Yn dilyn ymlaen o lwyddiant wythnos o hyd digwyddiad y llynedd, mae’r Ŵyl Para Chwaraeon yn dychwelyd yn 2023 i adeiladu ar y cyfleoedd cynhwysol lleol a’r cyfleoedd para-chwaraeon cystadleuol a gafodd eu harddangos y llynedd. Tu allan i ddigwyddiadau enfawr traddodiadol, fel y Gemau Paralympaidd, Gemau’r Byddar, Gemau Byd-eang Virtus neu’r Gemau Olympaidd Arbennig, mae’r digwyddiad hwn yn un o fath sy’n cyfuno digwyddiadau para-chwaraeon cystadleuol ar draws nifer o chwaraeon, ochr yn ochr â chyfleoedd cyfranogiad cynhwysol.
Ymunwch â ni yn Noc Tywysog Cymru, Abertawe wrth i athletwyr gorau’r bydd ddod ynghyd i gystadlu am y fedal aur ar draws y ddinas.
Yn ogystal â rasio o’r radd flaenaf, bydd hefyd ddigwyddiadau byw, bwyd a diod a phentref y digwyddiad i ddifyrru’r teulu cyfan, a bydd mynediad am ddim i’r digwyddiad!
Bydd y goreuon yn ymuno ag athletwyr addawol yn Uwch-gyfres Para Treiathlon Prydain yn ogystal â chyfle i gyfranogwyr gymryd rhan mewn rasys nofio, beicio a rhedeg a bydd y cyfan yn Noc Tywysog Cymru a Glannau SA1.
Gall gwylwyr fynd i bentref y digwyddiad lle bydd sgrîn fawr, adloniant, bwyd a diod ac awyrgylch gwych! Gallwch ddod o hyd i’r amserau a’r mannau gwylio gorau yma.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth i ymwelwyr, trefniadau cau ffyrdd, mapiau’r cwrs a chwestiynau cyffredin yma.
Cynhelir digwyddiad cyntaf IRONMAN 70.3 Abertawe ddydd Sul 16 Gorffennaf. Mae’r llwybr yn cynnwys nofiad 1.2 milltir yn Noc Tywysog Cymru, ras feicio 56 milltir ym mhenrhyn Gŵyr a rhediad 13.1 milltir ar hyd ehangder Bae Abertawe ac yn ôl.
Dangoswch eich cefnogaeth ar hyd y llwybr, gallwch ddod o hyd i’r mannau gorau i wylwyr yma.
Gallwch weld trefniadau cau ffyrdd, gwybodaeth i ymwelwyr a chwestiynau cyffredn yma.