fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Gwybodaeth am ddigwyddiadau yn y dyfodol yn dod yn fuan

Ydych chi’n dod lawr i gefnogi ffrindiau, teulu a chystadleuwyr ar gyfer digwyddiad Ironman 70.3 cyntaf Abertawe? Os ydych chi’n chwilio am y lleoedd gorau i wylio’r holl gyffro, cymerwch gip ar ein harweiniad isod!

Y Cyrsiau

Nofio

Mae’r nofiad 1.2 milltir yn dechrau yn Noc Tywysog Cymru ac yn troi’n ôl ar ei hun cyn i’r athletwyr nofio o gwmpas y tu allan a’r allanfa lle dechreuasant y ras. Bydd cefnogwyr yn gallu sefyll ar ochr y lan ar hyd mwyafrif y cwrs nofio i gefnogi’r athletwyr.

Beicio

Mae cwrs beicio IRONMAN 70.3 Abertawe yn cychwyn o faes parcio East Burrows, bydd yn teithio ar hyd Cambrian Place ac ymlaen i’r A4067. Bydd y ffordd hon yn mynd ag athletwyr ar hyd cromlin Bae Abertawe, heibio traeth y Mwmbwls a’r pier, cyn i athletwyr droi i’r dde i feicio tuag at benrhyn Gŵyr. Mae’r llwybr llawn golygfeydd yn troi a throelli drwy ffyrdd gwledig a phentrefi tlws, gan basio mannau poblogaidd i wylwyr a thair gorsaf gymorth ar filltiroedd 18, 31 a 51 ar ei ffordd. Mae’r llwybr yn dilyn y B4436 yn ôl tua’r A4067 ar hyd y bae ac yn ôl am ganol y ddinas i faes parcio East Burrows at yr ardal drawsnewid.

Rhedeg

O’r ardal drawsnewid, bydd y ras redeg yn un syml, lle bydd y rhedwyr yn rhedeg ar hyd bae hyfryd Abertawe ddwywaith.

Bydd yr athletwyr yn pasio dau fan poblogaidd i wylwyr, Pentref TriClub, y tair gorsaf gymorth a gorsaf Red Bull cyn rhedeg lap arall o’r bae. Yr unig newid ar yr ail lap yw y bydd athletwyr yn parhau ar hyd Oystermouth Road ac i mewn i Erddi’r Amgueddfa, lle byddant yn rhedeg i lawr y carped coch ac yn cwblhau IRONMAN 70.3 Abertawe.

 

TAFARN THE WOODMAN, Y MWMBWLS

Bydd man cefnogi yma, ar hyd Bae Abertawe, ar bwynt milltir 3.2 a milltir 53 y ras ar y beic. Os ydych chi am aros yn agosach at ganol y ddinas, dyma fydd y cyfle olaf i ddymuno’n dda i’ch athletwyr cyn iddynt deithio i benrhyn Gŵyr, a dyma fydd y cyfle cyntaf i chi eu cefnogi wrth iddynt ddychwelyd.

MYNEDIAD

Mae cyrraedd tafarn The Woodman yn eithaf syml – gallwch deithio mor agos â Sketty Lane lle gallwch barcio, ac yna cerdded yr 20 munud ar hyd y bae i’r dafarn. Wrth i chi gerdded i The Woodman, byddwch yn cyrraedd yr orsaf Red Bull Activation yn gyntaf, lle bydd athletwyr yn stopio i gydio mewn can. Os ydych chi’n parhau i gerdded ar hyd y bae, byddwch yn gallu mwynhau’r cwrs beicio a’r cwrs rhedeg felly mae tafarn The Woodman, a’r daith i’w chyrraedd, yn fan gwylio arbennig.

 

MAN GWYLIO GWESTY’R KING ARTHUR, REYNOLDSTON

Mae’r pwynt 20 milltir yn Reynoldston, sydd yng nghanol penrhyn Gŵyr a gallwch gyrraedd Gwesty’r King Arthur ar droed mewn munud yn unig. Gallwch gyrraedd y man hwn yn hawdd ac ni fydd unrhyw ffyrdd ar gau felly gallwch ddychwelyd i Abertawe i wylio’ch athletwr yn rhedeg.

MYNEDIAD

Bydd athletwyr yn teithio trwy Reynoldston unwaith, ond gan eich bod eisoes yng nghanol Gŵyr, rydych o fewn pellter cerdded i Cillibion, a bydd yr athletwyr yn teithio trwy’r lleoliad hwn ddwywaith. Gellir cael mynediad i Reynoldston trwy North Gower Road, Lanrhidian ac Oldwalls – a gellir cael mynediad i mewn ac allan drwy’r dydd.

SIOP FFERM EASTERN, MAN GWYLIO OLDWALLS

Mae Siop Fferm Eastern yn Oldwalls wedi bod yn cefnogi IRONMAN 70.3 Abertawe ers cyhoeddwyd y ras, ac er nad yw’r cwrs yn teithio heibio’r siop yn uniongyrchol eleni, gallwch ei chyrraedd ar droed ymhen 15 munud o bwynt 24 milltir a phwynt 40 milltir y cwrs – felly dyma le gwych i gael coffi wrth aros am yr ail lap.

MYNEDIAD

Ni fydd unrhyw ffyrdd ar gau a fydd yn effeithio ar Siop Fferm Eastern oherwydd bydd y ffordd hon yn parhau ar agor felly gallwch deithio ar y B4295 i’w chyrraedd – ond cofiwch, efallai bydd y daith yn brysurach na’r disgwyl oherwydd y B4295 yw’r unig ffordd fynediad i benrhyn Gŵyr ar y diwrnod hwnnw.

 

MAN GWYLIO THE SECRET BEACH BAR AND KITCHEN

Bydd y man hwn yn lle gwych i gefnogwyr fynd iddo drwy’r dydd a bydd digonedd o adloniant. Mae’r lleoliad hwn yn cynnig y cyfleoedd gorau i chi weld eich athletwr gan y byddant yn teithio heibio’r pwynt hwn ddwywaith ar y beic a phedwar gwaith wrth redeg. Bydd gennych hefyd gyfle gwych i fwynhau’r bae yn ei holl ogoniant.

MYNEDIAD

Gan y bydd Oystermouth Road ar gau, bydd angen i chi gerdded o’r ddinas, ar hyd y bae, sy’n cymryd tua 30 munud, ond dyma fan gwych i gefnogwyr a bydd gennych gyfle i gael rhywbeth i fwyta wrth i chi wylio eich athletwr yn teithio heibio chwe gwaith.

 

MAN GWYLIO LIDO BLACKPILL/CLWB TREIATHLON

Mae Lido Blackpill ar bwynt 4.6 milltir a 10.2 milltir y ras a dyma ardal wych ar gyfer adloniant i’r teulu yn ogystal â chefnogi’r Clwb Treiathlon. Gall cefnogwyr gefnogi eu hathletwyr ar lap cyntaf ac ail lap y cwrs rhedeg.

MYNEDIAD

Mae mynediad i Lido Blackpill yn debyg i’r mynediad i dafarn The Woodman felly gallech symud o un i’r llall er mwyn gweld eich athletwr ar y cwrs beicio a’r cwrs rhedeg.