fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

22 Mehefin 2024

Byddwn yn croesawu rhai o baradreiathletwyr gorau’r byd i Abertawe ar gyfer Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe! Yn ogystal â rasio o’r radd flaenaf, bydd hefyd adloniant byw, bwyd a diod a phentref y digwyddiad i ddifyrru’r teulu cyfan, a bydd mynediad am ddim i’r digwyddiad.

Felly p’un a ydych yn dod lawr i gefnogi ffrindiau neu deulu, neu’n dod i fwynhau’r awyrgylch a gwylio hanes yn cael ei greu a digwyddiadau para chwaraeon o safon, cymerwch gip ar ein harweiniad isod fel y gallwch fwynhau’r holl gyffro wrth iddo ddigwydd.

Pentref y Digwyddiad

Bydd y llinell gychwyn a therfyn a’r ardal drawsnewid yng nglannau SA1, gyda phentref y digwyddiad yn y canol. Gyda digonedd o bethau i’w gwneud yn yr ardal, dyma’r lleoliad perffaith i’r rheini sy’n gobeithio gwneud yn fawr o’u diwrnod yn ardal y glannau a gwylio’r holl gyffro. Ar ddiwrnod y digwyddiad gallwch fwynhau:

  • Sgrîn fawr gyda darllediadau byw, byrddau’r arweinwyr a sylwebaeth arbenigol
  • Ardal eistedd hygyrch gyda meinciau, cadeiriau a pharasolau
  • Bwyd a diod
  • Cerddoriaeth fyw, paentio wynebau a stondinau eraill

 

Atodlen

Mae pedair rhan allweddol i’r diwrnod:

  • 08:00-10:00: Uwch Gyfres Paratri Prydain
  • 10:00-11:00: Acwathon Anabledd ‘Splash & Dash’ gyda pherfformiad gan fand byw i ddilyn
  • 12:30-17:45: Rasys i athletwyr elît Cyfres Para Treiathlon y Byd
  • 17:45-18:45: Seremonïau cyflwyno medalau i’r athletwyr elît

 

Ble i weld yr holl gyffro

Cynhelir y ras nofio yn Noc Tywysog Cymru, y ras feicio o gwmpas glannau SA1 a’r ras redeg ar King’s Road. Gallwch wirio’r mapiau’r cyrsiau ar -lein yma gyda rhai awgrymiadau da ar ble i’w gwylio:

  • Gallwch gael golygfeydd gwych o’r ras nofio ar ochr dde Doc Tywysog Cymru.
  • Cewch olygfeydd da o’r ras feicio drwy aros ym mhentref y digwyddiad a gwylio’r athletwyr yn gwibio heibio wrth gyflawni lapiau eu cwrs beicio.
  • Cewch olygfeydd da o’r ras redeg ar hyd Kings Road
  • Mae’r llinell derfyn ger pentref y digwyddiad.

Mae’r holl leoliadau hyn o fewn 100 metr i bentref y digwyddiad a gellir eu gweld mewn mwy o fanylder ar y map hwn o’r lleoliad.