P’un a ydych chi’n teithio yma i gystadlu dros y penwythnos, neu’n dod yma i gefnogi rhai cystadleuwyr, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n rhan brydferth ni o’r byd.
Efallai mai hwn fydd eich ymweliad cyntaf â Bae Abertawe, felly ar y dudalen hon mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael i chi gynllunio’ch taith a gwneud yn fawr o’ch arhosiad gyda ni. Dewch o hyd i wybodaeth am leoedd i aros, lleoedd i gael tamaid i’w fwyta (a dathlu!), yn ogystal â digwyddiadau eraill sy’n digwydd yn Abertawe, lleoedd i’w gweld a phethau i’w gwneud!
Os ydych chi’n dal i gynllunio’ch taith i Fae Abertawe, mae amrywiaeth o westai, gwestai gwely a brecwast, llety hunanarlwyo a llawer mwy ar gael yn ein hadran Lle i Aros. A gallwch hefyd fynd i’n hadran Argaeledd Hwyr ar gyfer rhai bargeinion munud olaf!
Ar ôl y digwyddiad, beth am ehangu’ch arhosiad? Mae’n werth cymryd yr amser i archwilio ein dinas, ein harfordir a’n cefn gwlad!
Mae Bae Abertawe’n gartref i ddetholiad anhygoel o fariau, bwytai, siopau coffi a chaffis. Felly, p’un a ydych chi’n chwilio am rywle i ddathlu gyda ffrindiau a theulu, ymlacio rhywfaint er mwyn adfer eich egni ar ôl cystadlu, neu gael lluniaeth haeddiannol, cymerwch gip ar ein hadran Bwyd a Diod.
Joio Bae Abertawe yw’r lle i ddod o hyd i’r holl ddigwyddiadau mwyaf a gorau sy’n digwydd yn Abertawe, o gyngherddau i ddigwyddiadau chwaraeon i sioeau theatr a chomedi. Cymerwch gip ar ein hadran Digwyddiadau i ddarganfod yr hyn sydd ar y gweill yn Abertawe yn ystod eich arhosiad. Gallwch hefyd gymryd cip ar rai o’n lleoliadau diwylliannol gwych hefyd, fel Canolfan Dylan Thomas, Plantasia, Oriel Gelf Glynn Vivian a mwy.
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli?
Os ydych chi wedi mwynhau gwylio’r athletwyr anhygoel yn cystadlu ac yn teimlo’r angen i ddatgelu’ch athletwr mewnol, yna mae gennym weithgareddau gwych ar y tir ac ar y môr fel y gallwch ateb yr her! Rhowch gynnig ar syrffio, arfordiro, padlfyrddio, dringo neu farchogaeth gyda golygfa odidog i gwblhau’r profiad!
Mae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn gartref i rai o’r traethau gorau yn y DU (yn swyddogol!) gan gynnwys Bae y Tri Chlogwyn, Bae Abertawe ac wrth gwrs, Rhosili. P’un a ydych chi’n teithio yma i gystadlu neu i wylio, nid yw taith i Fae Abertawe yn gyflawn heb eich bod yn ymweld â’n harfordir godidog.
Arweinlyfr Traeth Bae Abertawe
Os ydych am fynd allan i archwilio Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn ystod eich ymweliad, mae gennym adran gerdded ddynodedig ar-lein i’ch helpu i fwynhau rhai o’n hardaloedd mwyaf golygfaol, gan gynnwys Prom trawiadol Abertawe a Llwybr Arfordir Gŵyr.
Cerdded ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr