Er mwyn hwyluso’r digwyddiad yn ofalus, bydd nifer o ffyrdd ar gau dros dro a bydd dargyfeiriadau traffig a chyfyngiadau parcio dros dro ar waith yn yr ardal, i sicrhau diogelwch athletwyr a’r cyhoedd.
Bydd arwyddion i ddangos y pwyntiau croesi dynodedig ar y cyrsiau beicio a rhedeg a bydd marsialiaid ar ddyletswydd, a gofynnwn i gerddwyr ddefnyddio’r rhain ar bob adeg.
Mae British Triathlon a Cyngor Abertawe, fel trefnydd y digwyddiad, yn awyddus i weithio gyda busnesau a thrigolion lleol i wneud popeth o fewn eu gallu i ddarparu ar gyfer anghenion lleol ac i adeiladu perthnasoedd gwaith cryf, sydd o fudd i bawb.
Yn anffodus, oherwydd natur y digwyddiad a’r ffyrdd sy’n cael eu defnyddio, ni allwn warantu y bydd mynediad anhanfodol yn cael ei gynnal drwy gydol y digwyddiad.
Rhagor o wybodaeth swansea@britishtriathlon.org