fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mynediad am ddim

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe yn falch o gyhoeddi golwg y tu ôl i’r llenni o’r cyfresi arobryn His Dark Materials gan y BBC a HBO ar y cyd â Bad Wolf. Bydd y gyfres, sydd wedi’i seilio ar drioleg o nofelau clodwiw Philip Pullman, yn dod i ben ar ôl ei drydydd tymor, sef yr un olaf, yn hwyrach eleni.
Am y tro cyntaf yn yr arddangosfa fawr hon, gall ymwelwyr weld gwisgoedd, celf cysyniad, fideos effeithiau gweledol, propiau a mwy o’r tri thymor.

Mae’r drioleg yn dilyn Lyra Belacqua (Dafne Keen), merch amddifad sy’n byw mewn bydysawd cyfochrog lle mae eneidiau pobl yn byw y tu allan i’r corff ar ffurf anifeiliaid o’r enw “dæmons”. Rydym yn cwrdd â Lyra am y tro cyntaf fel babi dan ofal yr ysgolheigion yng Ngholeg Jordan a’i hewythr tybiedig, yr Arglwydd Asriel (James McAvoy). Mae’r drioleg yn dilyn ei thaith ryfedd trwy fydoedd niferus His Dark Materials, wrth i’r awdurdod crefyddol, y Magisterium, fynd ar ei hôl. Mae Will Parry (Amir Wilson) yn ei helpu ar ei thaith, yn ogystal â’i dæmon, Pan (lleisir gan Kit Connor). Mae’r cast hefyd yn cynnwys Ruth Wilson sy’n chwarae rôl y ddraig o ddynes, Mrs Coulter, Lin-Manuel Miranda fel yr awyrennwr Lee Scoresby a Simone Kirby fel y gwyddonydd Mary Malone. Ffilmiwyd y rhan fwyaf o’r gyfres yn Wolf Studios Wales yng Nghaerdydd.

Bydd yr arddangosfa’n llenwi Atriwm prydferth ac Ystafelloedd 8 a 9 yr oriel ar y llawr cyntaf. Yn yr Atriwm, bydd cyfle i ymwelwyr cael cipolwg agos ar y propiau allweddol fel yr ’alethiometer’, y gyllell gynnil, a’r ysbienddrych ambr, yn ogystal â darnau mwy o’r set, fel angylion y Cittàgazze, baneri’r Magisterium a thaflunydd yr Arglwydd Asriel. Yn ystafelloedd 8 a 9, bydd modd gweld gwisgoedd y cymeriadau dros y tri thymor, yn ogystal â byrddau cysyniad, darluniau, fideos ac effeithiau gweledol, a fydd yn dangos yr amrediad llawn o greadigrwydd a fu’n rhan o’r broses o ddod â’r stori’n fyw. Bydd yr arddangosfa’n dathlu trioleg wych Philip Pullman ac addasiad ardderchog Bad Wolf ar gyfer y teledu, yn ogystal â phwysigrwydd pob ffurf ar gelfyddyd a chreadigrwydd, sy’n cyfrannu at ddod â chyfres deledu’n fyw.

Credit: Rob Melen

Dyddiad
02 RHAG 2022 - 02 GOR 2023
Lleoliad
Oriel Celf Glynn Vivian