Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Gyfres Para Treiathlon y Byd Volvo Abertawe a gynhelir ar 22 Mehefin? Cymerwch gip ar ein cwestiynau cyffredin isod!
Os nad yw’ch cwestiwn wedi’i ateb uchod, e-bostiwch swansea@britishtriathlon.org
Beth yw Cyfres Para Treiathlon y Byd 2024 Abertawe?
Bydd dinas Abertawe unwaith eto’n cynnal Cyfres Para Treiathlon y Byd yn 2024, gan groesawu paradreiathletwyr gorau’r byd i dde Cymru, gan gynnwys pencampwyr Paralympaidd y byd ac Ewrop. Cynhaliwyd digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd annibynnol cyntaf erioed Prydain gan ddinas Abertawe yn 2022 a bydd y digwyddiad para treiathlon rhyngwladol hwn unwaith eto’n dychwelyd i’r ddinas. Bydd y goreuon yn ymuno ag athletwyr addawol ar gyfer rhan o Uwch-gyfres Para Treiathlon Prydain yn ogystal â chyfleoedd i gyfranogwyr gymryd rhan mewn rasys nofio, beicio a rhedeg a bydd y cyfan yn Noc Tywysog Cymru a Glannau SA1.
Ble mae’r digwyddiad?
Bydd y digwyddiad yn dechrau ac yn gorffen yn ardal Glannau SA1, a bydd pentref y digwyddiad wedi’i leoli yno hefyd, drws nesaf i Ddoc Tywysog Cymru a Chei’r De.
Pryd mae’r digwyddiad?
Cynhelir Cyfres Para Treiathlon y Byd 2023 Abertawe ddydd Sadwrn 22 Mehefin 2024.
Ble gallaf gofrestru i wirfoddoli?
Helpwch i drefnu digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd 2024 Abertawe drwy gofrestru i fod yn wirfoddolwr ar gyfer digwyddiad 2024. Cliciwch yma i gofrestru i wirfoddoli yn Abertawe eleni
Sut gallaf gymryd rhan?
Cyfle i gymryd rhan – caiff rhagor o wybodaeth ei datgelu’n fuan am sut y gallwch gymryd rhan mewn rasys nofio, beicio a rhedeg yn y digwyddiad.
A fydd unrhyw ffyrdd ar gau?
Er mwyn hwyluso’r digwyddiad hwn yn ddiogel bydd nifer o drefniadau cau ffyrdd, dargyfeiriadau traffig a chyfyngiadau parcio dros dro ar waith yn yr ardal, i sicrhau diogelwch athletwyr a’r cyhoedd.
Oes angen tocyn ar gyfer pentref y digwyddiad?
Nac oes, ar hyn o bryd rydym yn bwriadu cynnig ardaloedd mynediad cyffredinol am ddim o amgylch y glannau ar gyfer y rheini sydd am wylio’r digwyddiad yn ystod y bore a’r rasys elît, gyda’r pentref digwyddiadau yn rhan o hyn
Gyda digon i’w wneud, llawer i’w archwilio a hyd yn oed mwy i’ch difyrru ni waeth beth yw’ch oed, mae’n gyrchfan perffaith i’r rheini sydd am wneud y gorau o’u diwrnod yn Abertawe. Dros y penwythnos gallwch ddod o hyd i’r canlynol:
Hoffwn wylio’r digwyddiad, ydy’r safle’n hygyrch ar gyfer y rheini ag anabledd?
Mae’r digwyddiad yn hygyrch i bawb. Bydd man gwylio dynodedig ger y llinell derfyn ar sail y cyntaf i’r felin.
Faint o’r gloch bydd rasys Cyfres Para Treiathlon y Byd 2024 yn dechrau?
Cadarnheir amserlen y digwyddiad yn agosach at y digwyddiad a chynhelir rasys y goreuon yn y prynhawn.
Ble mae’r lle gorau i weld yr holl gyffro?
Mae’r llinell gychwyn, y llinell derfyn a phentref y digwyddiad yng Nglannau SA1 ond nid yw’r cyrsiau llawn wedi cael eu cyhoeddi eto.