Rhwng 10 a 16 Gorffennaf roedd yr Ŵyl Parachwaraeon wythnos o hyd, a oedd yn cynnwys digwyddiadau Cymryd Rhan a Gwirfoddoli a oedd yn rhoi’r cyfle i bobl gymryd rhan, yn ogystal â digwyddiadau gwych i wylwyr a oedd yn cynnig y cyfle i weld paradreiathletwyr o’r radd flaenaf yn cystadlu.
Ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf, daeth rhai o baradreiathletwyr gorau’r byd i Abertawe i gystadlu am y fedal aur ar draws y ddinas yng Nghyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe 2023.
A daeth yr wythnos i ben gydag uchafbwynt ddydd Sul 16 Gorffennaf gydag Ironman 70.3 Abertawe, lle’r oedd miloedd o gystadleuwyr wedi mynd ar hyd cwrs newydd Abertawe gan arddangos ein dinas, ein bae a phenrhyn Gŵyr anhygoel. O gystadleuwyr proffesiynol a oedd yn cystadlu i ennill lle mewn prif ddigwyddiadau, i gystadleuwyr cyffredin a oedd yn herio’u hunain i gwblhau’r ras ddygnwch anhygoel hon, gyda miloedd o wylwyr, teulu a ffrindiau’n eu cefnogi ar hyd y cwrs.