongli dros y blynyddoedd.

Ar agor dydd Mercher – dydd Sul, 10am – 4pm, 14 Mai – 28 Ionawr.

Dyddiad
14 Mai 2023 - 28 ION 2024
Lleoliad
Dylan Thomas Centre